Beth sy’n newydd am y rhaglen Pawb a’i Le?
Ers lansio yn 2005, mae Pawb a’i Le wedi dosbarthu dros £200 miliwn a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i filoedd o brosiectau cymunedol ledled Cymru.
Gall unrhyw fudiad trydydd sector, grŵp cymunedol, corff cyhoeddus neu fenter gymdeithasol ymgeisio i Pawb a’i Le am grant rhwng £10,000 a £500,000. Rydym eisiau ariannu prosiectau’n para hyd at bum mlynedd sy’n gweld pobl a chymunedau’n gweithio ar y cyd ac yn defnyddio eu cryfderau i gael effaith gadarnhaol ar y pethau sydd fwyaf pwysig iddynt.
Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi bod yn ymchwilio i sut y gallwn wella’r broses yn seiliedig ar adborth gan gwsmeriaid, gan ei wneud yn gyflymach ac yn symlach. Lansiwyd ein deunyddiau ymgeisio newydd a gwell ar 31 Gorffennaf.
Felly beth sydd wedi newid?
Mae dau edefyn i Pawb a’i Le bellach, sy’n gwneud y broses yn gyflymach, yn enwedig gyda grantiau llai:
- Grantiau maint canolig (£10,001 i £100,000). Dyma broses ymgeisio un cam ac mae penderfyniadau’n cael eu gwneud o fewn tri mis.
- Grantiau mawr (£100,001 i £500,000). Dyma broses ymgeisio dau gam. Mae penderfyniadau ar geisiadau cam un yn cael eu gwneud o fewn chwe wythnos. Gwahoddir ceisiadau llwyddiannus yn y cam hwn i gwblhau cais cam dau o fewn pedwar mis. Mae penderfyniadau ar y ceisiadau cam dau’n cael eu gwneud o fewn pedwar mis (6 mis yn flaenorol).
Nid oes angen i ymgeiswyr gyflawni canlyniadau rhaglen bellach. Yn hytrach rydym yn gofyn bod yr holl brosiectau’n cyflawni nod Pawb a’i Le, sef:
- Gan weithio ar y cyd, bydd pobl a chymunedau’n defnyddio eu cryfderau i gael effeithiau cadarnhaol ar y pethau sydd fwyaf pwysig iddynt.
Ein cenhadaeth yn y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw helpu’r cymunedau a phobl mewn angen mwyaf. Rydym yn credu bod y tair thema a ganlyn yn hanfodol i’n helpu cyflawni ein cenhadaeth ac ymdrin ag anghydraddoldeb yng Nghymru ac rydym eisiau i bob cais ymgorffori’r rhain:
- Galluogi pobl i arwain – rydym eisiau i’r bobl a fydd yn elwa o’ch prosiect neu sy’n cael eu heffeithio ganddo, gymryd rhan yn ystyrlon yn natblygiad, dyluniad a chyflwyniad eich gweithgareddau.
- Seiliedig ar gryfderau – rydym eisiau annog mudiadau i fanteisio i’r eithaf ar sgiliau a phrofiadau pobl a chryfderau o fewn cymunedau, ac adeiladu arnynt.
- Cysylltiedig – rydym eisiau gwybod bod gennych ddealltwriaeth dda o’r hyn y mae eraill yn ei wneud yn lleol, bod yr hyn yr ydych yn ei wneud yn cydweddu â hyn ac yn ychwanegu ato a bod gennych berthnasoedd gwaith gyda grwpiau perthnasol eraill
Sut ydw i’n ymgeisio?
Am fwy o wybodaeth ac i weld y ffurflenni cais, ewch i’n gwefan:
- Grantiau maint canolig (£10,001 i £100,000) https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/programmes/people-and-places-medium-grants
- Grantiau mawr (£100,001 i £500,000) https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/programmes/people-and-places-large-grants
Wyddech chi fod rhaglen grantiau bach y Loteri Genedlaethol, Arian i Bawb, wedi newid hefyd? Mae mwy o wybodaeth yma.