Wyddech chi fod y Gronfa Loteri Fawr yn un yn unig o sawl mudiad sy’n dosbarthu arian Loteri Genedlaethol ledled Cymru? Darllenwch ymlaen i gael gwybod pa gorff y dylech ymgeisio iddo wrth gynllunio’ch prosiect
Chwaraeon Cymru
Os bydd eich prosiect yn datblygu safonau perfformiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, yn ogystal â gweithio tuag at Gymru sy’n fwy ffit ac iach, Chwaraeon Cymru yw’r corff ariannu i chi!
Mae Chwaraeon Cymru’n anelu at gynyddu cyfranogiad ar lefel llawr gwlad, ac ar yr un pryd cefnogi athletwyr sy’n dyheu am gynrychioli Cymru ar lwyfannau cenedlaethol a byd-eang. Mae UK Sport yn darparu buddsoddiad i alluogi mabolgampwyr ac athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd Prydain Fawr i gyflawni eu potensial llawn i ennill medalau.
Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri yng Nghymru’n datguddio ac yn cefnogi hanes cymunedol, yn dysgu unigolion am eu treftadaeth eu hunain ac yn trawsnewid ardaloedd wedi’u hesgeuluso i elfennau o fywyd lleol sy’n cael eu dathlu.
Os oes angen arian arnoch i ddiogelu safleoedd treftadaeth ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol; o amgueddfeydd, parciau ac adeiladau hanesyddol i draddodiadau diwylliannol a phrosiectau archeoleg, Cronfa Dreftadaeth y Loteri yw’r ariannwr i chi.
Y Cyngor Celfyddydau
Mae’r Cyngor Celfyddydau’n anelu at ddarparu cyfle i bawb brofi ac ymwneud â’r celfyddydau a chefnogi creu’r gorau o gelf wych.
O wyliau jazz cymunedol i ganolfannau celfyddydau a phrynu cyfarpar ffotograffiaeth; os dymunwch hyrwyddo’r celfyddydau yng Nghymru, dod â diwylliant celfyddydol i unigolion ac annog creadigrwydd mewn cymunedau, yna gallai Cyngor Celfyddydau Cymru fod y corff ariannu mwyaf addas i chi.
Os ydych yn chwilio am ariannu i gynhyrchu ffilm, mae Sefydliad Ffilm Prydain yn cefnogi gweithgareddau datblygu, cynhyrchu a dosbarthu ffilmiau yn y Deyrnas Unedig.
Y Gronfa Loteri Fawr
Mae’r Gronfa Loteri Fawr yn cefnogi ystod eang o brosiectau, gan gwmpasu iechyd, addysg, yr amgylchedd a’r gymuned ehangach, i gefnogi’r bobl sydd mewn angen mwyaf.
Iechyd- Rydym yn ariannu prosiectau sy’n canolbwyntio ar wella iechyd a lles pobl, o gefnogaeth i unigolion â salwch sy’n cyfyngu ar fywyd gan gynnwys teuluoedd a gofalwyr, cefnogaeth i bobl hŷn gyda byw’n annibynnol ac allgau cymdeithasol i’r rhai sy’n dymuno annog ffyrdd iach o fyw o fewn eu cymuned.
Addysg- Mae ein prosiectau’n rhoi hyder i bobl ennill sgiliau a gwybodaeth newydd yn eich ardal: o ddarparu cefnogaeth allgyrsiol i bobl ifanc, dysgu sut i lunio ceisiadau am swyddi, i gefnogi prosiectau dysgu gydol oes sy’n targedu grwpiau difreintiedig.
Yr Amgylchedd – Rydym yn ariannu prosiectau sy’n ennyn diddordeb cymunedau yn yr amgylchedd ac yn eu helpu i’w cynnal a’u gwella, a chreu mannau sy’n fuddiol i bobl o safbwynt lleihau straen, gwella iechyd a lles ac ymwneud a’r awyr agored.
Ydy’r Gronfa Loteri Fawr yn swnio fel corff ariannu sy’n addas i chi? Gwelwch ein ‘Porwr Ariannu’ i gael gwybod am ein holl raglenni ariannu cyfredol, galw 0300 123 0735 neu gyrrwch e-bost atom yn ymholiadau.cymru@cronfaloterifawr.org.uk