Beth yw canlyniad prosiect
Canlyniadau yw’r newidiadau neu wahaniaeth a ddaw yn sgil eich prosiect dros amser.
Dyma’r hyn a ddaw allan o’r hyn a wnewch yn hytrach na’r gweithgareddau neu wasanaethau a ddarparwch.
Mae gweithgareddau’n disgrifio’r union bethau y byddwch yn ei wneud, fel:
- Cyflwyno gweithdy celf a chrefft
- Creu cynlluniau cefnogi wedi’u teilwra
- Rhedeg gweithdai amgylcheddol
- Trefnu hyfforddiant i gyflogwyr
- Cydgrynhoi ymchwil ar yr hyn sy’n gweithio
Ar ôl i chi ysgrifennu’ch canlyniadau, mae’n arfer da gofyn i’ch hun p’un a ydynt yn dangos y gwahaniaeth y mae’r prosiect yn ei wneud (canlyniad) neu a ydynt yn dweud wrthym beth mae’r prosiect yn ei wneud (y gweithgaredd). Os na allwch adnabod y gwahaniaeth penodol, ni ddylid cynnwys hyn fel canlyniad.
Wrth ysgrifennu’ch canlyniadau, dylech gynnwys geiriau newid fel gwella, lleihau, cynnal gan y gall y rhain helpu gyda monitro nhw ar ôl eu hariannu. Er enghraifft
Cysylltu’ch canlyniadau â nod eich prosiect
Mae’n bwysig creu cyswllt clir rhwng nod cyffredinol y prosiect, y problemau sy’n wynebu’ch buddiolwyr, fel unigedd neu iechyd gwael, a’ch canlyniadau prosiect, a allai fod i leihau unigedd neu wella iechyd a lles. Gweler y diagram
Mireinio’ch canlyniadau
Mae canlyniadau’n bwysig i ni ac arianwyr eraill gan eu bod yn disgrifio effaith eich prosiect ar y rhai y mae’n gweithio gyda nhw. Treuliwch rywfaint o amser yn ystyried pwy fydd yn elwa o’ch prosiect, sut y byddant yn elwa a pha newid rydych eisiau ei weld o ganlyniad iddo.
Rhestr wirio o bethau i’w hystyried
- Penodol: Ydy’r canlyniad yn fyr, yn gryno ac yn glir?
- Cyflawnadwy: Ydy’r canlyniad yn realistig o ystyried yr amserlen a’r adnoddau?
- Perthnasol: Ydy’r canlyniad yn ymwneud yn uniongyrchol â nod cyffredinol y prosiect?
- Ydy’r ‘gwahaniaeth’ i’r buddiolwr/gwirfoddolwr/mudiad/sector ehangach wedi cael ei esbonio?
- Gwirio bod y canlyniad yn fwy na gweithgaredd?
- Ydyw’n realistig? Mae angen eu cyflawni erbyn diwedd y prosiect. Mae addo y bydd cyn-droseddwyr mewn cyflogaeth erbyn diwedd y prosiect yn syniad gwych, ond a yw’n debygol o ddigwydd? Mae’n well datgan y bydd gan gyn-droseddwyr sgiliau cyflogadwyedd cynyddol a’u bod yn teimlo’n fwy hyderus am gyflogaeth a hygyrchu’r amgylchedd gwaith yn y dyfodol, byddai hyn yn fwy realistig ac yn gyflawnadwy.