Skip to content

Hafal: Canolfan ailsefydlu iechyd meddwl wedi’i harwain gan Westeion

Tachwedd 30, 2017

9.jpgHafal yw un o’r darparwyr elusennol mwyaf i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol a pharhaus yng Nghymru. Mae’n seiliedig ar y gred mai’r bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o salwch meddwl yw’r rhai sy’n gwybod orau sut y dylid cyflwyno gwasanaethau. Yn 2013, derbyniodd Hafal £291,174 gan y Loteri Genedlaethol i ddatblygu Canolfan Ailsefydlu Gellinudd yng Nghwm Tawe dros bedair blynedd. Y Ganolfan yw canolfan cleifion iechyd meddwl mewnol gyntaf y Deyrnas Unedig i gael ei dylunio gan ddefnyddwyr gwasanaeth a’u gofalwyr. Siaradom ag Alison Guyatt, rheolwr y Ganolfan am sut maent wedi rhoi cydweithio â Gwesteion wrth wraidd eu gwaith.

Dwy flynedd wedi iddi ymddeol o yrfa 37 mlynedd fel uwch nyrs yn y GIG, roedd Alison yn dechrau diflasu pan glywodd am y cynllun i greu Canolfan i gefnogi ailsefydlu pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol yng Ngellinudd. Cysylltodd hi â Hafal, gan fod “bach yn fusneslyd”, ond aeth ymlaen i gael ei recriwtio i helpu sefydlu’r Ganolfan. Erbyn hyn, Alison yw’r Cyfarwyddwr.

Roedd Alison yn benderfynol o ddatblygu gwasanaeth mor anghlinigol â phosib, cymuned therapiwtig groesawgar lle gallai pobl gael eu cefnogi i reoli eu proses ailsefydlu eu hunain a dychwelyd at fyw’n annibynnol. I gefnogi hyn, roedd Alison eisiau galluogi pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl a’u gofalwyr ddod â’u profiadau gyda nhw i helpu siapio’r amgylchedd y maent yn tybio y byddai’n cefnogi eu hailsefydlu orau.

Dros dair blynedd, ymgynghorodd Alison â channoedd o ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i ddylunio’r Ganolfan. Yn ogystal â chymryd rhan mewn cyfarfodydd ffurfiol fel Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol, cyfarfu darpar Westeion y Ganolfan â chyflenwyr dodrefn a phenseiri i wneud awgrymiadau am y cynllun a’r cyfleusterau. Roedd gan lawer o’r rhai a gymerodd ran brofiad o gyfleusterau cleifion mewnol eraill a alluogodd iddynt ofyn am nodweddion na fyddent wedi cael eu hystyried fel arall. Yn lle ffenestri, gofynnodd pobl am ddrysau Ffrengig oherwydd, pan ddaw plant i ymweld, y bydd cyfle iddynt chwarae y tu allan o fewn golwg, yn hytrach na’u bod yn cysylltu’r Ganolfan gyda gorfod eistedd yn llonydd a siarad.

23.jpgMae pobl sydd â phrofiad o gyflyrau iechyd meddwl hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth lywodraethu a rhedeg y Ganolfan, gan gynnwys bod ar y Bwrdd a chymryd rhan yn y grŵp ymgynghorol arbenigol a ffurfiwyd ar ddechrau’r datblygiad. Gan adlewyrchu pwysigrwydd integreiddio â’r gymuned, mae defnyddwyr gwasanaeth yn rhan o’r grŵp ymgynghorol arbenigol ochr yn ochr ag uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe, cyn-Bennaeth Cwynion Heddlu De Cymru, Athro Seiciatreg, ficer lleol, cyfrifydd a chyfreithiwr.

Ers agor ym mis Mai 2017, mae’r Ganolfan wedi parhau i roi pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl difrifol wrth wraidd ei gwasanaethau a chynnal ei phwyslais ar greu cymuned yn hytrach nag amgylchedd clinigol.

Mae dull y Ganolfan yn canolbwyntio ar hunan-reoli cyfannol, gyda’r Gwesteion yn pennu eu nodau ailsefydlu eu hunain mewn cynlluniau gofal a thriniaeth. Cynigir ystod enfawr o weithgareddau, o ymarfer corff, cerddoriaeth a chelfyddydau i gerdded, beicio a chyfleoedd i ennill cymwysterau ffurfiol. Mae’r holl Westeion a staff yn cyfrannu at rediad y Ganolfan – o’r Gwestai diweddaraf i’r aelod staff uchaf, mae pawb yn helpu coginio a glanhau.

Yn ôl Alison, nid oes unrhyw un nad ydynt wedi cymryd rhan gyda dull y Ganolfan. “Rhai dyddiad mae pobl eisiau cymryd rhan, dyddiau eraill dydyn nhw ddim. Mae hyn yn iawn – gallan nhw gael sgwrs pryd bynnag.” Mae dull pragmatig a hyblyg yn allweddol, ond mae angen cydbwyso hyn gyda pholisïau sydd wedi’u hystyried yn ofalus.

Mae gweithwyr cefnogi cymheiriaid yn chwarae rôl bwysig ym model y Ganolfan. “Maen nhw’n wych,” esboniodd Alison. “Dw i ddim yn gwybod sut y gweithiais ar wardiau hebddynt o’r blaen.” Mae hi’n esbonio bod gan staff ddealltwriaeth lawer gwell o anghenion Gwesteion gan fod mwy o ffocws ar roi eu hunain mewn esgidiau pobl eraill. Mae’n arbennig o werthfawr pan fydd gweithwyr cefnogi cymheiriaid yn gallu dweud “Rwyf wedi bod yno, fe weithiodd hwn i mi,” gan ei fod yn rhoi gobaith i ailsefydlu.

6.jpg

Awgrym Alison ar gyfer mudiadau eraill sydd am ddatblygu gwasanaethau newydd yw na allwch byth wneud digon o waith ymgynghori. “Roedd yn hynod werthfawr, roedd yn ddarostyngol. Roedd gwrando ar beth oedd pobl ei eisiau a dod ag ef i fodolaeth yn fraint, cyfle unwaith mewn bywyd.” Mae hi’n esbonio bod “bwrdd y Ganolfan yn cynnwys defnyddwyr gwasanaeth, mae defnyddwyr gwasanaeth yn ymwneud â recriwtio – mae’n fwy na dim ond geiriau gwag. Mae’r manteision yn enfawr a dw i wedi dysgu llawer.

I ymchwilio i effaith ei dull unigryw, mae’r Ganolfan yn cydweithio â thri myfyriwr PhD i werthuso ei model – ymchwilio i ganlyniadau Gwesteion, gofalwyr a staff; canlyniadau sy’n benodol i ailsefydlu; a goruchwyliaeth glinigol ar gyfer ymarferwyr. Yn ogystal ag asesu arbedion cost posib eu model ar gyfer y GIG (amcangyfrif o £300,000 y flwyddyn), mae’r Ganolfan yn anelu at ddatblygu canolfannau ailsefydlu tebyg mewn rhannau eraill o Gymru, ac mae’n datblygu hyfforddiant cefnogi cymheiriaid y mae’n bwriadu ei raeadru ar draws Cymru.

Gallwch gael gwybod mwy am Hafal ar eu gwefan www.hafal.org/cy/gellinudd/. Os hoffech wybod mwy am grantiau’r Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau cymunedol, ewch i www.biglotteryfund.org.uk/welsh/funding.

 

Advertisements
No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: