Gwasanaeth gwybodaeth a chyngor newydd yn lansio ar gyfer pobl â phroblemau beichiogi
Lansiodd Infertility Network UK, yr elusen anhawster beichiogi flaenllaw, ei gwasanaeth gwybodaeth, cyngor a chefnogi i ddefnyddwyr yng Nghymru mewn seremoni yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 2 Rhagfyr. Arweiniwyd y lansiad gan Darren Millar, Gweinidog Cysgodol Iechyd a Phobl Hŷn yng Nghymru. Mae’r Prif Weithredwr, Susan Seenan, yn dweud mwy wrthym
“Rydym wrth ein boddau â medru lansio gwasanaeth cefnogi defnyddwyr yng Nghymru. Am y tro cyntaf ers blynyddoedd, bydd gan yr holl bobl sy’n wynebu rhwystrau i fod yn rhieni wasanaeth cefnogi lleol sy’n deall eu problemau penodol, yn ymdrin â materion a heriau rhanbarthol ac sydd wedi’i reoli’n lleol.”
Bydd y gwasanaeth newydd, a wnaed yn bosib o ganlyniad i ddyfarniad gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn galluogi’r elusen i sefydlu grwpiau cefnogi wyneb i wyneb ac ar-lein a gwasanaeth gwybodaeth ar gyfer Cymru’n benodol, yn cyflogi cydlynydd yng Nghymru i reoli’r gwasanaeth a chynnal digwyddiadau gwybodaeth blynyddol.
Mae 1 o bob 6 o gyplau’n wynebu anhawster wrth feichiogi.
Mae Michaela, 25 oed, o Sir Fynwy wedi cael 5 mlynedd o fethu beichiogi. Dywedodd wrthym am ei phrofiad. “Mae brwydro gyda phroblemau beichiogi’n brofiad unig iawn; gall fod yn anodd ddod o hyd i’r cyngor a chefnogaeth y mae eu hangen arnoch. Bydd grwpiau cefnogi wyneb i wy
neb lleol yma yng Nghymru ac ar-lein yn werthfawr tu hwnt wrth helpu unrhyw un sy’n wynebu’r poen a galar bob dydd y mae problemau beichiogi’n eu hachosi.”
Os hoffech wybod mwy am GISDA, ewch i’w gwefan, Trydar neu Facebook.