
Mae ein rhaglen Dyfodol Disglair werth £14 miliwn wedi bod yn cynyddu gwydnwch emosiynol rhieni ifanc a phobl ifanc ag anableddau yng Nghymru er mwyn iddynt feddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a’r galluoedd i reoli newidiadau allweddol yn eu bywydau. Yma gallwch ddarllen ddwy stori am ei llwyddiant hyd yma.
Stori Liam
“Rwy’n 18 oed ac mae gennyf awtistiaeth. Es i’r Siop Wybodaeth a ches i’r manylion i gysylltu ag A Dynamic Future. Roedd gwneud cynifer o bethau mor anodd i mi, siarad â phobl, trefnu arian ac ysgrifennu CV.
Roeddwn eisiau:
- Cael swydd â thâl – ysgrifennu CV, dod o hyd i swydd, dod o hyd i’r ffordd ar y bws
- Cael fy lle fy hun i fyw – Cael swydd i dalu amdano, dysgu trefnu cyllideb, dysgu sut i goginio
- Pasio fy mhrawf gyrru, Talu am wersi a’r prawf
Mewn un o gyfarfodydd Dynamic Future cwrddais â Jenny a Terry, gweithiwr, a rhoddwyd ffurflen i mi ei llenwi a chafodd fy mam un hefyd, a ofynnodd lawer o bethau amdanaf i, yr hyn y gallwn ei wneud, beth yr oeddwn eisiau ei wneud a sut yr oeddwn yn meddwl am wneud e – yr hyn yr oedd angen i mi ei ddysgu.
Roedd gan Dynamic, y brif elusen, gyswllt â Sainsbury’s a thrwy hyn roeddent yn gallu dod o hyd i brofiad gwaith ar fy nghyfer yn y siop. Mwynheais hyn yn fawr, a ches i gymorth a chefnogaeth gan Terry trwy’r wythnos. Roeddwn yn hoffi pob rhan ohono’n fawr, dim ond y gwaith cyfrifiadurol yr oeddwn i’n casáu.
Ar ddiwedd fy mhrofiad gwaith, daeth swydd glanhau i fyny yn y caffi. Helpodd Terry i mi lenwi ffurflen, gwnes i fy CV a daeth Terry gyda mi i’r cyfweliad. Helpodd fi i baratoi amdano. Awgrymodd pethau y dylwn eu gwisgo, gwnaethom ymarfer ateb cwestiynau a dywedodd wrthyf sut brofiad y byddai. Dysgais gyda Terry hefyd sut i ddefnyddio’r bws a thacsis i gyrraedd y gwaith a mynd adref.
Ces i’r swydd – rhan amser ac ar nosweithiau ond mae’n wych ennill fy arian fy hun. Mae Terry hyd yn oed wedi fy helpu i ysgrifennu cynllun cyllideb ar gyfer fy arian.
Rwy’n dysgu coginio yn fy amser sbâr yn ystod y dydd a gallaf goginio caws ar dost. Ar ddiwedd y prosiect coginiais bryd o fwyd ar gyfer fy Mam. Rwyf yn awr wedi pasio fy mhrawf gyrru. Mae Mam yn falch, ond wedi cael sioc y gallaf wneud sut gymaint. Yr wyf i wedi hefyd.
Hoffais ddod i’r prosiect Dynamic Future gan fod Terry wedi fy helpu i ddod o hyd i swydd, ysgrifennu CV a chreu cyllideb. Rwy’n credu fy mod yn gweld fy hun yn gweithio gyda ffrindiau newydd.
Gwnes i fy apwyntiad cyntaf ar fy mhen fy hun. Yn awr rwy’n edrych ymlaen at ddysgu sgiliau bywyd newydd fel golchi fy nillad fy hun a choginio.”
Ynghylch y Prosiect Dynamic Future
Dyfarnwyd £956,000 iddo i gefnogi ac arwain pobl ifanc hyn rhwng 14 a 25 oed yn Wrecsam nad ydynt yn elwa o wasanaeth sy’n cynnig cefnogaeth, cymorth neu gyngor mewn perthynas â chyfleoedd ar gyfer eu dyfodol. Mae hyn yn cynnwys helpu sicrhau lleoedd coleg neu wirfoddoli, hyfforddiant neu gyflogaeth.