Skip to content

“Newidiodd fy mywyd dros nos pan ddeffrais heb fedru gweld allan o un llygad”

Rhagfyr 1, 2016

Ar ôl i Diana Williams, sy’n 49 oed, ddeffro un bore’n sydyn heb fedru gweld yn iawn mewn un llygad – gan olygu y bu’n rhaid iddi roi’r gorau i yrru, ei swydd a’i chartref – aeth hi’n benderfynol na fyddai’n newid ei bywyd.

A hithau’n 62 oed bellach a diolch i brosiect y Gymdeithas Macwlaidd a ariennir gan y Gronfa Loteri Fawr, mae hi’n ymroi i gefnogi pobl eraill sydd mewn perygl o fynd yn unig yn gymdeithasol trwy golli golwg.

“Roeddwn i’n 49 oed ac yn byw yn Abertawe pan ddeffrais un bore heb unrhyw olwg canolog yn fy llygad chwith,” esboniodd hi. Roeddwn bob amser wedi bod yn y proffesiwn gofalu, bob amser wedi gofalu am bob math o bobl ac wedi gweld a chlywed cynifer o bethau y mae pobl yn eu profi nad ydych byth yn meddwl y bydd yn digwydd i chi, a rhai blynyddoedd wedyn, digwyddodd yr un peth yn union i fy llygad de.

“Pan ges i fy niagnosio, nid oeddwn yn gwybod beth i ddweud. Gadewais yr ysbyty heb wybod dim byd amdano a heb fedru credu’n iawn bod gennyf y cyflwr hwn yn barhaol ac nad oedd unrhyw beth y gallwn ei wneud amdano. Ond yn y pen draw sylweddolais os oedd gennyf hwn yn barhaol y dylwn fwrw ‘mlaen gyda bywyd a chanolbwyntio ar yr hyn y gallaf ei wneud ac nid yr hyn na allaf ei wneud.

“Diolch byth fe ddaeth fy ngŵr o hyd i’r Gymdeithas Macwlaidd ar-lein ac o’r pwynt hwnnw ymlaen rwyf wedi bod mewn cyswllt parhaus â nhw. Roeddent yn gymorth gwych pan ges i fy niagnosio, esbonion nhw lawer o bethau i mi ac o fewn blwyddyn dechreuais fynychu grŵp cefnogi yn Abertawe.”

“Un peth yr oedd yn rhaid i mi ei newid yn fy mywyd bob dydd ar ôl i’r ail lygad gael ei effeithio oedd, wrth i mi wirfoddoli mewn siop elusen leol, y gallwn deimlo fy hun yn gwneud camgymeriadau fel rhoi’r newid anghywir i bobl. Ddes i â hynny i ben cyn iddynt ofyn i mi adael gan i mi deimlo na allwn ymdopi ag ef.

Diolch byth gallaf chwerthin amdano, y nifer o weithiau yr wyf wedi dweud helo wrth y person anghywir, neu geisio defnyddio cyllell a fforc ar y patrwm ar blât, neu fwrw pethau trosodd, a phethau fel hynny’n syndod ond rwyf wedi dysgu chwerthin ar bethau fel hynny.

“Yn y pen draw symudais i Lanbedr Pont Steffan, roedd un o fy mhlant ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan ar y pryd; byddai fy ngŵr a minnau’n mynd i ymweld nawr ac yn y man a gan i ni hoffi’r lle cryn gymaint fe symudon ni yma.

“Mae fy nghyflwr wedi gwneud i mi edrych ar bethau’n wahanol – mae ffordd o gwmpas pethau trwy’r amser, efallai y bydd pethau’n cymryd mwy o amser ac achosi mwy o rwystredigaeth ond gellir gwneud nhw a gallaf wneud pethau. Bu’n rhaid i mi roi’r gorau i yrru ar ôl cwpl o flynyddoedd, ond gallaf fynd o A i B o hyd ar gludiant cyhoeddus hyd yn oed os yw’n cymryd llawer mwy o amser, yn enwedig yn rhannau gwledig canolbarth Cymru.”

A hithau’n byw yn Llanbedr Pont Steffan, gyda chefnogaeth gan y Gymdeithas Macwlaidd llwyddodd Diana i gychwyn grŵp cefnogi newydd i bobl yn yr ardal sy’n estyn mor bell ag Aberystwyth a Chaerfyrddin, ac mae’n anelu at estyn allan i’r bobl y mae angen y gefnogaeth arnynt fwyaf.

“Rwyf wedi cwrdd â rhai pobl y mae eu bywydau wedi cwympo’n rhacs gan na allan nhw dderbyn y cyflwr, roedd un dyn a oedd i bob pwrpas yn ceisio taflu arian arnaf i’w wella! Dywedais wrtho na all ein grŵp wneud hynny ond y gallwn ei helpu i fyw gydag ef. Roedd menyw a oedd wedi crio am wythnosau a heb ddweud wrth neb, ac ar ôl cymryd rhan yn ei grŵp lleol mae hi wedi dod i dderbyn y cyflwr.

“Rwy’n dweud wrth bawb a welaf am ein cyfarfodydd, eu bod yn ymwneud ag unrhyw fath o gyflwr colli golwg, a bod croeso i unrhyw un yma i gael mwy o wybodaeth waeth p’un a oes gennych golled golwg ai beidio. Teimlaf po fwyaf o bobl sy’n gwybod amdanynt, mwyaf o bobl fydd yn dod a mwyaf y gallwn gynyddu ymwybyddiaeth o’r cyflwr.

“Nid yw rhai o’r grwpiau ar draws Cymru’n hawdd eu cyrraedd os nad oes gennych gludiant, hyd yn oed yma gan ei fod mor wledig ond pan symudais i Lanbedr Pont Steffan roeddwn yn gwybod mai Eglwys Sant Thomas fyddai’r lle iawn gan ei bod mewn tref sydd â thir gwastad, ac mae’n eithaf hawdd ei chyrraedd.

“Credaf y bu’r grŵp hwn yn Llanbedr Pont Steffan yn ychydig o agoriad llygad i grwpiau gwirfoddol yn gyffredinol, mae wedi dangos y gallwn gynnal grwpiau cefnogi llwyddiannus mewn ardaloedd gwledig.”

Mae’r Gymdeithas Macwlaidd yn defnyddio grant o £348,272 trwy raglen Pawb a’i Le’r Gronfa Loteri Fawr dros dair blynedd i gyflwyno prosiect Cymru gyfan sy’n cyflwyno gwasanaethau a arweinir gan wirfoddolwyr i leihau unigedd a gwella annibyniaeth pobl sydd â chlefyd macwlaidd.

Dilynwch ni ar Twitter yn @LoteriFawrCymru

Dilynwch ni ar Facebook yn Big Lottery Fund Wales

Advertisements
No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: