Gwyliwch y funud hudolus pan rodd côr o bobl sydd wedi’u heffeithio gan ganser syrpreis i RainbowBiz Ltd gyda newyddion am eu grant Dewch i ddathlu.
Ffugiodd côr Sing with Us Gofal Canser Tenovus eu bod wedi dod o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol cyn taro cân gyda newyddion am y grant gwerth £1,893.
Ymunwyd â nhw gan Brif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Dawn Austwick, a gyflwynodd y siec.

Diolch i arian a godir gan chwaraewyr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, caiff y grant ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiad i ddathlu integreiddio cymunedau amrywiol. Bydd hyn yn cynnwys stondinau wedi eu rhedeg gan grwpiau sy’n dathlu cynhwysedd ac amrywiaeth ynghyd â dangosiad o’r ffilm Pride o 2014.
Mae RainbowBiz Limited yn fenter gymdeithasol yn Sir y Fflint. Ei nod yw hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda gweithgareddau sy’n cynnwys prosiect garddio cymunedol wythnosol, sinema gymunedol a siop hipî. Yn flaenorol derbyniant £5,000 gan Cronfa gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer Gŵyl Amrywiaeth Gogledd-ddwyrain Cymru.
Ar yr un pryd, trwy grant o bron £1 miliwn yn 2011, mae Gofal Canser Tenovus wedi medru sefydlu 15 côr ar gyfer cleifion canser dros 50 oed, eu teuluoedd, gofalwyr a ffrindiau a’r rhai sydd mewn profedigaeth oherwydd y cyflwr ledled Cymru.