Ar ôl pleidlais gyhoeddus, rhannodd pum grŵp o Gaerffili yn ne Cymru £25,000 yn ein cystadleuaeth Gafael mewn Grant ddiweddaraf. Gallwch ddarllen am y profiad o ennill mewn blog gan Margaret Turner o’r Gymdeithas Strôc – un o’r ymgeiswyr llwyddiannus.

Rydym yn gyffro i gyd ar ôl ennill £5,000 ar gyfer ein dau grŵp strôc yn ardal Caerffili. Diolch i’r cynllun Gafael mewn Grant bydd modd o dros 80 o oroeswyr strôc wneud cyrsiau a gweithdai i helpu gydag ailsefydlu a dysgu sgiliau newydd. Allen ni ddim aros am rannu’r newyddion gydag aelodau ein grŵp. Mae’r cyrsiau hyn yn rhywbeth y maen nhw wedi bod yn awyddus i wneud ers tro ond heb ariannu nid oedd yn bosib.Mae’r grwpiau’n llinell fywyd i lawer o’n haelodau gan fod yr ychydig oriau ‘na o gymdeithasu’n uchafbwynt i’w hwythnos. Trwy gymryd rhan yn y cyrsiau rydym yn gobeithio y bydd ein haelodau’n gweld cynnydd yn eu hyder, gan eu galluogi i ddechrau ailadeiladu eu bywydau.
Mae’r grant yn golygu y gall y grwpiau ailddysgu sgiliau megis coginio neu arddio ac mae llawer o aelodau wrth eu boddau y gallant roi cynnig ar rywbeth gwahanol ac efallai dod o hyd i ddiddordeb neu ddawn newydd.
Mae wedi bod yn fwrlwm o weithgarwch ers i ni wybod ein bod wedi cyrraedd y rhestr fer yn y 10 terfynol ac roedd yr wythnos bleidleisio’n brysur ond yn brofiad hynod o gadarnhaol wrth i ni gwrdd â phobl newydd a chodi ein proffil.
Rhaid i ni ddweud diolch yn fawr am y gefnogaeth ryfeddol a gawsom gan ein holl gysylltau, y rhai hen a’r rhai newydd. Cymerodd llawer o fusnesau lleol ran ac roedd aelodau’r cyngor lleol yn rhagweithiol iawn wrth roi’r si ar led.
Hoffem annog grwpiau eraill yng Nghaerffili i ymgeisio i’r cynllun hwn os caiff ei gynnig eto, gan yr oedd yn bleser i weithio gyda Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Diolch yn fawr eto i Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am gynnig y cyfle hwn i grwpiau.