Gwrandewch ar ymateb anghredadwy Lynne Thomas o Brifysgol Caerdydd wrth i Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol roi syrpreis iddo gyda’r newyddion am eu grant o £1 miliwn.
Mae Prifysgol Caerdydd yn un o bump o brosiectau sy’n derbyn cyfanswm o £5.4 miliwn gan y Loteri Genedlaethol trwy raglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol 2 i drawsnewid mannau segur i dirnodau lleol a bothau cymunedol.
Maent yn derbyn £1,072,692 i adnewyddu ac estyn y Pafiliwn Grange segur yn Grangetown i greu adeilad cymunedol amlbwrpas gyda chaffi, swyddfa a lle cyfarfod. Byddant hefyd yn gwella’r tiroedd presennol i greu man cymunedol hygyrch, perllan a gardd beillio a fydd yn darparu cyfleoedd ar gyfer addysg, hyfforddiant, hyrwyddo iechyd a datblygu menter.
Dywedodd Lynne Thomas, Rheolwr Prosiect y Porth Cymunedol, un o brosiectau ymgysylltiad blaenllaw Prifysgol Caerdydd: “Rydym yn hynod falch i dderbyn y grant hwn, a ddaw yn sgil llawer o waith caled gan bawb sy’n rhan o’r prosiect. Bydd yr ariannu’n cael ei defnyddio i ddatblygu Pafiliwn Grange yn lleoliad deinamig o ansawdd uchel, gan sicrhau ei ddyfodol er budd tymor hir pobl Grangetown.
“Nod y prosiect yw helpu gwneud Grangetown yn lle hyd yn oed yn well trwy ddatblygu cyfleoedd ymchwil, dysgu a gwirfoddoli o safon fyd-eang sy’n cael eu creu ar y cyd rhwng y gymuned a’r Brifysgol er budd pawb.
“Mae Pafiliwn Grange yn bartneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a grwpiau trigolion Grange Pavilion Project (GPP), Grangetown Community Action (GCA), Grange Pavilion CIO a Chyngor Caerdydd a chaiff ei gefnogi gan Sefydliad Garfield Weston, Clwb Rotari Bae Caerdydd, Coleg Caerdydd a’r Fro, Partneriaethau Cymdogaeth Cyngor Caerdydd, IKEA, ASDA, Siop goffi The Hideout a phartneriaid allweddol eraill.”
Yn Sir Gâr, mae Menter Bro Dinefwr yn derbyn £1,100,000 i drosglwyddo Neuadd Sirol Llandeilo i greu cyfleuster cymunedol integredig newydd, ac yn Rhondda Cynon Taf dyfarnwyd £1,100,000 i Age Concern Morgannwg Limited i drosglwyddo Canolfan Gymunedol y Santes Fair “Cynon Lincs”, adeilad unllawr a godwyd ym 1969.
Mae Brymbo Heritage Trust yn derbyn £1,095,915 i adnewyddu ac ailddatblygu adeilad y Siop Beiriannau a adeiladwyd yn y 1920au ar safle Gwaith Dur Brymbo, yn Y Drenewydd, Powys, bydd Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Going Green for Living Limited yn derbyn £1,098,819 i drosglwyddo 130 erw o le agored i greu safle amlbwrpas gyda’r nod o sefydlu’r Drenewydd fel cyrchfan ymwelwyr Stopio ac Aros.