Skip to content

Nawr gallwn wireddu breuddwyd y fferm!

Mawrth 25, 2013
Jimmy Doherty gyda’r bobl ifanc a ymddangosodd yn The Secret Millions

Jimmy Doherty gyda’r bobl ifanc a ymddangosodd yn The Secret Millions

Yma, mae Caathy Shortland o Ymddiriedolaeth Papworth yn dweud wrthym beth sydd ar y gweill ar ôl ymddangos ar The Secret Millions. Yn y rhaglen ar Channel 4, gwelwyd y Gronfa Loteri Fawr yn rhoi £2 filiwn i Ymddiriedolaeth Papworth i gynnig saib ar y fferm ar gyfer pobl anabl a’u teuluoedd:

Gallwch ddarllen blog Jimmy Doherty yma hefyd

Rwyf mor hapus i weld ein prosiect yn cael cyhoeddusrwydd, a mor gyffrous ein bod wedi ennill yr arian i’w gwneud hi’n realiti. Gall teuluoedd o unrhyw le yn y DU ymgeisio bellach i gael y profiad a welwyd ar The Secret Millions.

Bydd ein fferm yn galluogi teuluoedd i fynd i ffwrdd i gael saib gyda’i gilydd, yn hytrach na’r aelod anabl o’r teulu’n mynd i ffwrdd i gael saib ar ei ben ei hun, gan olygu bod y teulu’n cael saib hebddynt. Mae’n ymwneud â gwneud rhywbeth gwahanol gyda’i gilydd, rhywbeth ar wahân i’w hamgylchedd arferol.

Fferm Ceri a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr ger Y Drenewydd, Powys

Fferm Ceri a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr ger Y Drenewydd, Powys

Roedd y profiad Jimmy’s Farm ar The Secret Millions yn gyfle i Ymddiriedolaeth Papworth dreialu’r fferm yng Ngheri. Os dewch chi i Fferm Ceri, byddwch yn rhoi cynnig ar rywbeth gwirioneddol syfrdanol. Gallwch wneud rhai pethau fel teulu, rhai pethau ar wahân a chael profiad anhygoel. Dylai pawb fedru defnyddio profiadau’r wythnos honno a pharhau â’r newidiadau hynny yn eu bywydau.

Advertisements
No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: