Ar ôl i Andrew MacDonald gael ei ryddhau o’r fyddin am resymau meddygol gydag anaf i’r coes ac yntau ond yn 21 oed, treuliodd e flynyddoedd yn brwydro i ddygymod â faint yr oedd ei anaf yn effeithio ar ei fywyd bob dydd – wrth gyrraedd y gwaelod bu iddo bron â thrychu ei goes gyda chyllell gegin. Dyma Andrew yn dweud mwy wrthym am ei brofiad a sut mae’r prosiect Links yn Llanelli wedi’i helpu i ailgydio yn ei fywyd.
“Treuliais bron blwyddyn yn cuddio i ffwrdd, ond llwyddais i gael ychydig trefn ar fy mywyd ar ôl i ffrindiau fynd â mi allan eto, es i’r coleg i ailhyfforddi, ac yn pen draws ddes i o hyd i swydd gyda’r coleg. Cwrddais â fy narpar wraig hefyd.
“Dros y ddeng mlynedd nesaf parhaodd fy nghoes i waethygu a chollais fy swydd eto, ces i fe’n fwyfwy anodd ddod o hyd i waith neu gymdeithasu â phobl eraill. Dechreuodd fy hwyliau isel effeithio ar fy mhriodas a fy mherthynas gyda fy mhlant.
“Yn y pen draw, gwaethygodd popeth a chyrhaeddais y pwynt argyfwng, a hynny oedd bron â thorri fy nghoes diffygiol i ffwrdd gyda chyllell gegin. Rwy’n cofio eistedd ar y grisiau adref, yn syllu ar y bloc cyllyll a stopiais fy hun rhag gwneud e dim ond pan welais i lun o fy mhlant.
“Trwy’r Lleng Brydeinig ces i gyfeiriad at Links. Yr argraff gyntaf y ces i oedd nad oeddwn i’n siŵr sut y gallen nhw helpu fi, ond mi ges i groeso da, ni wnaeth neb fy marnu na fy labelu a gosod fi mewn ystafell.
“Roedd pobl eraill yno a oedd yn arfer bod yn y lluoedd arfog a daeth yr hen gymrodoriaeth a direidi’n ôl yn fuan, a theimlodd yn ddiogel i fod yno. Dechreuais wneud cyrsiau Learn Direct i wella fy sgiliau cyfrifiadurol a helpu allan gyda boreau NAAFI, ac os oedd gennyf broblem gydag unrhyw ffurflenni budd-daliadau, rhoddodd rhywun o’u hamser i helpu fi.
“Mae angen Links arnaf o hyd er fy iechyd fy hun ond rwyf bellach yn helpu eraill trwy Cynllun Bydis Ffôn y Lluoedd ar y Cyd ac rwyf hefyd yn rhedeg cyrsiau paentio ffigurau, hobi sydd wedi fy helpu i ganolbwyntio, ymlacio a thynnu fy sylw.
“Mae’n wych bod Links yn derbyn arian Loteri ar gyfer y prosiect hwn i helpu pobl mewn sefyllfaoedd sy’n debyg i’r un yr oeddwn i’n ei hwynebu. Pan ofynnodd fy ngwraig i mi’n ddiweddar sut y credodd hi fod Links wedi helpu fi, atebais y byddwn ni fel teulu mewn sefyllfa wahanol ac anodd iawn heb y gefnogaeth barhaus gan y staff a’r anogaeth i gymryd rhan a mynd yn wirfoddolwr.”
Yn ddiweddar dyfarnodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol £418,241 i Links yn Llanelli fel rhan o’r rhaglen Pawb a’i Le.
Dilynwch ni ar Twitter yn @CronGymYLG
Dilynwch ni ar Facebook yn The National Lottery Community Fund Wales