Skip to content

Pwy fyddwch chi’n pleidleisio drostynt yng Ngwobrau’r Loteri Genedlaethol?

Gorffennaf 1, 2016

11015800_10153151375182690_789220297176969244_n.jpgMae pleidleisio wedi dechrau ar gyfer Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eleni, yr ymgyrch i ddod o hyd i hoff brosiectau’r Deyrnas Unedig a ariennir gan y Loteri. Mae tri phrosiect o Gymru a ariannwyd gan y Gronfa Loteri Fawr yn gofyn am eich pleidlais wrth iddynt anelu at fri genedlaethol yn y seremoni deledu ar BBC One ym mis Medi.

Bydd enillwyr pob un o gategorïau Gwobrau’r Loteri Genedlaethol yn derbyn gwobr ariannol o £3,000, tlws Gwobrau’r Loteri Genedlaethol eiconig ac yn dod i seremoni Wobrwyo llawn sêr, i’w darlledu ar BBC One ym mis Medi.

Pwy fydd yn derbyn eich pleidlais chi?

 

Mullany Fund mentees.jpgMae e-Fentora Mullany yn cystadlu yn y categori Addysg. Maen nhw’n ceisio gwella cynnydd cymdeithasol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot trwy ddarparu mentoriaid ar-lein ar gyfer pobl ifanc yr ardal. Mae’r mentoriaid yn astudio neu’n gweithio yn y diwydiant gwyddorau bywyd – ac yn rhoi o’u hamser yn rhydd i’r rhai y maent eisiau cyngor. Bydd y sawl sy’n cofrestru’n derbyn cyngor arbenigol, ond gallant ofyn cwestiynau ar unrhyw bwnc hefyd. Cael gwybod mwy a phleidleisiwch yma.

 

Whizz Kids.jpgMae Whizz-Kidz: Fy Medrau, Fy Ffrindiau, Fy Nyfodol yn cystadlu yn y categori addysg hefyd. Mae Whizz-Kidz yn anelu at rymuso defnyddwyr cadair olwyn 14-25 oed yng Nghymru trwy weithgareddau a hyfforddiant. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys grwpiau ieuenctid, hyfforddiant sgiliau cadair olwyn ac egwyliau preswyl. Cynigir parthau dim rhieni i ddefnyddwyr cadair olwyn hefyd i’w helpu datblygu annibyniaeth. Mae pob person ifanc sy’n ymuno â chlwb yn cael ei alw’n llysgennad. Cael gwybod mwy a phleidleisiwch yma.

 

Grow Wild Wales.jpgMae Tyfu’n Wyllt yn cystadlu yn y categori Amgylcheddol. Yng Nghymru, mae gan Tyfu’n Wyllt 51 o brosiectau cymunedol ac er 2014 mae wedi cyrraedd miloedd o bobl ar draws rhaglen y mannau cymunedol trefol ynghyd â 100,000 o bobl bellach trwy weithgareddau dosbarthu hadau blodau gwyllt am ddim. Cael gwybod mwy a phleidleisiwch yma.

 

Gallwch ddarllen mwy am y prosiectau eraill sydd wedi cyrraedd y rhestr fer trwy fynd i wefan Gwobrau’r Loteri Genedlaethol. Ond brysiwch, mae pleidleisio’n dod i ben ar 20 Gorffennaf 2016.

 

Advertisements
No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: