Prosiectau Celf: Beth allwn a beth na allwn ei ariannu
Gyda’r celfyddydau, gall yr hyn y gallwn a’r hyn na allwn ei ariannu a phwy yw arianwyr eraill y celfyddydau fod yn ddryslyd weithiau.
Ein ffocws yn Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Yn Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol rydym yn ariannu prosiectau sy’n datblygu sgiliau pobl, hyrwyddo cynnwys y gymuned ac yn annog ffyrdd mwy iach o fyw. Rydym ni’n canolbwyntio ar brosiectau sy’n ymdrin ag iechyd, addysg, yr amgylchedd a’r gymuned. Yn anffodus, nid yw ein cylch gwaith yn ymdrin â phrosiectau y mae eu prif ddiben yw hyrwyddo neu ddatblygu’r celfyddydau, treftadaeth neu chwaraeon.
Yr hyn y gallwn ei ariannu
Er hynny, rydym yn cydnabod y rôl bwysig y gall celf ei chwarae mewn rhai prosiectau, gan ddefnyddio’r celfyddydau fel arf i gefnogi gweithgareddau cymunedol, cynyddu cyfranogiad a mynd i’r afael â materion mwy cymhleth.
Gallai’r rhain gynnwys prosiectau sy’n defnyddio’r celfyddydau i leihau unigedd, creu ymwybyddiaeth ar fater neu gynyddu gwydnwch pobl trwy weithgareddau cymunedol. Yn ddiweddar, er enghraifft, ariannwyd Arts Care Gofal Celf i gyflwyno gweithdai ysgrifennu a chyhoeddi creadigol yn ne Cymru ar gyfer pobl sydd wedi profi problemau iechyd meddwl, gallwch ddarllen mwy am y prosiect hwn trwy glicio yma.
Derbyniodd Theatr Sherman grant o £211,395 i gyflwyno gweithgareddau creadigol a theatraidd i bobl ifanc mewn ardaloedd difreintiedig gyda’r nod o wella hyder ac annog integreiddio.
Ac mae Tenovus wedi derbyn grant yn flaenorol i gyflwyno Corau Sing for Life i gefnogi’r rhai sy’n profi Canser neu sydd wedi’u heffeithio ganddo.
Yr hyn na allwn ei ariannu
Gwaetha’r modd ni allwn ariannu prosiectau y mae eu ffocws yw hyrwyddo’r celfyddydau’n gyffredinol neu i gynyddu sgiliau yn y celfyddydau h.y. dosbarthiadau dawns cyffredinol, dosbarthiadau paentio, sesiynau ymarfer ar gyfer corau proffesiynol neu ffioedd mynediad i gystadlaethau
Ni allwn ariannu’r canlynol ychwaith:
- Prynu neu adnewyddu offerynnau cerdd newydd ar gyfer unigolion
- Prosiectau parhaus neu ailadroddol (hyd yn oed os ydynt yn bodloni nodau ein rhaglen)
- Prosiectau nad ydynt yn bodloni nodau ein rhaglen
Arianwyr eraill y celfyddydau
Ar gyfer prosiectau sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau, mae gan Tŷ Cerdd grantiau gwerth hyd at £2,000. Eu cenhadaeth yw cefnogi, datblygu a hyrwyddo creu, perfformio a grymuso’r profiad cerddoriaeth, yng Nghymru a’r tu hwnt.
Ar gyfer prosiectau mawr a mwy proffesiynol sy’n ymwneud â’r celfyddydau, efallai y byddwch am gysylltu â Chyngor Celfyddydau Cymru sydd â nifer o raglenni, yn amrywio o grantiau ar gyfer unigolion proffesiynol i grantiau ar gyfer digwyddiadau’r celfyddydau. Mae mwy o wybodaeth ar gael trwy glicio yma neu ffonio Cyngor Celfyddydau Cymru ar 0845 8734 900.
Mae ystod o arianwyr eraill y celfyddydau a gallwch fwrw golwg ar ganllaw ariannu’r celfyddydau Llywodraeth Cymru trwy glicio yma neu gallwch gysylltu â’ch cyngor gwirfoddol lleol i gael cymorth gyda dod o hyd i ariannu.
Dal ddim yn siŵr?
Rhowch ganiad i ni ar Linell Gymorth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol 0300 123 0735 neu e-bostiwch ni yn cymru@cronfagymunedolylg.org.uk am wybodaeth bellach.