Arian i Bawb yw ein rhaglen ariannu fwyaf poblogaidd, felly rydym wedi gofyn i bobl yn ein tîm ariannu “Beth ddylai ymgeisydd ei gynnwys yn ei gais?“ a dyma’r hyn a ddwedon nhw:
Katherine John – “Hoffwn i chi ddarparu dadansoddiad da o’r costau y gofynnir amdanynt, yn enwedig mewn perthynas â staff sesiynol (cyfradd yr awr ac oriau gwaith bob wythnos). Hefyd, Hoffwn wybod manylion unrhyw waith partneriaeth neu wirfoddoli sy’n gysylltiedig â’r prosiect.”
Liz Hertogs – “Rwyf eisiau gwybod pam mae angen y prosiect o fewn eich cymuned; Mae’n iawn defnyddio ystadegau WIMD ac adroddiadau statudol, ond rwyf eisiau gwybod pam y bydd eich prosiect yn cael effaith ar y rhain, p’un a oes galw am y gweithgareddau ai beidio a sut y byddwch yn ennyn diddordeb pobl? Os bydd ei angen arnoch, mae’n dda gwybod o ble y bydd yr arian cyfatebol yn dod hefyd.”
Owen Jones – “Rwyf am i chi roi amcangyfrif o nifer y bobl a fydd yn elwa o’ch prosiect. Yn lle ysgrifennu ‘niferus’ neu ‘llawer’, rhowch rif er mwyn i ni gael syniad o’r gyfran. Er bod pob prosiect yn unigryw, hoffwn wybod a fydd y grant rydych yn ymgeisio amdano’n cael effaith ar 10 neu 100 o bobl.”
Gareth Williams – “Dywedwch wrthym am eich prosiect, nid hanes eich grŵp yn unig. Dywedwch wrthym beth rydych eisiau ei wneud a pham rydych eisiau ei wneud – yna esboniwch bwy fydd yn elwa o’r prosiect a sut y bydd y grŵp hwn yn elwa. Defnyddiwch iaith glir a gwnewch yn siŵr eich bod yn ymgeisio yn yr enw cywir. Yn olaf, peidiwch ag anfon cais atom ac yna gadael y wlad am chwe wythnos!”
Katherine John – “Byddwn yn awgrymu i chi beidio â dyfynnu dim ond ystadegau ar dlodi ac amddifadedd yn eich ardal – gofalwch gynnwys sut mae’ch prosiect yn mynd i’r afael â’r problemau lleol hyn a sut y bydd yn helpu’r bobl a effeithir. Mae’r dystiolaeth orau’n dod oddi wrth y bobl y mae eich mudiad eisiau eu helpu – pa newid ydyn nhw eisiau ei weld yn eu cymuned?”
Rhoddodd nifer o’r Swyddogion Ariannu’r un awgrymiadau; Felly dyma’r pump uchaf:
1) Peidiwch â dyfynnu dim ond ystadegau ar dlodi ac amddifadedd yn eich ardal – gofalwch gynnwys sut mae’ch prosiect yn mynd i’r afael â’r problemau lleol hyn a sut y bydd yn helpu’r bobl a effeithir.
2) Rhowch fanylion unrhyw arian cyfatebol.
3) Rhowch amcangyfrif o nifer y bobl a fydd yn elwa o’ch prosiect.
4) Rhowch ddadansoddiad o’r costau y gofynnir amdanynt, yn enwedig mewn perthynas â staff sesiynol.
5) Peidiwch â darparu hanes eich grŵp yn unig – dywedwch wrthym beth rydych eisiau ei wneud a pham rydych eisiau ei wneud!
Rwy’n gobeithio bod hyn wedi rhoi nifer o awgrymiadau i chi eu cynnwys yn eich cais Arian i Bawb. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â ni am sgwrs ynglŷn â’ch syniad ar gyfer prosiect. Gallwch ffonio ni ar 0300 123 0735 neu anfon e-bost atom yn ymholiadau.cymru@cronfagymunedolylg.org.uk. Pob Lwc.