Skip to content

“Fe gymerais fy llwon priodas yn Gymraeg ar ôl ffoi am fy mywyd”

Medi 19, 2016

“Fy enw i yw Salah Rasool, rydw i’n dod o Gwrdistan, sy’n cael ei adnabod fel Gogledd Irac, ond yn gyffredinol nid wyf yn cyfrif fy hun fel Iraci. Cwrdaidd ydw i a byddai erioed yn berchen i Gwrdistan.

“Yn 1980 i 1988, roedd Irac yn rhyfela yn erbyn Iran, roedd y byd cyfan yn cefnogi Saddam. Fel cenedl, roeddem yn erbyn llywodraeth Irac. Fel plentyn a pherson ifanc, roeddwn yn byw trwy hynny, ac ar ôl 1991 a Rhyfel y Gwlff, fe wrthryfelom yn ein dinasoedd, ac fe welais fy mrawd yn cael ei anafu; plant oeddem yn rhedeg o amgylch yn chwarae pêl-droed ac roedd bwledi a bomiau ym mhobman.

“Yn 1997, roedd rhyfel cartref ar ôl i mi raddio o astudio bioleg yn y brifysgol. Roedd y gwrthdaro yn anodd iawn i ni ac fel cenedl Gwrdaidd ar yr adeg honno, ac roedd rhaid i mi adael.  Fe adawais bopeth y tu ôl i mi.

“Fe gymerodd tua naw mis i mi gyrraedd Cymru o Gwrdistan. Roedd yn rhaid i mi fynd o Gwrdistan Irac a cherdded trwy’r mynyddoedd i Iran, ac yna Twrci, gyda thua 20 o bobl. Cafodd 14 ohonom ein harestio, llwyddodd 6 ohonom i oroesi neu ddianc.

“Fe gyrhaeddom yn Istanbul ond heb unrhyw le i aros. Teiliwr oeddwn i felly roedd gennyf rhai sgiliau ac fe lwyddais gael swydd mewn siop deilwra ar gyfer mwyafrif y naw mis hynny i ennill arian i fynd i wlad Groeg. Fe gymerodd 14 noson – yn cerdded trwy’r nos ac yn cysgu yn ystod y diwrnod.

“Ymlaen a ni, tri diwrnod yn yr Eidal, ymlaen trwy Paris ac fe arhosais un noson yng Ngwlad Belg cyn dod yma, ymgeisio am loches ac ar ôl tair neu bedair wythnos, cefais fy statws a symud o amgylch i Lerpwl, Manceinion, Birmingham ac yna Abertawe.

“Pan groesais dros Bont Hafren o Birmingham, dwi ddim yn siŵr beth ddigwyddodd ond roedd fy nghalon yn curo’n gyflym ac roedd yn teimlo fel bod y byd cyfan wedi agor i fyny i mi, teimlad arbennig. Trwy’r holl wledydd es i drwyddynt, roedd bron yn teimlo fel fy mod yn mynd adref. Roedd yn teimlo fel adref i mi, ac fe ddaeth yn gartref i mi.

“Un diwrnod es i i Gyngor Ffoaduriaid Abertawe gyda pherson roeddwn yn cyfieithu ar ei gyfer a gofynnodd yr arweinydd tîm os hoffwn wirfoddoli gyda nhw, roedd yn gyfle gwych i mi. Roeddwn yn gallu siarad Saesneg a darllen llythyron, roeddwn yn helpu ffrindiau Cwrdaidd o fy amgylch a phan ddechreuais weithio yng Nghyngor Ffoaduriaid Cymru, daeth fy mywyd yn fwy agored ac roeddwn yn gallu helpu gwahanol gymunedau o wahanol gefndiroedd.

“Yna fe drïais am swydd fel derbynnydd yn 2005 a’i chael hi a dyna ni, newidiodd fy mywyd yn gyfan gwbl. Felly rydw i mewn dyled i Gyngor Ffoaduriaid Cymru, a dyna pam rydw i’n dal i weithio yma, 10, 11 mlynedd yn ddiweddarach.

“Pan groesais Bont Hafren a gweld y gair “Gwasanaethau”, roeddwn yn gwybod fy mod eisiau dysgu Cymraeg. Es i i ddosbarth jyst cyn dechrau gyda’r cyngor ffoaduriaid ac yna fe wnes i gwrs dwys ym Mhrifysgol Bangor ar ôl cwrdd â fy ngwraig, ac mae fy mhlant yn siarad Saesneg, Cymraeg a Chwrdeg.

“Fe gwrddais â fy ngwraig, Cymraes, pan ddechreuais fel gwirfoddolwr yng Nghyngor Ffoaduriaid Abertawe. Fe ddechreuais weithio fel gweithiwr achos fel y bo angen a phan ges i’r swydd, fe wnes i gwrdd â hi, roedd hi’n gweithio yng Nghaerdydd ar y pryd ac wedi dod i’r swyddfa yn Abertawe un diwrnod, a dyna sut gwrddon ni.

“Fe briodon ni yn 2006, Moslemaidd yw fy nghefndir a diwylliant, ac roedd fy nhad yn draddodiadol iawn felly fe gawsom ni seremoni Foslemaidd. Yn 2007, fe gawsom ni ddathliad Cymreig mewn capel, ac yn 2009, fe gawsom ni ddathliad Cwrdaidd. Llawer o ben-blwyddi priodas!

“Fe ddywedais fy llwon priodas yn Gymraeg, a oedd braidd yn anodd! Ond mae fy mywyd i gyd wedi bod yn anodd ac yn heriol. Fe wnes i hynny oherwydd bod fy nhad yng nghyfraith yn Weinidog ac yn siarad Cymraeg, felly fe briododd ni gan wneud y cwbl yn Gymraeg. Dwi’n credu gwnes i’n iawn!

“Rwy’n teimlo’n ailanedig yng Nghymru. Pan rydym yn cael ein geni, does dim dewis gennym am ein hamgylchiadau, mae’n dibynnu ar ein rhieni. Mae rhai pobl yn cael eu geni yn lle anghywir, baswn i’n dweud fy mod i’n un ohonynt. Roedd fy mywyd yn Cwrdistan yn anodd, ond o’r diwrnod symudais i Gymru, y cwbl rwy’n gweld yw positifrwydd, mae fy mywyd wedi newid yn gyfan gwbl. Mae popeth hyd yn hyn wedi cyrraedd lefel gwahanol. Rwy’n hapus iawn fy mod wedi dod yma.”

Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yng Nghaerdydd yn defnyddio grant y Gronfa Loteri Fawr o £9,750 i gynnig mynediad ar gyfer eu cleientiaid i gyfrifiaduron a’r we, a gwella’u gwefan trwy ei chyfieithu i chwech iaith ac uwchraddio eu gweinyddion. Maen nhw’n gweithio ledled Cymru i amddiffyn hawliau ffoaduriaid, gan gynnig gwasanaethau cefnogaeth arbenigol i geiswyr lloches a ffoaduriaid yn ogystal â dylanwadu ar bolisïau ac arfer er mwyn ymateb i anghenion.

Dilynwch ni ar Twitter yn @LoteriFawrCymru

Dilynwch ni ar Facebook yn Big Lottery Fund Wales

Advertisements
No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: