Y llynedd, derbyniodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog £313,757 trwy ein rhaglen Pawb a’i Le i redeg prosiect a fydd yn cefnogi pobl yng Nghwm Tawe Uchaf, gan gynyddu eu cyflogadwyedd a lles trwy gynnig gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar wella’r amgylchedd ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.
Yn ogystal â defnyddio’r awgrymiadau a nodwyd yn ein blog ymgynghori, defnyddiodd yr ymgeiswyr gefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr i gyflwyno un o’r ceisiadau cryfaf a dderbyniwyd ers blynyddoedd. Dyma Reolwr Ymgyrchu Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Cymru, Sarah Philpott, yn dweud mwy wrthym.
“Aethom i Weithdy Cyngor Ariannu a redwyd gan y Gronfa Loteri Fawr. Roedd yn ddefnyddiol tu hwnt, cafwyd cyfle i gwrdd â’r tîm, a siarad am y broses o lenwi’r ffurflen gais.
Byddwn i’n dweud i chi fynd ar y wefan, i’r adran Pawb a’i Le. Mae’n cynnwys yr holl gymorth a gwybodaeth y mae eu hangen arnoch i ymgeisio i’r rhaglen.”
Rhoddodd Helen Richards, Swyddog Ariannu Pawb a’i Le a asesodd y prosiect, ei barn hi am gryfderau’r cais.
“Dangosodd y cais hwn fod y prosiect wedi’i gynllunio’n dda gyda’r angen am y prosiect yn cael ei ddangos trwy ymgynghori manwl. ‘Roedd yr ymgynghori’n cynnwys pedair ysgol leol, Cyngor Sir Powys, Cymunedau’n Gyntaf, y Ganolfan Wirfoddolwyr, Canolfan Byd Gwaith, Probation Trust, Mind a’r bwrdd iechyd lleol ac fe’i gwnaed trwy gyfarfodydd wyneb i wyneb, dros y ffôn ac e-bost a thrwy arolygon. Defnyddiodd y prosiect ystadegau diweithdra ac iechyd a lles lleol, wedi’u gosod yn erbyn cyfartaleddau cenedlaethol. At hynny, amlygodd y prosiect wasanaethau cydweddol a’r rhai sydd eisoes yn bodoli a dangoswyd sut y byddai’r prosiect hwn yn ychwanegu gwerth yn hytrach na dyblygu gwasanaethau presennol.
Safodd y cynllun prosiect allan gan iddo fod wedi’i gyflwyno’n glir, yn hawdd ei ddarllen ac wedi’i gysylltu’n ôl â’r angen a adnabuwyd, gyda manylion ystod eang o weithgareddau, amserlen brosiect wedi’i strwythuro’n dda, a risgiau allweddol fel hygyrchedd, costau a marchnata a chymryd camau i’w goresgyn wedi’u hadnabod. Rhoddwyd manylion partneriaethau’r prosiect, a sut y byddent yn derbyn cyfeiriadau ac yn rheoli perthnasoedd.
Dangosodd y mudiad sut y byddent yn gweithio ar y cyd ag ystod eang o fudiadau yn yr ardal, ac roedd llythyrau o gefnogaeth dros y prosiect wedi’u cynnwys. Bydd y prosiect hefyd yn diwallu anghenion pobl ag anableddau ac unigolion nad ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf. O ganlyniad i hyn i gyd, roedd y mudiad wedi cyflwyno cais a raddwyd yn Rhagorol ar draws pob un o’n meini prawf.”
I gael mwy o wybodaeth am y rhaglen Pawb a’i Le cliciwch yma, ac am fwy o wybodaeth am Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Brycheiniog cliciwch yma.
Dilynwch ni ar Twitter – @loterifawrcymru.
Hoffwch ni ar Facebook – Big Lottery Fund Wales