Mae’r Cinio Mawr yn syniad syml iawn gan yr Eden Project. Y nod yw cael cymaint o bobl â phosibl ar draws y DU gyfan i gael cinio gyda’u cymdogion ar ddydd Sul cyntaf mis Mehefin bob blwyddyn fel gweithred gymunedol syml, cyfeillgarwch a hwyl.
Mae Anna Newman o Gymdeithas Tai Clwyd Alyn yn dweud wrthym am eu Cinio Mawr yn Llys Erw, cynllun tai gwarchod yn Rhuthun, Gogledd Cymru, ac mae’n rhoi rhai cynghorion ar sut i drefnu un.
“Roedd ein Cinio Mawr yn llwyddiant aruthrol! Roedd y tywydd yn berffaith ac fe wnaeth y preswylwyr fwynhau cymysgu gyda phobl o’r gymuned leol; nid yw rhai ohonynt yn cael cyfle i fynd allan ryw lawer. Daeth pawb ag ychydig fwyd i’w rannu, ac fe wnaethom hefyd gynnal cwis a raffl!
Fe wnaethom oll gytuno pa mor hyfryd oedd y diwrnod ac rydym eisoes wedi cynllunio un arall. Rydym yn adeiladu ar yr un yma trwy gymryd rhan yn y digwyddiad barbeciw Codi Arian Grill On ar 20 Gorffennaf, digwyddiad ledled y wlad er budd Cancer Research UK ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar!
Gyda’n Cinio Mawr yn brysur agosáu; daeth pawb at ei gilydd i helpu i orffen ein gardd. Fe wnaethom dderbyn grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru y llynedd ar gyfer dodrefn a phlanhigion, a daeth y gymuned at ei gilydd i sicrhau ei bod yn edrych yn dda. Dyma oedd uchafbwynt y digwyddiad i mi.”
Rwyf wedi dysgu llawer o’r diwrnod felly dyma fy nghyngor ar gyfer cynllunio Cinio Mawr
- Hysbysebwch yn eang.
Fe wnaethom anfon gwahoddiadau at 60 o bobl yn disgwyl y byddai o leiaf 30 yn mynychu, yn anffodus dim ond 16 a ddaeth oedd yn drueni! Pe bawn i’n cynnal un arall byddwn yn ei hysbysebu yn y papurau lleol i sicrhau bod mwy yn dod. - Gofynnwch i bobl ddod â phlât.
Mae gennym grŵp craidd o breswylwyr sydd wrth eu bodd â digwyddiadau fel hyn ac fe wnaethant chwarae rhan fawr wrth gynllunio! Fe wnaethant benderfynu y byddai pob un ohonynt yn dod â phlât o fwyd a beth fyddai’r bwyd hwnnw er mwyn sicrhau nad oedd gennym ormod o dreiffls! (Fe allai fod mor syml â chreision os nad ydych chi’n gogydd hyderus). Roedd hyn yn ffordd dda o gynnal digwyddiad yn rhad iawn.
- Archebwch eich Pecyn Cinio Mawr AM DDIM mewn da bryd.
Rhan o’r rheswm nad oedd llawer o bobl yn gallu dod oedd oherwydd mai dim ond ychydig wythnosau cyn y digwyddiad y gwnaethom anfon y gwahoddiadau allan. Os ydych chi’n bwriadu cynnal Cinio Mawr cofiwch gael eich pecyn yn ddigon cynnar er mwyn i chi allu anfon y gwahoddiadau yna allan!
- Peidiwch ag amcangyfrif yn rhy isel faint o
amser paratoi sydd ei angen!
Mae cymaint o bethau bach i’w gwneud ar y diwrnod, yng nghanol y cyffro wrth baratoi pethau fe wnes i anghofio’n llwyr ofyn i fy ngŵr gasglu fy mam-yng-nghyfraith! Roedd hynny’n golygu bod angen i mi wneud taith gron annisgwyl o 50 milltir ar fore’r digwyddiad. Cofiwch gynllunio ychydig amser ar gyfer amgylchiadau na ellir eu rhagweld!
- Gallwch gael amser gwych heb orfod gwario ffortiwn.
Rydym yn cynnal clwb brecinio bob pythefnos yr ydym yn codi £3.50 amdano. Fe wnaethom ddefnyddio’r arian a oedd yn weddill o’r clwb i helpu i brynu bwyd a gwobrau raffl ac wrth gwrs fe wnaethom ofyn i bobl ddod â bwyd hefyd! Aeth arian y raffl tuag at dalu am y diwrnod felly fe wnaeth y diwrnod dalu am ei hun fwy neu lai! Mae’r blog hwn yn rhan o gyfres o flogiau dwy ran; darllenwch y rhan gyntaf yma.