Mae ein rhaglen Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu dros £3.5 miliwn y flwyddyn ar gyfer prosiectau ym mhob cwr o Gymru. Dyma’n rhaglen fwyaf poblogaidd oherwydd y graddfeydd amser byr a’r gyfradd lwyddiant, ac mae’n agored i’r mwyafrif o elusennau cofrestredig ac ystod o fudiadau trydydd sector. Felly pam ydym ni’n newid hi?
Rydym eisiau ei gwneud hyd yn oed yn well, gan leihau’r ffurflen gais a’r gofynion o ran yr hyn y gallwn ei ariannu, a chodi’r uchafswm grant i ddiwallu anghenion prosiectau. Rydym wedi profi ein deunyddiau newydd gyda’n cwsmeriaid i sicrhau bod yr iaith yn gwneud synnwyr, ac rydym yn cynnig gwelliannau a fydd yn fuddiol i’ch cymuned.
Rydym wedi cadw’r pethau gorau – fel dim terfyn amser ar y rhaglen, a gwneud penderfyniadau o fewn 12 wythnos.
Darllenwch ymlaen i weld crynodeb o’r newidiadau allweddol.
- Mae’r uchafswm grant wedi codi. O hyn ymlaen gallwch ymgeisio am swm rhwng £300 a £10,000 ar gyfer prosiect sy’n para tua blwyddyn.
- Rydym yn awr yn llai penodol o ran yr hyn y gallwn, a’r hyn na allwn, ei ariannu. Er enghraifft, yn awr gallwch ymgeisio am gyflogau staff ac astudiaethau dichonoldeb.
- Rydym wedi symleiddio ein harweiniad, gan ganolbwyntio ar yr hyn rydym yn chwilio amdano. Yn hytrach na gofyn beth sydd o’i le gyda chymunedau, rydym am i chi ddweud sut rydych wedi cynnwys y gymuned wrth ddylunio, datblygu a chyflwyno gweithgareddau.
- Byddwn yn asesu’ch cais yn erbyn ein blaenoriaethau ariannu, bydd angen i’ch prosiect ddangos sut y bydd yn:
- dod â phobl ynghyd ac adeiladu cysylltiadau cryf o fewn ac ar draws cymunedau
- gwella’r lleoedd a lleoliadau sy’n bwysig i gymunedau
- galluogi mwy o bobl i gyflawni eu potensial trwy weithio i ddelio â phroblemau yn y cam cynharaf posib.
- Rydym yn awyddus i gefnogi mudiadau bach. I gyflawni hyn, byddwn yn cymryd incwm eich mudiad i ystyriaeth fel rhan o’n penderfyniad cyffredinol.
- Nid oes angen i ni dderbyn adroddiadau diwedd grant bellach. Ar gyfer ein grantiau bach rydym am i chi ganolbwyntio ar gyflwyno gweithgareddau ac felly byddwn yn gofyn i sampl o brosiectau gyflwyno adroddiadau cynnydd. Wrth gwrs, efallai y byddwch eisiau gweiddi’n uchel am eich prosiect a byddwn wrth law o hyd i gynnig cefnogaeth.
- Mae ein brand yn cyfeirio at y Loteri Genedlaethol, rhywbeth na allai ein rhaglen weithredu hebddi. Diolch yn fawr iawn i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud hyn yn bosib!
Wrth gwrs mae ein tîm Cymorth cyfeillgar wrth law i roi cyngor ar opsiynau ariannu – ffoniwch ni ar 0300 123 0735, anfonwch e-bost atom yn cymru@cronfagymunedolylg.org.uk, gall pobl sydd â nam ar y clyw neu’r lleferydd gysylltu â ni trwy’r gwasanaeth Cyfnewid Testun 18001 plws 0300 123 0735.
Gwiriwch ein gwefan https://www.tnlcommunityfund.org.uk/funding/programmes/national-lottery-awards-for-all-wales ar 10 Gorffennaf 2017 i weld ein harweiniad a ffurflen gais newydd. Rydym yn gobeithio y byddwch yn ei hoffi’n gymaint ag yr ydym ni!