Skip to content

Cyn-filwr yn Lwcus i Oroesi Ymosodiad Torpido

Tachwedd 8, 2013
Ymunodd Eddie Linton o Gasnewydd a'r Llynges Frenhinol pan yn 17 oed

Ymunodd Eddie Linton o Gasnewydd a’r Llynges Frenhinol pan yn 17 oed

Wrth i ni baratoi i gofio’r rhai a fu farw yn y gad ar 11 Tachwedd, mae cyn-filwr Dydd-D o Gymru y cafodd ei long ei suddo gan long danfor Yr Almaen gan achosi 110 o farwolaethau yn cofio sut yr oedd yn lwcus i oroesi.

Diolch i ddyfarniad gan raglen Arwyr yn Ôl y Gronfa Loteri Fawr , ymwelodd Eddie Linton sy’n 87 oed ac yn hanu o Gasnewydd â thraethau Normandi’n ddiweddar am y tro cyntaf i osod torch er cof am y 110 o’i gymheiriaid a fu farw ar y ffrigad, HMS Mourne – y llong y gwnaeth ei wasanaeth arni yn yr Ail Ryfel Byd. Dyma ei stori yn ei eiriau ei hyn . . .

Ymunais ym mis Medi 1943 yn 17 oed. Pan es i lawr i Stryd y Frenhines, Caerdydd i ymuno y tro cyntaf, nid oedden nhw’n fodlon fy nerbyn i gan fod gennyf swydd ohiriedig.

Arhosais am bythefnos arall a dywedais wrthynt nad oeddwn i’n gweithio a dyna sut y ces i ymuno. Nid oedd fy nhad yn hoffi’r syniad o gwbl ond fe ddywedais wrtho fy mod yn mynd ac fe aeth yn wallgof. Yna pennodd ef a’i gyfaill drws nesaf i fyny’n ymuno â’r fyddin gyda’i gilydd. Roedd yn gweithio ar y gynnau gwrth-awyren AK-AK a’r chwiloleuadau yng Nghaerloyw. Cafodd fy nau frawd eu galw i wneud gwasanaeth hefyd, felly roedd yr holl fechgyn yn y teulu’n ymwneud â’r rhyfel. Roedd gennyf ewythr a gafodd ei ladd yn Dunkirk hefyd.

Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant 10 wythnos sylfaenol ar HMS Raleigh yng Nghernyw, cefais fy anfon i HMS Drake yn

Ymwelodd Eddie â thraethau Normandi'n ddiweddar am y tro cyntaf i osod torch er cof am y 110 o'i gymheiriaid a fu farw ar y ffrigad, HMS Mourne

Ymwelodd Eddie â thraethau Normandi’n ddiweddar am y tro cyntaf i osod torch er cof am y 110 o’i gymheiriaid a fu farw ar y ffrigad, HMS Mourne

Portsmouth cyn ymuno â’r llong, HMS Mourne, yn Lerpwl fel morwr abl. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â’r llong ar ôl yr holl hyfforddiant ac yn gyffrous iawn.

Rwy’n cofio pan hwylion ni allan o Lerpwl am y tro cyntaf gyda’r nos. Roedd Albanwr ar y llong gyda ni a phob tro y byddem yn gadael harbwr byddai’n canu ‘Mynyddoedd Mourne’ ar y bacbibau ar bont y llong. Gwnaeth e hynny pan gymeron ni ran yn yr ymgyrch Dydd-D. Rwy’n cofio hwylio allan am un ar ddeg o’r gloch y nos ac roedd ychydig bach yn annaearol yn clywed sŵn y bacbibau wrth i ni hwylio allan yn y tywyllwch. Ond yn gyffredinol fe gymerais i’r cyfan fel y digwyddodd. Rydych yn eithaf di-ofn yr oedran hwnnw.

Roedd y ni’n rhan o’r Pumed Grŵp Hebrwng a ddyrannwyd i Ymgyrch Neptune, elfen forol Dydd-D.  Ein goedd amddiffyn dynesfeydd gorllewinol traethau’r goresgyniad yn erbyn ymosodiadau gan llongau tanfor.

Nid oedd unrhyw hyfforddiant ar gyfer Dydd-D achos yr oedd y cyfan yn gwbl gyfrinachol.

Derbyniom y signal ac yna i ffwrdd â ni. Ein tasg oedd ysgubo’r Sianel am fomiau tanfor a llongau tanfor Yr Almaen er mwyn paratoi ar gyfer Dydd-D a’i gwneud hi’n ddiogel ar gyfer y llongau. Dyna oedd y diwrnod cyn Dydd-D. Fe hwylion ni allan gyda’r nos ac roeddwn ar wyliadwriaeth yn y bore am 4am. Pan cyrhaeddais fy safle gwylio daeth y cyfan yn amlwg. Roeddwn yn gallu gweld yr holl longau, miloedd ohonyn nhw – dydych chi erioed wedi gweld  y fath beth – roedd yn syfrdanol. Roeddem yn gwybod bryd hynny yr oedd rhywbeth mawr yn mynd i ddigwydd ac yn bendant roedd ychydig o gyffro.

Ar 15 Mehefin 1944 galwyd ni ffwrdd i ysgubo’r sianel ymhellach i ffwrdd o’r traethau. Roedd y ni’n mynd ati i ymosod llong danfor Yr Almaen ac yn ei hela hi pan, yn sydyn, cawsom ein taro gan dorpido o un arall ac aethom ni i lawr mewn dwy funud. Frwydrodd y llong yn syth a suddodd yn gyflym gan i’r arfdy blaen chwythu i fyny. Roedd y llong tanfor wedi defnyddio torpido ‘Gnat’ acwstig a anelodd at sain sgriwiau’r llong. Bu farw nifer syfrdanol o forwyr – 110 – ar y llong y diwrnod hwnnw a dim ond tuag ugain o ddynion a oroesodd y trychineb.

Suddwyd yr HMS Mourne ar Fehefin 15ed 1944.

Suddwyd yr HMS Mourne ar Fehefin 15ed 1944.

Roedd y rhan fwyaf o farwolaethau o ganlyniad i’r ergyd cychwynnol ac roedd hi’n yffach o ffrwydrad. Pan wnaeth ein taro ni, aeth pêl fawr o dân i fyny yn yr awyr. Roeddent wedi’n taro ni’n uniongyrchol yn ardal yr arfdy ac aeth y cyfan i fyny. Doedd dim siawns gan y diawliaid truan yn y grombil – dim siawns o gwbl.

Roeddwn gyda chyd-aelod o’r criw o Gaerdydd, Edward Bowen, ar y dec pan darodd y torpido a chafodd y ddau ohonom ni ein chwythu fyny i’r awyr.

Rwy’n cofio amddiffyn fy wyneb pan syrthiais i’r dec. Codais ac nid oeddwn i’n gwybod pa ffordd i neidio. Wrth iddi ddechrau mynd i un cyfeiriad, fe neidiais drosodd a chyffwrdd ag ochr y llong wrth i ni fynd i lawr. Ni welais erioed fy nghyfaill Edward o Gaerdydd eto. Cafodd ei ladd ac aeth e i lawr gyda’r llong. Teimlais mor flin drosto fe. Roedd yn byw gyda’i fam-gu a’i chwaer iau ac roedd gennyf deimladau at ei chwaer ar y pryd. Roeddem yn gyfeillion da ac roeddwn wedi treulio peth amser gydag ef yng Nghaerdydd. Ond dyna chi, dyna yw rhyfel sbo. Ni welais ei deulu eto ar ôl y rhyfel a ‘dw i wedi meddwl amdanyn nhw’n aml.

Pan es i dros yr ochr, roedd yn teimlo fel nad oeddwn byth yn mynd i ddod lan eto – teimlodd fel oesoedd. Mae pobl yn dweud bod eich bywyd yn fflachio o flaen eich llygaid yn y fath sefyllfa, ond fy unig deimladau fi oedd dros fy nheulu. Y peth cyntaf a feddyliais oedd ‘Mae’n rhaid i mi ddianc yn gyflym’ felly es i a dyna fe. Edrychais draw a gweld y llong yn suddo. Roedd y sgriw yn dal i droi ar y cefn wrth iddi fynd i lawr.

Roedd un bachgen o’r Barri’n dal gafael ar y rheilen warchod a dywedais, dere Taff, neidiwch yn y dŵr neu fyddi di’n colli’r bad. ‘Na’ dywedodd e, ‘dim ond ymosodiad ffug yw e’. Aeth e lawr gyda’r llong a gwelais i byth mohono  fe eto. Nid oedd wedi’i anafu, allai fe ddim nofio ac roedd ofn ar y bachgen druan.

Roeddem yn y dŵr am tuag awr ac yna aethom ni ar fflôt Carley ac eistedd o gwmpas yn aros i rywun ddod i’n casglu

Mae Eddie ymysg y llond llaw o longwyr oroesodd yr ymosodiad ar y Mourne

Mae Eddie ymysg y llond llaw o longwyr oroesodd yr ymosodiad ar y Mourne

ni. Sylweddolais ddifrifoldeb y sefyllfa pan welais cyn lleied ohonom ni oedd ar ôl yn y dŵr. Roedd y rhan fwyaf ohonom a oroesodd mewn cyflwr eithaf da ond fe niweidiais fy wyneb ac fy ochr. Er hynny, roedd ambell un mewn cyflwr gwael. Roedd yn rhaid i’r llongau roeddem ni gyda nhw fwrw ‘mlaen gan y bydden nhw wedi cael eu bwrw hefyd os oeddent wedi aros. Pan dawelodd y sefyllfa bydden nhw’n dod yn ôl a chodi’r goroeswyr. Dwi’n amau yr oedden ni yn y dŵr am tua phedair awr.

Ar ôl nifer o oriau yn y dŵr, codwyd  ni fyny gan HMS Aylmer ac aethpwyd â nhw’n ôl i Devonport.

Mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi estyn ei rhaglen Arwyr yn Ôl 2. Nid oes gan y rhaglen derfyn amser penodol ar gyfer ceisiadau. Bydd hyn yn sicrhau bod gan gyn-filwyr fwy o amser i ymgeisio am grantiau i dalu costau teithio a llety i’w galluogi i wneud teithiau yn ôl i leoedd ar draws y byd lle y gwnaethant wasanaethu.

Gallant hefyd dderbyn arian i gymryd rhan mewn seremonïau coffáu swyddogol yn y DU. I gael manylion cysylltwch â’r: llinell gymorth Arwyr yn Ôl 2:  0845 00 00 121 neu ewch i http://www.biglotteryfund.org.uk/welsh/global-content/programmes/uk-wide/heroes-return

Advertisements
No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: