Skip to content

Cymunedau’n taclo newid yn yr hinsawdd gyda chefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr

Tachwedd 9, 2016

Main image.jpgDyma Andrew Brown, Rheolwr Ariannu, yn rhannu ei fyfyrdodau o gynhadledd Adfywio Cymru yr hydref yma yn Wrecsam

“Ysbrydoliaethus” ac “agor y llygaid” yw sut y byddwn yn disgrifio cynhadledd Adfywio Cymru eleni, a ddaeth â chymunedau ynghyd gydag arbenigwyr sy’n ymarfer dulliau taclo newid yn yr hinsawdd ar lefel leol a chenedlaethol.

Dyfarnwyd grant o £620,000 i Gymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru i sefydlu’r prosiect Adfywio Cymru. Mae’n fenter sydd wedi’i hanelu at ddatblygu capasiti a gallu cymunedau ledled Cymru i daclo newid yn yr hinsawdd.

Roedd yn arbennig o berthnasol i mi gan fy mod yn rheoli ein rhaglen Creu Eich Lle ar hyn o bryd, y mae ei nod yw helpu cymunedau gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w hamgylchedd lleol.

Dechreuodd y gynhadledd, a gadeiriwyd gan Gyfarwyddwr Cronfa Loteri Fawr Cymru, John Rose, gyda chyfres o sgyrsiau diddorol gan ffigurau allweddol yn ymateb y trydydd sector i newid yn yr hinsawdd. Roedd y rhain yn cynnwys Dr Eurgain Powell o swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a siaradodd am sut y gallai Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a weithredwyd yn ddiweddar helpu gyrru newid sylweddol mewn gweithredoedd Cymru ar newid yn yr hinsawdd. Clywsom hefyd gan Dr Sarah Lloyd-Jones, hoelen wyth y trydydd sector yng Nghymru a chyfarwyddwr elusen yr Uned Pobl a Gwaith, am yr heriau presennol y mae’r trydydd sector yn eu hwynebu a sut y gellir eu goresgyn.


Ond y ddau achlysur eithriadol i mi oedd y gweithdai a gyflwynwyd gan arbenigwyr yn y sector amgylcheddol.
Roedd fy ngweithdy cyntaf gydag Anne Jaluzot o Trees Design Action Group, lle esboniodd hi bwysigrwydd ymgorffori coed i’r broses gynllunio ar gyfer seilwaith trefol. Roedd yr enghreifftiau byd go iawn o sut gall defnydd deallus o goed leihau tymheredd trefol a dŵr glaw ffo a darparu mannau cerdded a beicio  diogel yn wir ysbrydoliaeth. Dangosodd symlrwydd prydferth yr enghreifftiau hyn o gynllunio isadeiledd effeithiol i mi y gallai trefi a dinasoedd ledled Cymru elwa’n wirioneddol o fwy o goed trefol.

Renew Wales 1.JPGWedyn, clywais gan Laura Outhart a Duncan Law o Transition ReConomy am sut i adeiladu gwydnwch economaidd lleol. Defnyddion nhw enghreifftiau o’u gwaith llwyddiannus yn Brixton lle’r oeddent wedi creu cymuned o entrepreneuriaid i adeiladu economi leol ffyniannus. Roedd y cysyniad o greu glasbrint economaidd ar raddfa fach yn rhywbeth y credaf fod modd ei efelychu mewn cymunedau ar draws Cymru, gan wella’u gallu i leihau milltiroedd bwyd ac annog menter werdd.

Daeth y diwrnod i ben gyda thrafodaeth banel lle lleisiwyd gofidion am effaith Brexit a’r ansicrwydd dros ariannu ar gyfer prosiectau amgylcheddol, ond ble yr oedd ysgogiad cryf dros weithredu cymunedol ar newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol yn amlwg.

Roedd yn ddiwrnod ysbrydoliaethus, ac roedd fy nhaith adref yn llawn meddyliau am ynni adnewyddadwy, cynlluniau ceir cymunedol, mentrau plannu coed trefol a chynlluniau ar gyfer economeg amgylcheddol lleol. Os gellir trawsnewid brwdfrydedd ac egni’r siaradwyr a chynrychiolwyr i weithredu gan y trydydd sector, mae gennym lawer o fod yn obeithiol amdano yng Nghymru.

Advertisements
No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: