Skip to content

“Fe gymerais fy llwon priodas yn Gymraeg ar ôl ffoi am fy mywyd”

Medi 19, 2016
Picture by Nick Treharne

“Fy enw i yw Salah Rasool, rydw i’n dod o Gwrdistan, sy’n cael ei adnabod fel Gogledd Irac, ond yn gyffredinol nid wyf yn cyfrif fy hun fel Iraci. Cwrdaidd ydw i a byddai erioed yn berchen i Gwrdistan.

“Yn 1980 i 1988, roedd Irac yn rhyfela yn erbyn Iran, roedd y byd cyfan yn cefnogi Saddam. Fel cenedl, roeddem yn erbyn llywodraeth Irac. Fel plentyn a pherson ifanc, roeddwn yn byw trwy hynny, ac ar ôl 1991 a Rhyfel y Gwlff, fe wrthryfelom yn ein dinasoedd, ac fe welais fy mrawd yn cael ei anafu; plant oeddem yn rhedeg o amgylch yn chwarae pêl-droed ac roedd bwledi a bomiau ym mhobman.

“Yn 1997, roedd rhyfel cartref ar ôl i mi raddio o astudio bioleg yn y brifysgol. Roedd y gwrthdaro yn anodd iawn i ni ac fel cenedl Gwrdaidd ar yr adeg honno, ac roedd rhaid i mi adael.  Fe adawais bopeth y tu ôl i mi.

“Fe gymerodd tua naw mis i mi gyrraedd Cymru o Gwrdistan. Roedd yn rhaid i mi fynd o Gwrdistan Irac a cherdded trwy’r mynyddoedd i Iran, ac yna Twrci, gyda thua 20 o bobl. Cafodd 14 ohonom ein harestio, llwyddodd 6 ohonom i oroesi neu ddianc. Darllen rhagor…

Rhoi’r PlacFfactor i Bwll-glas!

Medi 15, 2016

image1.JPGGan Gareth Hughes, Swyddog Datblygu Gwybodaeth Leol

 

Mae Siop Gymunedol Pwll-glas yn Sir Ddinbych yn enghraifft wych o sut gall grant £30,000 greu cynifer o fuddion mewn cymuned leol. Enillydd Siop Bentref Orau Cymru 2015 y Gynghrair Cefn Gwlad yw un yn unig o’r clodydd niferus y maent wedi’u cronni dros y blynyddoedd diwethaf.

Gyda Ruth Bates, Pennaeth Cyfathrebu Cymru, galwais heibio Pwll-glas ym mis Awst, cawsom groeso cynnes iawn a gwnaeth ystod yr hanfodion a chynnyrch lleol a gynigiwyd ganddynt wir argraff arnom. Yn siop gymunedol brysur cyfagos â neuadd y pentref, mae’n foth go iawn i’r gymuned. Fodd bynnag, wrth bori’r stoc a’r holl wobrau, sylweddolom nad oeddem erioed wedi rhoi plac iddynt. Darllen rhagor…

Monitro a Gwerthuso – Awgrymiadau a syniadau

Medi 14, 2016

Evaluation-Check-List.jpgMae Kristine Porter, swyddog ariannu yn y Gronfa Loteri Fawr, yn gyfrifol am gefnogi a monitro prosiectau sydd wedi llwyddo i dderbyn arian. Dyma Kristine yn rhannu ei phrofiad o werthuso prosiect ac yn siarad â phrosiect a’i wnaeth yn arbennig o dda. 

Yn gweithio mewn rheolaeth grantiau, o bryd i’w gilydd rwy’n dod ar draws prosiect sydd yn amlwg yn gwneud gwahaniaeth enfawr ond yn ei chael hi’n anodd dangos effaith eu gwaith.

Yn aml gall fod yn anodd darparu tystiolaeth o ganlyniadau meddal, megis hyder cynyddol neu lai o unigedd. Ac er bod lle i ffurflenni adborth, nid ydynt bob amser y ffordd orau o werthuso gan y gallant fod yn amhersonol a darparu gwybodaeth gyfyngedig. Darllen rhagor…

O Abertawe i’r Somme – Llwyddiant beicio Sarah!

Medi 8, 2016
14224681_323657027975422_9088809095624122372_n

Ar ôl clywed am noson fenywod Clwb Beicio Action Bikes trwy’r wasg a ffrindiau, aeth Sarah Thyer-Hughes i un o’u cyfarfodydd, gan gwrdd â beicwyr eraill a oedd yn ystyried cymryd rhan yn y digwyddiad Beicio i’r Somme. Mae cymryd rhan yn y clwb wedi’i helpu gwella’i hiechyd a chwrdd â phobl newydd ar yr un pryd. Mae Sarah yn dweud mwy am ei thaith ffigurol, a llythrennol iawn!

“Beth gallaf ei ddweud! Bron wedi cyrraedd 52 oed a chyfnod bywyd pan ddylwn fod yn arafu ychydig ac ymgymryd â rhywbeth braidd yn llai egnïol! Ar ôl cael fy erlid gan Richard Smith o Action Bikes yn Abertawe ers dwy flynedd bron, bant a fi i Sports Direct un amser cinio dydd Iau a phrynu helmed feicio newydd gydag ychydig o binc arni, ac yna i’r Noson Fenywod Action Bikes gyntaf ym mis Mawrth 2016 i weld beth oedd yn digwydd. Darllen rhagor…

Pennod newydd yn stori Magi Ann

Medi 6, 2016

Main image.jpgDyma Elan Jones yn esbonio sut mae Menter Iaith Sir y Fflint wedi defnyddio £5,000 i ddatblygu apiau i gefnogi rhieni di-Gymraeg nad ydynt yn hyderus wrth siarad yr iaith a dysgwyr i ddarllen Cymraeg cyfnod sylfaen ochr yn ochr a’u plant

“Pwy fyddai wedi meddwl nôl yn y saithdegau y byddai Magi Ann, cymeriad hoffus y llyfrau bach, yn seren sgriniau ffonau symudol a thabledi ddeugain mlynedd yn ddiweddarach? Mae cenedlaethau o blant ardal Clwyd (a thu hwnt) wedi dysgu darllen gyda’r llyfrau du a gwyn, ond erbyn heddiw mae’r straeon ar gael yn genedlaethol, am ddim, ac wedi animeiddio am y tro cyntaf. Gyda dros 38,750 wedi lawrlwytho ei apiau, a’i chalendr yn gyflym lenwi gydag ymweliadau mewn digwyddiadau ac eisteddfodau dros y wlad, mae Magi Ann yn brysur ddod yn ‘A-lister’ yng Nghymru, llawn cystal ag unrhyw Fryn boed hwnnw’n Derfel neu’n Fôn… Darllen rhagor…

Sut gall gwneud elw helpu’ch cymuned

Awst 26, 2016
4327_1_thumbnail_746x498_page1_66883

Mae dibynnu ar arian grant yn mynd yn gynyddol anodd i grwpiau cymunedol wrth i gystadleuaeth dros ariannu godi yn erbyn cefndir o doriadau ariannu. Mae rhai grwpiau’n cwrdd â’r her ariannu hon yn uniongyrchol ac yn cychwyn mentrau cymdeithasol.

Beth yw menter gymdeithasol?

Mae menter gymdeithasol yn fudiad sydd â chenhadaeth gymdeithasol ac/neu amgylcheddol glir ac sy’n cynhyrchu’r mwyafrif o’i hincwm trwy werthu nwyddau neu wasanaethau yn hytrach na thrwy grantiau neu roddion. Yn rhedeg fel busnes, mae menter gymdeithasol yn anelu at wneud elw ond yn lle dychwelyd elw i unigolion neu gyfranddeiliaid, maent yn cael eu buddsoddi’n ôl yn y mudiad i ariannu gweithgareddau neu brosiectau y gall pobl a’u cymunedau elwa ohonynt.

Pam mae’n bwysig i fentrau cymdeithasol wneud elw?

Efallai nad yw’n amlwg ar unwaith bod angen i fentrau cymdeithasol wneud elw, ond heb yr elfen hon ni allant gynnal eu hunain a pharhau’n gystadleuol yn y sector busnes.

A all y Gronfa Loteri Fawr ariannu menter gymdeithasol? 

Er i ni hoffi dosbarthu grantiau’n fawr, nid oes gennym ddigon o arian ar gyfer pob cais am ariannu. Gan hynny, rydym yn archwilio p’un a oes gan fudiad ystod o ffrydiau ariannu gan y gall hyn helpu ei gynaladwyedd a’i atal rhag mynd yn ddibynnol ar ein harian grant.

Gallwn, ac rydym wedi, ariannu ystod o fentrau cymdeithasol yng Nghymru:

Mae Xcel Bowl yng Nghaerfyrddin yn gweithredu ale fowlio gyfoes y mae ei helw’n mynd tuag at redeg nifer o brosiectau yn eu cymuned gan gynnwys siop dodrefn a chyfarpar gwyn cost isel sy’n rhoi cyfle i bobl ar incwm isel yn yr ardal brynu eitemau fforddiadwy. Gallwch ddarllen mwy amdanynt ar eu gwefan trwy glicio yma!

Mae amgylchedd Alys yng Ngwlad Hud unigryw The Rabbit Hole Café yn Llandudno yn ei wneud yn lle anhygoel i bobl yn yr ardal gael cinio, ac mae hefyd yn llogi ystafelloedd cyfarfod a swyddfeydd fel ffynhonnell incwm ar wahân. Gyda’i elw, mae’r cwmni’n cynnig cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddiant i gefnogi pobl sy’n wynebu anawsterau iechyd a lles meddyliol, ac yn eu cefnogi i ddod o hyd i gyflogaeth ar yr un pryd. Gallwch ddarllen mwy amdanynt yn ein blog yma!

Mae Nuhi yng Nghaerdydd yn dylunio ac yn cyflwyno gweithdai hyfforddiant wedi’u teilwra o gwmpas ystod o bynciau gan gynnwys camddefnyddio sylweddau, cynhwysiad digidol a sgiliau cyflogadwyedd. Aiff yr elw o’r rhan hon o’r busnes tuag at gefnogi eu gwirfoddolwyr gyda chyfleoedd datblygu yn ogystal â chefnogi cleientiaid sydd ag anghenion cymhleth.

Ble gallaf gael mwy o wybodaeth am fentrau cymdeithasol?

Mae llawer o leoedd y gallwch helpu chi ddod o hyd i fwy o wybodaeth am fentrau cymdeithasol. Gall Canolfan Cydweithredol Cymru gefnogi chi i ddatblygu’ch menter gymdeithasol, mae Busnes Cymru‘n adnodd gwych hefyd gan iddynt gynnig llawer o astudiaethau achos ar eu gwefan. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ehangach ar Go Full Circle hefyd.

Awgrymiadau ar gyfer rhedeg eich digwyddiad Dewch i ddathlu cymunedol

Awst 22, 2016

cinio mawr.jpgWrth i ni ddechrau gwneud dyfarniadau trwy ein rhaglen Dewch i ddathlu, dyma Dîm Allgymorth Cymunedol Y Cinio Mawr yn rhannu rhai o’u prif awgrymiadau ar gyfer rhedeg a hyrwyddo digwyddiad cymunedol.

Awgrymiadau Jocelyn ar gysylltu â’r cyfryngau lleol
Jocelyn, Is-Weithredwr Cysylltiadau Cyhoeddus

“Mae siarad â’r cyfryngau’n ffordd wych o ledaenu’r gair am eich digwyddiad neu ddathlu’ch cyflawniadau. Penderfynwch ba sianel gyfryngau yr hoffech chi siarad â nhw neu chwiliwch am Cysylltiadau cyfryngau Prydeinig ar-lein.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi digon o rybudd i newyddiadurwyr – anelwch at o leiaf wythnos cyn y digwyddiad ar gyfer papurau newydd a radio lleol – ac esboniwch yn glir ac yn gryno pam mae’ch digwyddiad yn arbennig. Os ydych yn defnyddio templed datganiad i’r wasg, copïwch y testun i gorff yr e-bost a gwnewch linell y pwnc yn ddeniadol fel ei fod yn sefyll allan mewn blwch post prysur newyddiadurwr!  A pheidiwch ag ofni dilyn nhw i fyny os nad ydych yn derbyn ymateb – mae’n bosib na fydd un e-bost yn ddigon!” Darllen rhagor…