Heddiw roedd y fenter gymdeithasol NuHi yn dderbynnydd cyntaf Llythyr Syrpreis y Loteri Genedlaethol – ymgyrch newydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sy’n gweld staff yn troi i fyny’n annisgwyl mewn prosiect i ddweud wrthynt y bu eu cais am grant yn llwyddiannus.
Gwyliwch Ben Payne a Liz Hertogs yn rhoi syrpreis i’r tîm NuHi, gan gynnwys gwirfoddolwr Holly Clark a ddaeth allan o ymadfer y bore ‘ma:
Bydd NuHi yn defnyddio’r grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol o £4,775 i greu ystafell TG a gwefan er mwyn i bobl sy’n ymadfer yn sgil camddefnyddio sylweddau gael mynediad at wybodaeth a chefnogaeth:
Meddai Holly: “Pan fûm yn weithredol gaeth, addysg a hyfforddiant oedd y peth olaf ar fy meddwl. Roedd fy hyder wedi cyrraedd y gwaelod ac ni allwn weld ffordd allan. Pam es i’n lân, ddes i ar draws gwefan NuHi a meddwl y gallai fod o gymorth i mi a, gobeithio, cael rhywbeth cadarnhaol i roi ar fy CV.
Dechreuais wirfoddoli, gan helpu dylunio a chyflwyno gweithdai hyfforddiant i’r gymuned ehangach. Dechreuodd fy hyder wella a gallwn weld dyfodol i fy hun. Fe ddes i o hyd i uchafbwynt newydd gyda NuHi.”

Dyma sylfaenydd NuHi, Yaina Samuels, yn esbonio mwy am eu gwaith:
“Mae NuHi yn fenter gymdeithasol nid er elw yng Nghaerdydd sy’n darparu addysg a hyfforddiant ymwybyddiaeth camddefnyddio sylweddau ar gyfer y gymuned ehangach. Sefydlwyd y gwasanaeth, a redir gan ein tîm gwirfoddolwyr ymrwymedig, yn 2010 gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o gaethineb, triniaeth ac ymadfer.
Fel cyn-ddefnyddwyr a derbynyddion gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y gorffennol, defnyddir ein profiad gwerthfawr wrth ddylunio a chyflwyno hyfforddiant wedi’i deilwra ar gyfer unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae gan bob aelod o’r tîm eu stori eu hun o wynebu anfantais difrifol a lluosog, gan gynnwys caethineb alcohol cronig, salwch meddwl, digartrefedd ac ymddygiad troseddol. Credwn yn gryf fod newid yn bosib o gael yr amgylchedd a chefnogaeth iawn.
Mae gennyf 15 mlynedd o brofiad o fod yn gaeth i heroin a phum mlynedd ar ugain o brofiad o gefnogi eraill sy’n ymadfer. Rwyf wedi bod yn lwcus i ennill dwy wobr Gymreig ar gyfer fy ngwaith: Gwobr Menter Cymru 2015 (rownd derfynol) a Gwobr Dewi Sant (enillydd) ar gyfer Dinasyddiaeth gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ar gyfer fy ngwaith ymadfer arloesol yng Nghymru ac Affrica.”