Skip to content

Beth all cyfranddaliadau cymunedol ei wneud i chi?

Mai 8, 2017

Mae cyfranddaliadau cymunedol yn opsiwn cynyddol boblogaidd yng Nghymru ar gyfer pobl leol sydd am greu cyfleoedd mawr yn eu cymuned. O gyllido cyfleusterau cymunedol a ffynonellau ynni cynaliadwy i brynu’r siop neu dafarn leol, mae’r cyfle’n bodoli i’r gymuned gyfan ddod ynghyd ac ymfalchïo yn y lle sy’n gartref iddynt.

Felly beth ydynt a sut maen nhw’n unigryw? Mae cyfranddaliadau cymunedol yn gweithio fel unrhyw fusnes mawr arall, ond yn hytrach na phrynu rhan o gwmni sydd eisoes yn bodoli mae pobl leol yn rhoi arian tuag at gyfran mewn cwmni y byddant yn cychwyn ac yn berchen arno. Mae cyfranddaliadau cymunedol a chydweithfeydd yn sicrhau bod y fenter yn un sy’n wirioneddol ar gyfer y gymuned trwy gynnig polisi “un aelod, un bleidlais”, gan olygu y bydd pawb yn y gymuned yn cael yr un hawl i bleidlais ac i ddweud eu dweud ni waeth faint bynnag o gyfranddaliadau y mae un unigolyn yn eu prynu.

A’r buddiannau? Un o’r problemau anoddaf wrth ddechrau busnes neu gwmni yw dod o hyd i’r cyfalaf ar gyfer y buddsoddiad cychwynnol. Gall cyfranddaliadau cymunedol oresgyn y rhwystr hwn trwy gronni adnoddau’r gymuned tuag at fuddiant a rennir. Gan ei fod yn canolbwyntio ar y gymuned leol, dyna phwy sy’n elwa. Mae’r cwmni’n defnyddio’r arian a fuddsoddir mewn cyfranddaliad i ariannu’r fenter gan gynnwys y costau cychwynnol a’r ffioedd rhedeg.

Ond nid yw cyfranddaliadau cymunedol yn rhodd elusennol. Mae’r arian a godir yn fuddsoddiad ac, fel unrhyw fuddsoddwr cyfrwys, gall y gymuned ddisgwyl derbyn elw mor fuan ag y bydd y busnes wedi sefydlu ei hun. Enghraifft ffyniannus o hyn yw stori lwyddiant barhaus Awel Aman Tawe yng Nghwm Tawe Uchaf. Gan ganolbwyntio ar wella’r amgylchedd lleol, creu swyddi lleol a rhoi elw yn ôl i’r gymuned, mae’r mudiad wedi bod wrthi’n codi arian, o gyn lleied â £50 y buddsoddiad, i adeiladu fferm wynt a chynnig elw blynyddol o 5%. Cwblhawyd y fferm wynt o flaen amser a chomisiynwyd y tyrbinau ar 25 Ionawr 2017, gyda’r uchelgais o gynnig y gwobrwyon a buddiannau i bobl leol a chan arbed y swm enfawr o 236,000 o dunelli o CO2 dros 20 mlynedd mewn cwm a oedd ynghynt yn ardal lofaol.

Mae hyd yn oed wedi ennill cefnogaeth nifer o enwogion gan gynnwys y cyn-chwaraewr undeb rygbi Cymru rhyngwladol Paul Thorburn, a ddwedodd, “Harneisiais ynni’r gwynt i helpu fy ymdrechion cicio gôl ar y maes, ac mae gweld y buddion yn cael eu dychwelyd i’r gymuned leol gan yr adnodd hwn yn anhygoel.”

Er eu bod yn tyfu’n gyflym, nid yw cyfranddaliadau cymunedol yn ffenomen newydd gan fod bron 120,000 o bobl wedi buddsoddi dros £100m yn y Deyrnas Unedig er 2009. Os oes gennych ddiddordeb mewn buddsoddi mewn cyfranddaliad cymunedol neu gychwyn menter ar gyfer eich cymuned chi, mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cydweithredol Cymru yn http://cymru.coop/.

Advertisements
No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: