Mae’r haul allan o’r diwedd ac mae ‘na siawns anarferol y bydd yn parhau, a all olygu dim ond un peth – mae gwyliau’r haf wedi cyrraedd yn swyddogol! Nawr dyma’r rhan lletchwith: meddwl am rywbeth i wneud, p’un ai’n ddiwrnod allan gyda’r teulu neu wibdaith rhywle gyda chwpl o ffrindiau.
Mae’n ffodus ein bod wedi rhoi rhestr at ei gilydd o’n pum hoff leoedd i ymweld â nhw ar draws Cymru yr haf yma. Maent oll wedi derbyn arian trwy Gronfa Cymunedau’r Arfordir, sydd newydd lansio ei rownd ariannu ddiweddaraf i’r cyhoedd. Gadewch i ni ddechrau, felly:
Bragdy Cwrw Llŷn – Nefyn, Gwynedd
Gall Penrhyn Llŷn frolio rhai o’r golygfeydd gorau dros Fôr Iwerddon, a thra’ch bod chi yno, byddem yn argymell i chi dorri’ch syched gyda pheint a fragwyd yn lleol!
Mae taith ddiweddar Cwrw Llŷn o hen sied wartheg i warws diwydiannol bellach yn rhoi cyfle i chi weld y broses fragu o lygad y ffynnon ar un o’u teithiau tywysedig. Gallwch hyd yn oed prynu stoc o’u cwrw danteithiol ar y safle, gan gynnwys detholiad tymhorol i’w gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
I gael mwy o wybodaeth am y teithiau (neu’r cwrw sydd ar gael), bwrw golwg ar eu gwefan. Os ydych am gael profiad tebyg yn y de, mae Cwmni Bragu Bluestone yn fragdy yn Sir Benfro sydd hefyd yn cynnig teithiau gwneud cwrw a sesiynau blasu. Gallwch ddarllen mwy amdanynt yn y blog hwn.
Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn – Bae Colwyn, Conwy
Oes gennych awydd cadw’n heini yr haf yma? Mae Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn yn gwmni buddiant cymunedol lleol sy’n cynnig ystod enfawr o sesiynau blasu yn y dŵr i bobl o bob oedran, gan gynnwys hedfan barcutiaid, nofio yn y môr, hwylio, syrffio gwynt a gyrru badau cyflym.
Yn ystod y gwyliau haf maen nhw hyd yn oed yn rhedeg clwb traeth ar gyfer plant 8-14 oed, sy’n ffordd berffaith i wneud ffrindiau newydd mewn awyrgylch llawn hwyl. I bobl sy’n ystyried gwneud rhywbeth ar eu cyflymder eu hunain, gallwch hurio canŵ neu gaiac i wneud eich mordaith brynhawn eich hun ar hyd y glan môr hanesyddol.
Mae Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn wedi’i leoli yng Nghanolfan Porth Eirias newydd, rhan o’r datblygiadau promenâd diweddar sy’n cynnig mynediad uniongyrchol i draeth Baner Las dymunol y dref. Beth am fwrw golwg ar eu gwefan i weld unrhyw ddigwyddiadau sydd ar ddod cyn ymweld â nhw?
Rheilffordd Cwm Rheidol – Aberystwyth, Ceredigion
I’r holl selogion trenau – neu hyd yn oed y rhai ohonoch chi sy’n mwynhau’r llwybr darluniaidd trwy fywyd, nid oes unrhyw ffordd well o dreulio diwrnod yr haf na theithio ar reilffordd dreftadaeth!
Ym 1902 yr agorwyd Rheilffordd Cwm Rheidol am y tro cyntaf ac mae ei pheiriannau ager rhyfeddol yn dal i redeg bob dydd rhwng Aberystwyth a Phontarfynach, gan fynd ar hyd ymyl Cwm Rheidol ei hun. Gallwch fynd oddi ar y trên yn ystod eich taith hyd yn oed, i fforio mwy o’r ehangder garw a gwyllt hwn o gefn gwlad Cymru, un o helfeydd y barcutiaid coch gwarchodedig.
Os ydych yn hoff o bethau’r oes a fu, byddwch yn edmygu casgliad y Rheilffordd o beiriannau locomotif, y mae rhai ohonynt yn dyddio’n ôl mor gynnar â’r 1920au, gyda cherbydau agored yn ystod yr haf yn ogystal â salwnau arsylwi “dosbarth cyntaf”. Yn ddi-os byddwch chi ddim yn cael y profiad hwn gyda Threnau Arriva! Bwrw’ch golwg ar eu gwefan i gael amserau trenau ac ymholiadau archebu.
Caer ac Amgueddfa Bae’r Capel, Angl, Sir Benfro

Yn Heneb Gofrestredig, mae Caer Bae’r Capel y 19eg ganrif yn cynnwys cipolwg ar hanes Prydain a lleol, oll o fewn amgylchynau diangof Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro.
Mae’r Caer yn gweithredu fel amgueddfa, gan gynnig teithiau tywysedig i ddangos rhywfaint o hanes milwrol mwyaf cyffrous Prydain i chi o lygad y ffynnon, gan gynnwys y Rhyfeloedd Byd a Waterloo. Wedi i chi orffen, byddem yn awgrymu’n bendant i chi gael saib yn eu caffi, cyn tynnu rhai lluniau bythgofiadwy o Foryd Cleddau!
Os ydych yn aros yn y de-orllewin, beth am fynd i weld llwybr arfordirol newydd Sustrans rhwng Pen-bre a Chydweli? Mae’n gyfle gwych i brofi prydferthwch Bae Caerfyrddin ar feic neu ar droed. I gael mwy o fanylion, ewch i wefan Sustrans.
Pafiliwn Pier Penarth, Bro Morgannwg
Efallai yr ydych am wneud rhywbeth yn fwy byrfyfyr? Os ydych, mae ymweliad â’r Pafiliwn ar Bier Penarth yn siŵr o fod yn werth chweil, hyd yn oed ar yr achlysur anaml iawn y cawn law yng Nghymru!
Fel adeilad Art Deco Gradd II Rhestredig a adferwyd yn ddiweddar i’w ogoniant gynt gan Penarth Arts and Crafts, mae’r Pafiliwn yn cynnig golygfeydd anhygoel dros Fôr Hafren. Gyda chaffi, bwyty, arddangosfeydd celf a pherfformiadau cerddorol, ynghyd â sinema sy’n dangos y ffilmiau diweddaraf, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau – p’un ai’n arhosiad byr neu brynhawn hamddenol.
 diddordeb mewn gweld beth sydd ymlaen yno? Ewch i’w gwefan i weld y manylion i gyd. Mae’n werth crybwyll y cafodd y Pafiliwn ei ailddatblygu’n rhannol trwy ein rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol, sydd newydd ei ail-lansio’n ddiweddar hefyd.
Mwy o Wybodaeth
Amcan Cronfa Cymunedau’r Arfordir (CCA) yw annog datblygiad ardaloedd arfordirol trwy ddyfarnu arian Llywodraeth Cymru i greu swyddi a thwf economaidd cynaliadwy. Ni waeth p’un a oes gennych ddiddordeb mewn prosiectau eraill rydym wedi’u hariannu trwy’r rhaglen, neu rydych yn credu y gallai’ch mudiad chi elwa o ariannu tebyg, ewch i’n gwefan i gael mwy o fanylion.
Gallwch gael gwybod mwy am gyfleoedd ariannu eraill trwy fynd i ein wefan, dilyn @CronGymYLG ar Twitter neu hoffi The National Lottery Community Fund Wales on Facebook