Gan Andrea Clarke, rheolwr cyfathrebu.
Fel yr ariannwr mwyaf y tu allan i’r Llywodraeth sy’n dosbarthu tua £30 miliwn yng Nghymru bob blwyddyn, byddech yn meddwl y byddem boblogaidd ymysg grwpiau cymunedol? Pan wyf allan mewn cymunedau, rwyf yn aml yn clywed mythau am ein hariannu a’r rhai sy’n dewis peidio ag ymgeisio o’u herwydd.
Dyma’r 7 myth pennaf am y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru yr wyf yn falch o’u gwrthbrofi…
- Mae angen i chi fod yn arbenigwr codi arian i ymgeisio
Mae’r mwyafrif o geisiadau a dderbyniwn wedi’u hysgrifennu gan wirfoddolwyr. Ar gyfer grantiau mwy gwerth sawl miloedd o bunnoedd, mae mudiadau weithiau’n cyflogi rhywun i godi arian. Er hynny, nid oes unrhyw dystiolaeth bod hyn yn creu cais gwell. Mae’n bwysig i ni bod yr unigolyn sy’n ysgrifennu’r cais yn gwybod am y prosiect.
- Os byddwch yn cael eich gwrthod, ni allwch ymgeisio eto
Rydym yn rhoi adborth ar bob cais sy’n aflwyddiannus. Ar y mwyafrif o raglenni grant fel Arian i Bawb a Pawb a’i Le byddwn yn derbyn ceisiadau eto cyhyd ag y maent wedi ystyried yr adborth a roddwyd.
- Ni fyddwch yn ariannu costau cyffredinol
Gallwn ariannu cyfran o gostau cyffredinol eich mudiad (rhent/gwres/golau/cyfreithiol/AD). Mae’r rheolau’n amrywio gan ddibynnu ar y rhaglen rydych yn ymgeisio iddi, ond fel canllaw bras, mae costau cyffredinol yn cyfrif am bron 10% o gyllideb eich prosiect. Bwrw golwg ar ein harweiniad am fwy o wybodaeth
- Rydym yn annhebygol o gael ein hariannu
Os byddwch yn ymgeisio am grant o £5,000 neu lai, mae’r cyfraddau llwyddiant uwchben 65%.
- Ni fyddwch yn ariannu mudiadau sydd ag arian wrth gefn
Rydym yn credu bod arian wrth gefn yn beth da a’i fod yn helpu mudiad i oroesi unrhyw newidiadau neu doriadau ariannol. Rydym yn annog mudiadau i gronni arian wrth gefn.
- Dim ond elusennau mawr rydych yn eu ariannu
Er yr ydym yn ariannu elusennau cenedlaethol, mae elusennau a grwpiau cymunedol bach yr un mor bwysig i ni. Yn wir, rydym yn dosbarthu mwy o grantiau o lai na £5,000 na grantiau mawr bob blwyddyn.
- Rydych yn hoffi gweld nifer mawr o fuddiolwyr
Rydym yn hoffi gweld prosiectau’n gweithio gyda nifer realistig o fuddiolwyr ac yn monitro a gwerthuso’r gwahaniaeth sy’n cael ei wneud i fywydau pobl. Mae hyn yn golygu, os byddwch yn nodi y bydd eich prosiect yn creu buddion ar gyfer eich pentref cyfan neu bob person ifanc, y byddwch yn annhebygol o’i ariannu gan i ni gredu bod y cynlluniau’n or-uchelgeisiol. Mae nifer y bobl sy’n cymryd rhan yn llai pwysig i ni nag ennyn diddordeb mewn ffordd ystyrlon.
I gael mwy o wybodaeth, mae ein Timau Cymorth wrth law i’ch tywys chi trwy ein hariannu ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Gallwch gysylltu â ni trwy ffonio 0300 123 0735 neu e-bostio ymholiadau.cymru@cronfaloterifawr.org.uk.