Yr ymateb wrth i Canolfan Y Fron ddarganfod bod eu cais am grant wedi cyrraedd y nod
Gwyliwch yr ymateb anhygoel wrth i Ganolfan Y Fron yng Ngwynedd dderbyn Llythyr Syrpreis y Loteri gwerth £946,851 – arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Dywedodd Swyddog Cyfathrebu, Rosie Dent a Swyddog Datblygu Gwybodaeth Leol, Gareth Hughes wrth y grŵp eu bod am ffilmio rhai golygfeydd o’r prosiect cyn i’r penderfyniadau gael eu cyhoeddi.
Mae Canolfan Y Fron yn cynnwys gwirfoddolwyr diwyd o’r ardal leol. Pan gaeodd yr ysgol leol, Ysgol Bron-y-foel ym mis Awst 2015, gwnaethant ddyfeisio cynllun i drawsnewid yr adeilad i gyfleuster cymunedol A*.
Roedd y grŵp yn wefr i gyd pan ddatgelwyd y newyddion yr oedd eu cais am grant o £946,851 gan raglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol 2 y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyrraedd y nod.
Bydd yr adeilad, sydd bellach yn segur, yn mynd wrth wraidd y pentref a’r cylch. Mae’r adeilad yn gartref i ddwy neuadd gymunedol, siop fach, ystafell driniaeth a byncws 16 gwely.
Wrth gael gwybod am y newyddion cyffrous, meddai’r Cadeirydd, Jim Embrey, “Mae’n debygol mai dyma’r diwrnod gorau i’r pentref yma ers diwedd yr Ail Ryfel Byd”.