Skip to content

Women Connect First yn Cynnal Dathliad Mawr o Gyflawniadau Menywod

Mawrth 10, 2017

Amcan Women Connect First yng Nghaerdydd yw grymuso a gwella bywydau menywod du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME) difreintiedig a’u cymunedau er mwyn helpu pobl i wireddu eu potensial llawn a gwneud cyfraniad cadarnhaol at gymdeithas yng Nghymru.

Dyma un o wirfoddolwyr Women Connect First, Rehana Nadeem, yn sylwi ar sut mae gwirfoddoli wedi ei hysbrydoli i helpu pobl eraill.

“Rwyf wedi gweithio fel gwirfoddolwr i Women Connect First ers bron pedair blynedd. Mae wedi bod yn brosiect gwobrwyol a difyr iawn gan i mi ennill cynifer o sgiliau newydd. Rwy’n cynorthwyo tiwtoriaid gyda’u dosbarthiadau sgiliau sylfaenol, gan helpu dehongli a chyfieithu, dysgu dosbarthiadau celf a gwneud yr arlwyo mewn rhai o’r digwyddiadau a gynhelir gan Women Connect First, ac rwyf hefyd wedi cael cyfle swydd fel cydlynydd rhandir. Rwyf wedi mynd yn fwy hyderus ac mae’r mudiad wedi rhoi cyfle i mi gwrdd â phobl newydd, gwneud ffrindiau newydd a rhoi’r sgiliau sydd gennyf ar waith. Rwyf hefyd wedi medru rhoi cyngor a chymorth i fenywod eraill.”

Bydd Women Connect First yn dathlu menywod fel Rehana trwy gynnal diwrnod llawn gweithgareddau ac adloniant AM DDIM yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ar 15 Mawrth rhwng 11 a 3, ac maent yn disgwyl i bobl ddod yn llu. Mae’r rhaglen yn cynnwys perfformiadau diwylliannol, cerddoriaeth fyw a sioe ffasiynau diwylliannol. Anogir pawb sy’n dod i’r digwyddiad a ariennir gan y Loteri ddod yn eu gwisgoedd traddodiadol, a bydd y trefnwyr yn gwneud yr un peth.

 

17097608_800449256769222_5225210745011931526_o.jpg

Advertisements
No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: