Skip to content

Monitro a gwerthuso: bendith neu felltith?

Hydref 10, 2013

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo rywfaint o anesmwythyd wrth feddwl am fonitro a gwerthuso. Mae’n cael ei ystyried yn beth negyddol o ran ‘gwaith papur’, ‘amser ychwanegol’ a ‘biwrocratiaeth’, ysgrifennodd Andrea Clarke, Rheolwr Cyfathrebu.  
tickOnd o’i gynllunio’n dda, fe all monitro a gwerthuso rymuso eich prosiect a’ch staff a rhoi’ch prosiect ar y llwybr cywir at fawredd.

Yn y Gronfa Loteri Fawr rydym wrth ein bodd â Monitro a Gwerthuso am bum rheswm allweddol:

  • Mae’n dweud wrthym am y gwahaniaeth y bydd eich prosiect yn ei wneud dros amser i fuddiolwyr, gwirfoddolwyr a’r sector ehangach.
  • Mae’n dweud wrthym pan fydd pethau yn gweithio’n dda a phan nad yw’n gweithio cystal ac yn caniatáu i ni gefnogi unrhyw newidiadau i’ch prosiect.
  • Mae’n meithrin diwylliant o ystyried a dadansoddi i wella’ch gwaith.
  • Mae’n caniatáu i gyllidwyr eraill weld sut y mae’ch prosiect yn perfformio a pha un a yw’n werth eich ariannu.
  • Mae’n adnabod arfer da i helpu eraill i wneud gwelliannau.

Heb fonitro a gwerthuso fe allai eich prosiect fod yn dilyn y trywydd anghywir, efallai eich bod yn colli buddiolwyr, yn defnyddio adnoddau ychwanegol neu’n dyblygu gwasanaethau cyfredol. Yn ychwanegol ni fydd gan eich prosiect sylfaen dystiolaeth; bydd eich llwyddiant wedi’i seilio ar ‘farn’.

Mae monitro a gwerthuso yn fendith o’i gynllunio’n gywir. Felly beth ddylech chi ei ystyried wrth ei gynllunio?

  •  Y gwahaniaeth rhwng monitro a gwerthuso. Monitro yw casglu data rheolaidd ar gyfnodau allweddol yn eich prosiect fel arfer ar y dechrau, yn y canol ac ar y diwedd. Tra bod gwerthuso yn edrych ar y cwestiynau dyfnach megis sut a pham y mae’r canlyniadau yn cael eu cyflawni.
  • Y cwestiynau a fydd yn cael eu gofyn a sut y byddant yn cael eu gofyn. Mae gofyn i fuddiolwyr ‘a ydych chi’n meddwl bod y prosiect wedi gweithio’n dda’ yn arwain yr ateb ac mae’r canlyniadau yn debygol o fod yn unochrog. Mae’n well gofyn i gyfranogwyr roi sgôr i wasanaeth neu eu sgiliau yn erbyn graddfa.
  • Y gynulleidfa a chyswllt. Rwy’n annhebygol o lanw holiaduron hir felly pam ein bod yn disgwyl i eraill wneud hynny? Dylai dulliau monitro a gwerthuso fod yn ymgysylltu a dylai ganiatáu ar gyfer elfen o anhysbysrwydd er mwyn sicrhau adborth gwirioneddol, diduedd.
  • Maint a graddfa’r gwerthusiad. Mae cyllidwyr eisiau gwybod am yr hyn sydd wedi gweithio ac nad yw wedi gweithio gyda maint sampl cadarn. Dylai gynnwys buddiolwyr, budd-ddeiliaid, staff a sefydliadau partner eich prosiect.
  • Sut y bydd canfyddiadau’r gwerthusiad yn cael eu defnyddio. Casglwch ddata sy’n berthnasol ac sy’n apelio i ystod o gyllidwyr i helpu gyda dylanwad, partneriaethau a chynaliadwyedd.
  • Costau ac adnoddau. Cofiwch ei roi yn eich cyllideb a’i fod yn rhan o’r cynlluniau gwaith ar gyfer staff a gwirfoddolwyr. Esboniwch pa mor bwysig ydyw i’r rheini sy’n gysylltiedig a sut y bydd yn arddangos eich llwyddiannau a’ch hyblygrwydd – bydd hyn yn helpu i’w atal rhag cael ei weld yn ‘faich’.

Yn olaf y prosiectau hynny sy’n parhau i fonitro, gwerthuso ac addasu i ganfyddiadau sydd fwyaf tebygol o lwyddo i sicrhau ariannu pellach a hirdymor.

Mae digon o offer a nodiadau arweiniad pellach ar gael i helpu i gynllunio’r monitro a’r gwerthuso gorau ar gyfer eich prosiect. Darllenwch ein Canllaw i Hunanwerthuso a’n Canllaw i Ganlyniadau fel man cychwyn.

Pob hwyl

Advertisements
No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: