Skip to content

“Mae popeth yma yn ailddefnyddio deunydd wedi’i ailgylchu, mae’n bendant wedi cael effaith.”

Hydref 19, 2015

Dyfarnwyd estyniad i’r rhaglen amgylchedd a chynaladwyedd, Camau Cynaliadwy, yn ddiweddar a bydd nawr yn rhedeg tan fis Mawrth 2018. I ddathlu, dros yr wythnosau nesaf byddwn yn arddangos rhai o’r prosiectau a mentrau gwych yn ymwneud â’r amgylchedd a chynaladwyedd sydd wedi digwydd hyd yn hyn diolch i’r rhaglen.

Tuag at ddiwedd 2014, cynhaliodd ProMo Cymru weithdy agored yn The Abacus yng Nghaerdydd a roddodd cyfle i bobl wneud eu dodrefn eu hunain o hen baledi pren. Cymerwch olwg ar y fideo isod i weld beth roedd gan bobl i ddweud am y digwyddiad.

Dyma Arielle Tye, un o arweinwyr y gweithdy, i ddweud mwy wrthym am sut aethpwyd ati i drefnu’r gweithdy.

“Mae popeth yma yn ailddefnyddio pob math o ddeunyddiau. Ni feddyliom am ddefnyddio paledi yn y lle cyntaf ond fe feddyliom am wneud yr adeilad yn fwy cynaliadwy mewn sawl modd gwahanol.”

“Mae’n bendant wedi cael effaith oherwydd rydym yn lleihau’n ôl troed trwy gael yr adeilad hwn ond rydym hefyd yn ysbrydoli nifer o bobl eraill oherwydd maen nhw’n dod i mewn i’r adeilad, yn gweld y dodrefn, ac yn meddwl “a dweud y gwir, basem yn gallu dechrau gwneud rhai o’r pethau hyn ein hunain”.”

Darganfod mwy am Renew Wales trwy glicio yma, a mwy am Promo Cymru trwy glicio yma.

Advertisements
No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: