Gyngor ar gyfer ymgeisio am ariannu ar gyfer adeiladau cymunedol
Angen arian i adeiladu neu adnewyddu canolfan neu hyb cymunedol? Rydym wedi crynhoi’r atebion i’r cwestiynau y’u gofynnir amlaf am ymgeisio er mwyn eich tywys trwy’r broses ymgeisio. Mae’r cwestiynau yn seiliedig ar ymgeisio ar gyfer rhaglen Pawb a’i Le sy’n cynnig grantiau rhwng £5,001 a £1 miliwn am 1 i 5 mlynedd.
Pennu’r angen am y prosiect
Yn gyntaf, mae angen i ni wybod bod yna gwir angen am eich prosiect ac nad yw’n dyblygu gwaith cyfleusterau eraill yn yr ardal. Dylech wneud ymchwil i sicrhau bod y prosiect yn gweddu i strategaethau a chynlluniau lleol. Os yw’r cyfleuster eisoes yn cael ei defnyddio, bydd angen i chi ddangos eich bod yn gwella neu’n ychwanegu’n sylweddol at y gwasanaethau a gynigir.
Cynnwys ac ymgynghori â budd-ddeiliaid allweddol
Mae angen i ni fod yn siŵr bod y gymuned ehangach yn cefnogi’r angen am y prosiect rydych yn gofyn i ni ei ariannu. Dylech fod wedi, neu’n bwriadu, ymgynghori â mudiadau tebyg i sicrhau bod y prosiect yn flaenoriaeth ar gyfer yr ardal. Dylech ymgynghori â buddiolwyr cyfredol a darpar fuddiolwyr i sicrhau bod y prosiect yn mabwysiadu ymagwedd llawr gwlad. Dylai gwaith ymgynghori fod yn agored ac yn ddiduedd ac arwain cyfeiriad y prosiect. Am ragor o wybodaeth am ymgynghori, cymerwch olwg ar ein blog ar ymgynghori ar brosiectau.
Diffinio canlyniadau a buddion y prosiect
Mae angen i ni fod yn siŵr beth fyddai effaith y prosiect. Ffordd dda o feddwl am yr effaith yw ystyried canlyniadau’r hyn a allai ddigwydd os nad oedd y prosiect yn bodoli. Gall yr effaith fod ar ystod o bethau – rhieni, gofalwyr, ymarferwyr, gwirfoddolwyr yn ogystal â’r amgylchedd a mudiadau eraill. Cymerwch olwg ar ein canllaw i nodau a chanlyniadau am awgrymiadau ac enghreifftiau.
Cynnal arfarniad opsiynau ar gyfer y gwaith cyfalaf
Dylai arfarniad opsiynau roi manylion yr holl opsiynau rydych wedi ymchwilio iddynt, gan gynnwys gadael pethau fel y maent, symud i adeilad wedi’i rentu, symud i adeilad mwy/llai, rhannu adeilad, addasu’r adeilad, a darparu cludiant i adeilad gerllaw sydd eisoes yn bodoli. Dylai gwerthusiad o’r opsiynau gynnwys amcangyfrif o gost pob dewis arall a’r asesiad risg ar gyfer pob opsiwn a ystyrir. Dylai unrhyw waith adnewyddu cyfalaf neu ar adeiladau gael ei ystyried yn werth da am arian.
Rheoli’r cyfleuster
Dylech ystyried sut y byddai’r cyfleuster yn cael ei reoli; pwy fydd yn gyfrifol am draul a gwisgo ar yr adeilad a sut y gallai eich mudiad chi gynhyrchu digon o incwm i sicrhau y gellir talu costau cyffredinol a biliau yn y dyfodol.
Ystyriwch sut y byddwch yn sicrhau defnydd parhaus o’r adeilad/tir neu brosiect. Os bydd ystod o fudiadau’n ei ddefnyddio, mae’n bosib y byddwch am lunio amserlen i ddangos sut y byddai’r cyfleuster yn cael ei ddefnyddio. Os nad yw cyfleuster yn cael digon o ddefnydd ar hyn o bryd, mae’n annhebygol y byddem yn ei ariannu yn y lle cyntaf.
Mae cyfarwyddyd llawn ar Dir ac Adeiladau ynghyd â gwybodaeth bellach ar gael ar ein tudalen we Pawb a’i Le.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymgeisio, cysylltwch â’n tîm cymorth ar 0300 123 0735 neu ymholiadau.cymru@cronfaloterifawr.org.uk. Maen nhw bob amser yn hapus i gael sgwrs ac i’ch rhoi chi ar y trywydd iawn.