Wrth ymgeisio am arian, gofynnir i ni’n aml ‘Pa awgrymiadau gallwch eu rhoi i ni?’ Helpu pobl/cymunedau yw’r rhai amlycaf fel arfer. Efallai y rhoddir llai o ystyriaeth i dderbyn gwerth am arian ac ymgeisio am y costau cywir ond maen nhw yr un mor bwysig. Felly mae’r blog yma yn rhoi’r ‘costau meincnod’ i chi ar gyfer ein rhaglen fwyaf poblogaidd, Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol.
Beth yw cost feincnod?
Dyma’r uchafswm y gallwn ei ariannu ar gyfer eitem benodol. Mae’r ffocws yma ar yr ‘uchafswm’ – nid oes angen i chi ofyn am y swm llawn. Mae hyn yn helpu i dderbyn gwerth am arian.
Sut mae ymgeisydd yn cyfrifo’r gost?
Gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd. Gallai fod yn ddyfynbrisiau gan gyflenwyr neu ymchwil o siopa ar y we. Gallai gynnwys profiad o brosiectau blaenorol neu debyg hefyd. Cofiwch, fodd bynnag, os yw hyn wedi digwydd cryn dipyn o amser yn ôl, ei fod yn bosib y bydd y costau wedi newid.
Beth yw’r costau meincnod?
Dyma’r uchafswm costau ar gyfer yr eitemau mwyaf poblogaidd yr ymgeisir amdanynt, gan gynnwys TAW:
Os yw’r mudiad sy’n ymgeisio’n gofyn am swm sy’n uwch na’r gost feincnod, beth fydd yn digwydd?
Yn gyffredinol byddwn yn gostwng y swm y gofynnoch amdano. Er enghraifft, os oeddech wedi gofyn am £800 ar gyfer gliniadur, byddwn yn lleihau hyn i uchafswm o £500. Caiff hyn ei esbonio yn ein cynnig grant i chi.
Mae ein cyfarpar yn ddrutach na’r gost feincnod. A ellir ystyried cais o hyd?
Gellir, cyhyd ag y gallwch ddod o hyd i’r gweddill o rywle arall. Sylwer nid oes gwarant y byddwch yn derbyn yr uchafswm.
I gael mwy o arweiniad ac i wneud cais Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol, ewch i’n gwefan.