Gwyliwch y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn rhoi syrpreis i Hanes Llandoch gyda’r newyddion y bu eu cais am grant o £247,000 am Berllan y Bobl yn fuddugol.
Smaliodd y rheolwr cyfathrebu Ben Payne a’r swyddog ariannu Owen Jones eu bod yn griw ffilmio annibynnol cyn dal Llythyr Syrpreis y Loteri’n annisgwyl ar Nia Siggins o’r grŵp.
Fe’i cyflwynwyd ym Marchnad Llandudoch sydd wedi ennill gwobr gan y BBC yn Sir Benfro, sy’n gartref i un o stondinau Hanes Llandoch.

Bydd y grŵp bellach yn defnyddio’r grant gan ein rhaglen Pawb a’i Le i redeg prosiect ennyn diddordeb, addysgu a hyfforddi’r gymuned trwy waith crefft amgylcheddol a gwledig.
Bydd hyn yn gweld berllan gymunedol yn cael ei phlannu yn Llandudoch – tua 1,000 o goed wedi’u tyfu ar draws yr ardal ar dir a darperir gan y gymuned neu gyrff eraill.
Bydd yn darparu cyfleoedd hyfforddi, addysg ac ennyn diddordeb am yr amgylchedd a hanes yr ardal, ac yn gwella’r dirwedd naturiol ar yr un pryd. A disgwylir y bydd oddeutu 500 o bobl a 70 o fudiadau ar eu hennill.
Bydd y gweithdai i wirfoddolwyr a buddiolwyr yn ymdrin â phethau fel garddio, hyfforddiant cymorth cyntaf, hyfforddiant bws mini, gweithdai entomoleg i blant hŷn a hyfforddiant i wirfoddolwyr y cybiau gwenyn.
Caiff y cyfleoedd hyn eu hyrwyddo trwy raglen dreigl o sgyrsiau a seminarau, gan ddefnyddio arbenigedd mudiadau eraill.