Ailagorwyd Neuadd Farchnad Y Drenewydd yn ddiweddar diolch i grant gan y rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Yma, mae un o’n Swyddogion Ariannu, Hywel Lovgreen, sydd wedi byw yn Y Drenewydd bron trwy gydol ei fywyd, yn dweud wrthym sut le yw neuadd y farchnad yn sgil ei hailagor.
“Ces i’r fraint o fynd i agoriad swyddogol Neuadd Farchnad Y Drenewydd yn ddiweddar. Fel rhywun sydd wedi byw yn Y Drenewydd ers bron 50 mlynedd roedd gennym wir ymdeimlad o falchder a boddhad i weld arian Loteri’n cael cymaint o effaith yn fy nhref frodorol.
“Mae neuadd y farchnad bob amser wedi bod yno i mi gan iddi gael ei hadeiladu ym 1870, ac mae gennyf atgofion melys ohoni; cafodd fy merch hynaf ei swydd dydd Sadwrn gyntaf ar stondin anifeiliaid anwes Do yn y 90au! Ond er gwaetha’r stondinau a busnesau bach niferus a bythol newidiol a gefnogwyd, ni chynhaliodd y neuadd unrhyw ddigwyddiadau cymunedol erioed, ni ddathlwyd y canmlwyddiant ym 1970 ac roedd bob amser yn edrych yn ddi-raen ac wedi’i esgeuluso.
“Ymwelais eto pan gafodd ei hagor i’r cyhoedd o’r diwedd, a gwelais y budd cymunedol yn syth. Roedd pobl o bob oedran yn eistedd gyda’i gilydd, yn cael paned, yn gwylio’r band poblogaidd lleol, The Trensetts, yn canu eu clasuron o’r 60au ar y balconi, ac yn dweud pa mor hyfryd oedd yr adeilad bellach a faint o amser oedd wedi mynd heibio ers iddynt weld ei gilydd!
“Heb eisiau dangos tuedd, credaf fod y prosiect (a ariannwyd gan y rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol) yn enghraifft wych o’n hariannu’n cefnogi adfywio cymunedol, ac rwy’n siŵr y bydd tystiolaeth ddigonol o hyn dros y blynyddoedd i ddod. Rwy’n edrych ymlaen yn bendant at gyfres amrywiol o ddigwyddiadau cymunedol i ddathlu ei phen-blwydd yn 150 oed yn 2020.”