
Mae pensiynwr o Ogledd Cymru wedi datgelu sut mae’r gefnogaeth a dderbyniodd gan gynllun y Groes Goch Brydeinig a ariennir gan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i bobl dros eu 50 oed wedi achub ei fywyd.
Mae’r pensiynwr, John Hyde, yn cyfaddef yr oedd wedi “cyrraedd y gwaelod” pan gysylltwyd ef â gwasanaeth galluogi a bod yn gyfaill Gofal i bobl dros 50 oed yng ngogledd Cymru. Roedd y dyn 66 oed yn cael ei drin yn yr ysbyty ar ôl cwympo pan ddatgelodd i nyrs ardal pa mor isel yr oedd yn teimlo, ac fe’i cyfeiriwyd i wasanaeth Gofal y Groes Goch Brydeinig.
Wedi’i ariannu gyda bron miliwn o bunnoedd (£988,452) gan raglen Llawn BYWYD Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae gwirfoddolwyr o’r prosiect yn ymweld â phobl hŷn fregus fel John yn eu cartrefi am hyd at 12 wythnos, gan eu helpu i daclo unigrwydd ac unigedd, ac annog rhyngweithio cymdeithasol trwy greu cyswllt rhyngddynt â gwasanaethau a grwpiau cymdeithasol yn eu cymunedau lleol. Mae’r prosiect hefyd yn cynnig gwasanaeth bod yn gyfaill proffesiynol mewn cartrefi buddiolwyr, yn ogystal â chefnogaeth dros y ffôn.
Tri mis ymlaen mae pethau wedi newid, ac mae John bellach yn mynd o gwmpas gyda John arall – gwirfoddolwr ac athro wedi ymddeol, John Harris. . .

“Rwy’n byw ar fy mhen fy hun, nid oes gennyf deulu yn yr ardal ac fe gollais fy nghoes trwy glefyd y siwgr. Roedd yn frwydr i fynd allan o’r tŷ, ac weithiau roedd yn anodd iawn i fwrw ‘mlaen o gwbl. Roeddwn wir eisiau mynd allan a chwrdd â phobl.
Cyrhaeddais bwynt mor isel y meddyliais, a ddylwn ladd fy hun? A ddylwn gyflawni hunanladdiad a phethau fel ‘na? Roeddwn yn wirioneddol isel. Byddwn yn eistedd adref yn syllu ar bedair wal, yn gwneud dim byd.
Roeddwn wedi cyrraedd y gwaelod, wrth siarad â’r nyrs ardal fe wnes i ddweud rhywbeth. Nid oeddwn yn gallu goddef bywyd rhagor. Meddai hi, dwyt ti ddim yn mynd i deimlo fel ‘na – mi wna i ddod o hyd i rywun i dy helpu di.
Ni allaf roi digon o ganmoliaeth i John a thîm y Groes Goch. Gwnaethon nhw roi hwb go iawn i mi a gwneud i mi edrych yn fwy cadarnhaol ar bethau yn hytrach na syllu ar bedair wal yn pendroni dros bethau. Roeddwn yn isel, yn isel iawn ac wedi ystyried lladd fy hun ond gyda’r Groes Goch roedd gennyf rywun i siarad gyda nhw, roedd ganddynt ddiddordeb ac fe wnaethant rywbeth ar fy nghyfer i.

Roedd John [Harris] yn syfrdanol. Byddai’n cyrraedd bob tro a byddwn i’n dweud, cer ymlaen John, synna fi. Byddai’n mynd â mi allan i Landudno neu’r Rhyl a mannau eraill, a byddem yn cerdded o gwmpas. Byddem yn mynd i gaffi, cael paned o goffi a siarad â phobl. Mwynheais yn fawr. Gan mai athro yw John, rwy’n credu y gwnaeth e ddysgu i mi sut i mynd allan a mynd o gwmpas eto.
Rwy’n teimlo’n rhydd. Rwy’n teimlo fel fy mod eisiau gwneud pethau nawr. Mae’n deimlad gwych i mi i fod allan yn y byd.
Yn ôl y Groes Goch, wrth i ni fyw’n hirach, ar ein pennau ein hunain yn aml, bydd angen cefnogaeth ar bobl i gael eu bywyd yn ôl ar y trywydd iawn.
Gweld y cyfweliad gyda John Hyde ar ITV Wales
I gael mwy o wybodaeth am y prosiect Gofal cliciwch yma
I gael mwy o wybodaeth am y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol cliciwch yma www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh