Prynhawn gwlyb? Dim problem…
Gyda’r tywydd yn ein gyrru ni i gyd dan do i edrych yn hiraethus y tu allan i ffenestri ar draws Cymru, penderfynom ni, yn Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, greu rhestr o weithgareddau diwrnod gwlyb ar eich cyfer chi i gyd, y Cymry sydd wedi syrffedu ar y glaw, y maent oll wedi’u hariannu trwy ein rhaglen Cronfa Cymunedau’r Arfordir.
Felly, dyma’n hawgrymiadau ar gyfer prynhawn diflas….
Cwmni Bragu Bluestone – Trefdraeth, Sir Benfro
Mae Bluestone Brewing yn fragdy a redir gan y teulu ym Mynyddoedd y Preselau yng Ngogledd Sir Benfro wledig. Maen nhw’n bragu cwrw yng ngodefryniau Mynyddoedd y Cerrig Gleision i greu eu cwrw unigryw. Mae Bluestone Brewing wedi agor drysau eu canolfan ymwelwyr i gynnig Profiad Micro Fragdy am ddim. Byddant yn mynd â chi ar daith dywysedig o gwmpas y bragdy, yn esbonio pob proses fragu i chi, a phan fyddwch wedi dysgu am y broses rydych yn cael dewis eich hoff gwrw mewn sesiwn flasu. Mae’n brofiad hamddenol a llawn gwybodaeth, ac yn ffordd wych o dreulio prynhawn glawog (neu heulog)!
Am fwy o wybodaeth, ewch i’w gwefan.
Becws Islyn – Pwllheli, Penrhyn Llŷn
Os cewch eich dal mewn storm o law ar Benrhyn hyfryd Llŷn, beth am ymweld â Becws Islyn, yr unig fecws i’r gorllewin o Bwllheli ar Benrhyn Llŷn? Maent yn pobi amrywiaeth o fara ffres bob dydd gan gynnwys bara gwyn, gwenith, hovis, brown garw, bara brith a rholiau – rhywbeth i bawb! Hefyd, beth am flasu un o’u teisennau cartref niferus, neu eu rholiau selsig, pasteiod sawrus neu frechdanau ffres? Fel arall, rhowch gynnig ar eu gwasanaeth brechdanau – archebwch yn y bore a chodwch nhw amser cinio.
Ar yr ail lawr, mae eu Caffi’n cynnig lloches gynnes rhag y glaw. Ewch am baned o de neu goffi gydag un o’u teisennau cartref neu hyd yn oed Te Prynhawn Arbennig! Mae dewis o frechdanau a phasteiod ar gael hefyd. Wrth fwynhau’ch paned, gallwch ddysgu ychydig am hanes Aberdaron trwy edrych ar y murluniau o gwmpas yr ystafell, ffordd ddymunol o dreulio’r oriau gwlyb.
I gael mwy o wybodaeth am Fecws Islyn a phethau eraill i wneud yn yr ardal, dilynwch nhw ar Facebook.
Marchnad Neuadd y Dref Aberteifi – Ceredigion
Teimlo fel mentro allan i ddarganfod prydferthwch Aberteifi ond mae’r tywydd wedi sbwylio’ch cynlluniau? Yna, mae ateb gennym…
Ym mis Ionawr 2015, dechreuodd prosiect 2 flynedd cyffrous a ariannwyd gan Gronfa Cymunedau’r Arfordir. Nod y prosiect oedd adfywio’r Farchnad i’w gogoniant gynt fel both prysur i fywyd y gymuned.
Mae’r canlyniadau’n amlwg mor fuan ag y byddwch yn cerdded i mewn i’r adeilad. Mae’r Farchnad ei hun yn cynnal llawer o fasnachwyr annibynnol lleol a all ddangos eu nwyddau a gwasanaethau unigryw mewn amgylchedd hyfryd. Mae’r masnachwr hynaf wedi bod yno ers mwy na 40 mlynedd!
Mae rhywbeth i bawb, gyda stondinau’n amrywio o gynnyrch bwyd lleol, hynafolion, siopau crefftau, stondinau dillad, caffi ac wrth gwrs Teifi Traction – arddangosfa o hanes bysiau Cymru gan gynnwys cerbydau model, ffotograffau a chofroddion, lle perffaith i selogion cerbydau a phlant.
Mae bwrlwm go iawn yn y farchnad ac mae deiliaid y stondinau’n eich croesawu chi gyda gwên gynnes a pharodrwydd i gael sgwrs, felly beth am gerdded yn hamddenol trwy drysordy o ryfeddodau Cymreig a threulio ychydig o oriau hamddenol yn lloches y farchnad anhygoel hon? I gael mwy o wybodaeth, ewch i’w gwefan.
Chanolfan Ymwelwyr Cwmni Halen Môn Cyf
Mae Man Cynhyrchu Halen a Chanolfan Ymwelwyr Cwmni Halen Môn Cyf yn gartref parhaol a chanolfan gynaliadwy ar gyfer cynhyrchu halen o’r môr ac ymweliadau. Mae teithiau y tu ôl i’r llen ar gael i bawb sydd â diddordeb mewn hanes, diwylliant a bwyd. Mae’r teithiau bob awr yn cynnwys sesiwn blasu halen gyda thiwtor. Argymhellir i chi neilltuo lle ymlaen llaw. Waeth p’un a ddewiswch fynd ar un o’r teithiau ai beidio, mae’r siop anrhegion ar agor 100:00 i 17:00 ac fe ddewch o hyd i bethau hyfryd i brynu. Methu â chyrraedd y ganolfan? Cofiwch fwrw golwg ar y pethau amheuthun a basgedi yn y siop ar-lein.
Amcan Cronfa Cymunedau’r Arfordir (CCA) yw annog datblygiad economaidd cymunedau arfordirol trwy ddyfarnu arian Llywodraeth Cymru i greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy. I gael gwybodaeth am brosiectau eraill a ariannwyd trwy CCA, ewch i’n gwefan.
Gallwch gael gwybod mwy am yr ariannu sydd ar gael yng Nghymru trwy fynd i www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh, dilyn @CronGymYLG ar Twitter neu hoffi’r dudalen Facebook