Skip to content

Cyfle i Elusennau ddyblu rhoddion y Nadolig yma

Mehefin 7, 2017

Castlehaven Community Centre (25).jpgPrin ei gyrraedd y mae’r haf ond nid yw byth yn rhy gynnar i edrych ymlaen at dymor y rhodd. Dyna pam y mae’r Gronfa Loteri Fawr wedi dod ynghyd gyda phobl syfrdanol Y Rhodd Fawr i gynnig cyfle i ddyblu’r buddsoddiad yn eich hoff elusennau y Nadolig hwn heb unrhyw gost ychwanegol.

Ers i’r Rhodd Fawr gael ei sefydlu gan Syr Alec Reed yn 2007, mae’r mudiad wedi helpu codi’r swm anhygoel o £82 miliwn ar gyfer dros 2,800 o brosiectau elusennol yn y Deyrnas Unedig.

Eleni, mae’r Her Nadolig yn lansio ar 28 Rhagfyr ar #DyddMawrthRhoi a bydd yn darparu arian cyfatebol i’r rhoddion a wneir trwy’r wefan tan 5 Rhagfyr. Ariennir y gronfa arian cyfatebol trwy ‘Eiriolwyr’ fel Cronfa Loteri Fawr.

Mae’r broses yn syml. Mae gan elusennau tan 7 Gorffennaf 2017 i gofrestru eu diddordeb.

Y cam nesaf yw rhan fwyaf cyffrous a gwobrwyol y broses wrth i’r Her Nadolig lansio, ac mae gan elusennau wythnos i ddenu cymaint o gefnogaeth a rhoddion â phosib gan eu helpwyr Nadolig ac i elwa o’r arian cyfatebol. Dyma’r cyfle i elusennau fod ar eu hennill gan fod 84% o roddwyr yn fwy tebygol o roi mewn ymgyrch arian cyfatebol ac mae 86% o roddion a wneir yn yr Her Nadolig yn destun Cymorth Rhodd.

Dyna pam mae Cronfa Loteri Fawr Cymru’n cefnogi’r ymgyrch yn frwd ac wedi addo rhoi arian cyfatebol tuag at raddion i brosiectau sy’n gweithio i wella lles pobl yng Nghymru. Felly, p’un a ydych yn elusen sydd am elwa o garedigrwydd pobl neu’n Samariad hael sydd am addo’ch cefnogaeth (fach neu fawr) i’ch hoff elusen, gallwch chwarae rôl fawr wrth wireddu breuddwydion y Nadolig ar draws y wlad eleni trwy glicio yma

Advertisements
No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: