Skip to content

Gronfa Gymunedau’r Arfordir: Flwyddyn y Môr

Rhagfyr 4, 2017

Mae Croeso Cymru wedi enwi 2018 yn Flwyddyn y Môr a rhag ofn bod eisiau unrhyw rheswm ychwanegol ichi ymweld ag ein arfordir anhygoel ni gallwch ddewis o blith ychydig o’r prosiectau gwych isod a mwy sydd wedi cael eu hariannu trwy raglen Cronfa Cymunedau’r Arfordir (CCA).

Halen Môn

Ewch am daith o Tŷ Halen, canolfan ymwelwyr godidog Halen Môn a dderbyniodd £191,817 o’r gronfa, a dysgwch y cyfrinachau am sut maen nhw’n defnyddio moroedd gwyllt Cymru i greu halen gorau’r byd. A phan mae’r tymor yn iawn gallwch hefyd flasu misgl cartref blasus yr ardal a mynd heibio’r siop i fynd â’r blas yn ôl i gegin eich hun. www.halenmon.com

Colwyn Bay Watersports

Os mai antur rydych yn dymuno yn hytrach na rhywbeth i’r dant gallwch fynd i Fae Colwyn a magi hobi bydd gennych am oes. Ers derbyn £100,000 o CCA er mwyn ehangu’r busnes mae’r cwmni cymunedol wedi mynd o nerth i nerth a nawr yn cynnig popeth o hwylio i syrffio gwynt i bobl o bob safon ac oedran. www.colwynbaywatersports.co.uk/

Chapel Bay Fort & Museum

Mae hanes arfordir Cymru yn adleisio ar draws y cenhedloedd a does dim tystiolaeth gwell o hyn na Chapel Bay Fort & Museum yn Angle yn Sir Benfro. Gyda chefnogaeth grant o £270,626 o CCA a thîm ffyddlon o wirfoddolwyr, mae’r amgueddfa’n addysgu’r gymuned gyfan am dros ddwy ganrif o dreftadaeth milwrol yr ardal. www.chapelbayfort.com

Llwybr Arfordirol Cymru

Clogwyni epig. Moroedd ffyrnig ac esmwyth. Traethau hamddenol. Mae cymaint i’w weld ar lan moroedd Cymru a does dim ffordd gwell i’w gweld nhw gyd na dilyn y llwybr arfordirol. Trwy ddefnyddio Ap Arfordir Cymru, a ddatblygwyd trwy grant o £275,000 i’r elusen Cadwch Gymru’n Daclus, gallwch ddod o hyd i’r gorau sydd gyda’r 870milltir o daith i’w gynnig. http://walescoastapp.com/

Bragdy Cwrw Llŷn

Pa ffordd gwell o ddathlu popeth sydd gydag arfordir Cymru na pheint o gwrw lan môr? Mae bragdy cwrw Llŷn wedi’i leoli o fewn cam ceiliog i’r traeth yn Nefyn ac mae’n sicr yn ymfalchïo yn hyn gan enwi sawl peint ar ôl ein hanes morol fel Seithenyn, Y Mimosa, a chwrw Cochyn sy’n cofio môr-ladron a smyglwyr yr hen oesoedd. Gyda theithiau ar gael o’r bragdy gallwch chi hefyd ddysgu’r grefft gwych hon.  http://cwrwllyn.cymru/cy/

Er mwyn cadw ar ben unrhyw ddiweddariadau am Gronfa Gymunedau’r Arfordir ac i ddarllen fwy am brosiectau cynt cofiwch i ymweld â’r wefan www.biglotteryfund.org.uk/cronfacymunedaurarfordir

Advertisements
No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: