Sefydliad yn Sir Gaerfyrddin yw Llyfrau Llafar Cymru sy’n cynhyrchu llyfrau llafar i bobl ddall a rhannol ddall. Yma, dyma’r Cadeirydd Sulwyn Thomas, yn esbonio sut roedd arian o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi arbed y sefydliad pan roedd dan fygythiad o gau.
Hedfanodd pum mlynedd i rywle. Efallai bod a wnelo’r ffaith i ni orfod gweithio yn hynod o galed yn ystod y cyfnod hwnnw i achub cynllun a oedd yn agos iawn i galon un a gollodd ei golwg nôl yn y saithdegau.
Gadewch i mi ymhelaethu. Rhian Evans oedd y ferch. Roedd hi’n llyfrgellydd yng Ngholeg y Drindod ar y pryd ac un a oedd wrth ei bodd yng nghanol llyfrau. Wrth i’w golwg ddechrau dirywio dyma hi’n sylweddoli na allai bellach ddarllen ei phapur lleol wythnosol ac felly aeth ati i sefydlu Papur Llafar Y Deillion Caerfyrddin a’r cylch. Daeth grŵp o bobl at ei gilydd i helpu a datblygodd y syniad a chafodd dderbyniad gwresog.
Doedd hynny ddim yn ddigon i Miss Evans. A fyddai’n bosib dechrau cynllun i wella’r ddarpariaeth ar gyfer deillion a’r rhannol ddall ym maes llyfrau llafar? Roedd na ddigon o lyfrau Saesneg ar gasét, ond prin iawn, os o gwbl, oedd y deunydd yn y Gymraeg. Sylweddolai mai nid grŵp bach, rhan amser, allai gyflenwi’r angen newydd hwn. Byddai rhaid sefydlu gwasanaeth go iawn, penodi staff a chwilio am nawdd ariannol i dalu amdano. Gorchfygu problemau fu nod y ferch hon erioed, ac fe lwyddodd ddod o hyd i nawdd a chartref i’r Cynllun Casetiau Cymraeg. Aethpwyd ati i recordio llyfr ar ôl llyfr.
Er i’r cynllun dderbyn cymorth o fwy nag un cyfeiriad, aeth pethau yn ben set ym 2010. Roedd dyfodol yr holl gynllun yn y fantol a pherygl colli dwy swydd, dwy fil a rhagor o deitlau a chwtogi’r gwasanaeth. Penderfynodd grŵp o Gaerfyrddin, ffrindiau Rhian mewn gwirionedd, afael yn y cynllun, rhoi enw newydd iddo, sef Llyfrau Llafar Cymru, cofrestru fel elusen, a llwyddo sicrhau grant i ail lansio’r gwasanaeth.
Erbyn hynny, roedden nhw ‘n derbyn y llyfrau ar gryno ddisg, neu yn ddigidol, yn hytrach nag ar gasét a arweiniodd at broblem arall – roedd angen trosglwyddo dwy fil o deitlau i fformat newydd, modern.
Sut oedd cael gafael ar ddigon o gyllid i symud ymlaen?
Dyma droi at Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru. Gwnaed cais am dair blynedd o nawdd. Llenwyd ffurflenni, atebwyd cwestiynau a llwyddwyd i gael yr union swm y gofynnwyd amdano sef £142,000. Golygodd hyn bod cyfnod o’n blaenau i gryfhau’r seiliau, i ddatblygu a threfnu teithiau cyhoeddusrwydd i ledaenu’r neges. Rydym yn ymwybodol bod cannoedd mwy a allai elwa o’r gwasanaeth, ond cyndyn iawn yw pobl sydd â thrafferthion golwg i gydnabod hynny.
O’r dechrau’n deg trafodwyd ein cais, gohebwyd yn gyson, a llenwyd yr holl ffurflenni drwy gyfrwng y Gymraeg. Danfonwyd mantolen ar ôl mantolen yn Gymraeg. Er ein bod yn darparu “llyfrau” yn ymwneud â Chymru drwy’r Saesneg, Cymraeg yw prif iaith ein gwasanaeth. Prinder llyfrau llafar yn y Gymraeg wnaeth ysbrydoli Rhian i sefydlu’r elusen yn y lle cyntaf. Rydym yn teimlo’n gryf na ddylai Cymry Cymraeg gael eu hamddifadu o’r un gwasanaethau sydd ar gael, am ddim, yn Saesneg. Ni allwn lai na chanmol y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am gefnogi elusen sydd yn rhoi blaenoriaeth i’r Gymraeg ac heb unwaith gwestiynu ein hamcanion.
A diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae peth o’r gwaith, a grybwyllwyd dair blynedd yn ôl, wedi ei gyflawni er mae ‘na beth wmbredd o ffordd i fynd eto.
Yr hyn fedrwn i ddweud yw bod mae Llyfrau Llafar Cymru yn mynd o nerth i nerth ac mae cefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi’n sbarduno ni, codi’n proffil, a magu hyder ynom i wynebu’r dyfodol.