Skip to content

Salwch yw hwn, nid dewis

Medi 16, 2013
Mae Ffion Jones wedi dioddef gyda anhwylder bwyta am y rhan fwyaf o'i bywyd

Mae Ffion Jones wedi dioddef gyda anhwylder bwyta am y rhan fwyaf o’i bywyd

Fel llawer o bobl ifanc o’i hoedran hi, mae Ffion Jones, sy’n 23 oed ac yn hanu o Sir Gâr, yn dwlu ar deithio, darllen, gwrando ar gerddoriaeth a threulio amser gyda ffrindiau a theulu. Fodd bynnag, yn ein blog diweddaraf mae hi’n datgelu sut mae hi wedi brwydro yn erbyn salwch meddwl am y rhan fwyaf o’i bywyd a sut mae wedi taro ergyd enfawr iddi na fydd hi byth, o bosib, yn ymadfer ohono.

Mae Ffion bellach yn defnyddio ei phrofiadau brawychus o salwch meddwl mewn ffordd gadarnhaol fel eiriolwr dros Amser i Newid Cymru, ymgyrch a ariannwyd gyda thros filiwn o bunnoedd gan y Gronfa Loteri Fawr gyda’r nod o ddod â stigma iechyd meddwl a gwahaniaethu i ben yng Nghymru. Yma mae hi’n esbonio sut mae hi’n ceisio defnyddio’r profiadau hynny i helpu pobl eraill sy’n profi’r un peth.

Dw i wedi gwneud llawer o bethau gyda fy mywyd hyd yma – dwi wedi bod ar wyliau, gweld y Fatican yn Rhufain ynghyd â nenfwd Michelangelo, ymweld â Phyramidiau’r Aifft, dringo’r Wyddfa, paragleidio, nofio gyda dolffiniaid a gweld cyfran deg o gyngherddau cerdd a chyflwyniadau theatr.

Yn ogystal â’r profiadau hyfryd hyn dw i hefyd wedi cael  fy secsiynu o dan y ddeddf iechyd meddwl tair gwaith, cael fy nal i lawr a’m bwydo trwy diwb NG, treulio misoedd ar y pryd mewn ysbytai cyffredinol a seiciatrig, dioddef o Iselder Seicotig – a rodd rithwelediadau i mi o gysgodion tywyll yn cael eu hanfon i niweidio fy nheulu, ac wedi gwthio fy nghorff i’r fath eithafion arswydus y gwnes i bron â cholli fy mywyd ar sawl achlysur – i gyd oherwydd i Anhwylder Bwyta fy nhal yn ei grafangau ers yr oeddwn i’n 11 oed.

Er gwaetha’r hyn y mae llawer o bobl yn dewis i’w gredu, gwnes i ddim ddewis mynd yn anorecsig. Nid oedd un eiliad erioed pan feddyliais yn sydyn, “Dw i’n gwybod, mi wna i ddinistrio fy mywyd dros y ddegawd nesaf, mae hwn yn syniad gwych.” Ac ches i ddim blentyndod trawmatig, ces i byth fy ngham-drin. Rwy’n lwcus iawn gan fod gennyf deulu gwych sydd wedi fy nghefnogi mewn ffordd nad oeddwn yn credu yr oedd yn bosibl. Dim ond 6 blwydd oed oedd fy mrawd pan ddaeth cyd-ddisgybl ato yn iard yr ysgol a dweud “Dywedodd fy mami fod dy chwaer yn mynd i farw.” Mae wedi tyfu lan yn ymweld â’i chwaer hynaf mewn unedau seiciatrig, chwarae cardiau gyda fi pan oedd tiwb NG lan fy nhrwyn ac wedi gweld fi’n mynd i’r uned damweiniau a brys pan aeth y baich o fyw gyda’r salwch yn drech na fi ac fe drïais ladd fy hun. A’r peth mwyaf trist yw nad yw’n cofio fi’n dda. Mae fy euogrwydd gyda hyn i gyd yn rhywbeth na fydd byth yn fy ngadael i, ond y cyfan y gallaf ei wneud nawr yw bod y chwaer mawr yr oeddwn bob amser eisiau bod yn yrr amser sydd gennym ar ôl gyda’n gilydd.

Pan es i’n sâl yn gyntaf roedd yn ergyd enfawr, nid oeddwn yn disgwyl iddo fod mor gryf. Nid oeddwn byth eisiau colli pwysau, roeddwn eisiau bod yn ‘well’, roeddwn yn casáu fy hun ac eisiau newid a theimlo’n rhan o bethau a bod yn iawn gyda fy hun. A’r man cychwyn amlwg ar gyfer hynny (fel yn y ffilmiau) yw deiet da ac ymarfer corff, yna mae’r ferch yn bachu’r bachgen a’r holl ffrindiau cŵl ac yn byw yn hapus am byth, ie? Dw i wedi gweld llawer  o ffilmiau ac mae’n digwydd ym mhob un –  Legally Blonde, Bridget Jones, Miss Congeniality, roedd i’w weld yn gynllun di-ffael ar y pryd.

Ond wrth i mi feddwl fy mod yn adennill rhywfaint o reolaeth dros fy mywyd, fe sylweddolais nad oedd gennyf unrhyw reolaeth o gwbl. Roedd y chwe mis cyntaf o fynd yn sâl fel gwrthdrawiad car arswydus, roeddwn fel ton enfawr o ddinistr ac es i o fod yn rhywun hollol iach yn ei arddegau i fod ar fin marwolaeth gyda ffobia o bopeth yn ymwneud â bwyd.

Ar adegau mae estroniaid yn y stryd wedi gweiddi arna i. Beth bynnag y gallwch chi feddwl am, maen nhw wedi’i ddweud – “Vegetarian toothpick, key hole Kate, byta byrger, yr ast denau, **king disgusting.” Gwnaeth rywun daflu pastai at fy mhen y tu allan i Greggs un tro. Y peth arall y mae pobl yn hoffi dweud yw pa mor ddeallus yr ydw i, “Mae hi mor glyfar, pam mae hi’n gwneud hwn?” Mae’r ateb yn gymharol syml – mae gen i salwch meddyliol. Nid oes rhesymeg mewn salwch meddwl. Os oedd mor syml â bwyta Big Mac a gweld y salwch yn diflannu byddwn i wedi gwneud hynny 12 mlynedd yn ôl.

Mae’r niwed i’m corff wedi gadael fi’n dioddef o Osteoporosis Difrifol, a dyw hynny ddim yn dda yn 23 oed. Dw i heb ddarganfod eto a alla i feichiogi ychwaith. Ar hyn o bryd rwy’n well nag yr wyf wedi bod erioed, am y tro cyntaf yn fy mywyd rwy’n iach, mae pwysau fy nghorff yn iach am y tro cyntaf ers yr oeddwn yn 12 oed.

Mae dioddef o Anhwylder Bwyta yn golygu cael eich dal yng nghrafanc canser seicolegol difrifol y mae ei unig nod yw dinistrio bywydau ei ddioddefwyr prydferth a diarwybod. Neges syml sydd gennyf – peidiwch byth â cholli gobaith, peidiwch byth â rhoi’r gorau iddi a pheidiwch byth â theimlo cywilydd eich bod yn sâl. Ni fydd pawb yn deall yr hyn rydych yn ei brofi ac efallai bydd llawer yn eich barnu chi’n anghyfiawn, ond gwrandewch ar y miliynau sy’n dioddef – nid dewis yw hwn ond salwch ac fel unrhyw salwch arall – mae modd ei drin.

Gallwch gael gwybod mwy am Amser i Newid Cymru a stigma iechyd meddwl yn  www.amserinewidcymru.org.uk ar Twitter @ttcwales  ac ar Facebook yn www.facebook.com/amserinewidcymru

Rhowch eich barn i ni am y blog hwn. Gadewch eich sylwadau isod

Advertisements
No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: