Heddiw, fel rhan o’n dathliadau pen-blwydd yn ddeng mlwydd oed, rydym yn falch o gyhoeddi grant o £171,288 i Launchpad, elusen sy’n cefnogi cyn-filwyr y Lluoedd Arfog i ddychwelyd i fywyd fel sifiliaid yn Newcastle. Aeth Clare Cruddas i ymweld â nhw

Roedd yn syniad disglair a ddeilliodd o drafodaeth rhwng cyn-filwr a milwr wrth gefn, Ken McMillan o Ystadau’r Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr Cyf, a Jill Hayley, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Gymunedol Byker, a baratôdd y ffordd i aelwyd cyn-filwyr gael ei sefydlu yn Newcastle.
Gwnaethant sylweddoli y byddai cartref hen bobl aneconomaidd a segur o’r enw Tŷ Avondale ar Ystâd Byker yn gwneud pencadlys hyfryd i gyn-filwr y Lluoedd Arfog ddod o hyd i swyddi a llety parhaol yn y Gogledd-ddwyrain ohono, yn hytrach na phennu i fyny’n ddi-waith ac yn ddigartref.
Ym mis Awst 2013, agorodd Tŷ Avondale fel tŷ cyn-filwyr cyntaf yr elusen newydd, Launchpad. O fewn saith mis roedd y tŷ, yn cynnwys 34 o fflatiau un ystafell wely, yn llawn cyn-filwyr, o’r rhai a oedd wedi gwneud dros 20 mlynedd o wasanaeth ar ymgyrchoedd yn Iraq ac Afghanistan, i’r rhai nad oeddent wedi cwblhau hyfforddiant milwrol.
Ers agor, mae Tŷ Avondale wedi bod yn gartref i 42 o gyn-filwyr. Mae llawer wedi cymryd rhan mewn addysg a hyfforddiant, mae 14 wedi dod o hyd i swyddi ac mae wyth wedi symud ymlaen i lety arall.
Dywedodd cadeirydd Launchpad David Shaw wrthyf: “Mae’r prosiect hwn wedi datblygu’n rhyfeddol dros y 18 mis diwethaf. Mae’r cartref hen bobl di-raen a gwag wedi cael ei drawsnewid i ganolfan fywiog ar gyfer cyn-filwyr. Mae’r gymuned leol wedi croesawu’r cyn-filwyr ac mae Tŷ Avondale yn fan cychwyn gwych ar gyfer y cyn-filwyr wrth iddynt ddychwelyd i’r gymuned fel sifiliaid.”
Yn Nhŷ Avondale siaradais â Chyn-filwr David Hayles hefyd, sy’n pontio’n araf i fywyd fel sifiliad gyda chymorth gan Launchpad.

Dywedodd wrthyf: “Dysgodd pum mlynedd yn y Gwarchodlu Coldstream hunanddisgyblaeth a hyder i mi a sut i fod yn aelod gwerthfawr o dîm. Fel troedfilwr, fy nghenhadaeth oedd adfer a chynnal heddwch mewn amryw feysydd y gad. Gwnes i hwn yn falch iawn nifer o weithiau ar ymgyrchoedd mewn rhai amgylcheddau gelyniaethus iawn.
“Erbyn hyn mae’n rhaid i mi wynebu brwydr newydd – dygymod â bywyd fel sifiliad. Dros y misoedd diwethaf, ac ers i mi fod yn Nhŷ Avondale gyda Launchpad, rwyf wedi bod yn gwirfoddoli yn y diwydiant ffitrwydd i ennill hyder a phrofiad. Rwyf wedi helpu cyfeillion a theulu’n araf gyda chynlluniau deiet, sesiynau hyfforddiant, adeiladu cyhyrau a cholli pwysau.
Dymunwn bob lwc i David a holl breswylwyr eraill Tŷ Avondale ar gyfer y dyfodol.