Neidio i'r cynnwys

Welcome to our Woods

Mehefin 27, 2018

Daliom i fyny gyda’r prosiect hwn ar ddydd Sul heulog hyfryd ym mis Mehefin. Dyfarnwyd £1,282,000 i’r prosiect gan y rhaglen Creu Eich Lle. Mae Welcome to our Woods yn cydweithio ag ystod helaeth o fudiadau trydydd sector gan gynnwys Interlink, Valleys Kids, Cadwch Gymru’n Daclus, Spectacle Theatre, Capel Blaencwm ac Active Nutrition.

Mae Welcome to our Woods wedi adeiladu ar brosiectau blaenorol yn yr ardal i annog pobl leol ac yn enwedig plant i barchu a mwynhau’r coetiroedd sydd o gwmpas cynifer o bentrefi’r Cymoedd. Mae’r tîm yn ymchwilio hefyd i sut y gallant ddefnyddio’r coetiroedd yn gynaliadwy i wella cyflogaeth leol.

Yn cwrdd â ni oedd Julie, y bêl fach o egni a ddechreuodd y prosiect gwreiddiol yn Nhreherbert 22 mlynedd yn ôl pan oedd yr ystâd, sydd ar ffiniau’r goedwig, i bob pwrpas yn lle na allai’r gwasanaethau cymdeithasol fynd iddi ac roedd y tanau ar y pryd o geir wedi’u llosgi’n fwriadol a thanau heb eu rheoli ar y mynydd. Y dyddiau hyn mae’r Ganolfan Gymunedol boblogaidd yn wynebu’r llwybr sy’n troelli’n hudolus i fyn i’r goedwig, daw sain cerddoriaeth a chwerthin didaro i lawr o’r bryn.

“Dechreuom mewn tŷ cyngor yn y fan yma, dywed Julie wrthyf, “enillom ffydd y gymuned trwy weithio ar yr ystâd, roeddent yn teimlo’n gyfforddus wrth ddod i siarad â ni ac fe adeiladom ar hynny.”

Adnewyddwyd y tŷ gwreiddiol a’r tri thŷ cysylltiedig fel rhan o’r gwaith o adfywio’r ystâd. Mae Julie wedi trosglwyddo rhediad y Ganolfan i Caroline, Jonathan a Ceri.

“Dilynwch y llwybr i mewn i’r goedwig, fe ddewch o hyd i Ceri!”

Rydym yn wir yn dod o hyd i Ceri, yng nghanol grŵp o bobl o bob oedran yn ymarfer naddu coed, “Cadwch eich llygad ar y llafn” dywed Ceri wrth un person ifainc cyn cael gafael ar raff i godi hamog ar gyfer rhai pobl eraill. Wrth ei fodd, mae Ceri’n parhau â’r stori:

“Pan ddechreuom, heriom bopeth a oedd yn cael ei ddysgu i’r plant hyn am y goedwig. Roedd yn arferol i’r frigâd dân gael ei galw yma teirgwaith yr wythnos. Penderfynom mai’r ffordd orau o ddelio ag ef oedd dysgu’r plant sut i gynnau tân mewn lleoliad diogel a chyfrifol. Dywedodd pawb ein bod ni’n wallgof! Dywedodd pennaeth y frigâd dân wrthyf y diwrnod arall nad yw wedi cael ei alw allan yma ers blynyddoedd. Dywedodd y plant fod yr addysg gwrth-losgi bwriadol yn yr ysgol wedi gwneud i losgi bwriadol swnio’n gyffrous, dywedant nad oeddent wedi meddwl amdano hyd nes i’r ‘awdurdodau’ awgrymu fe iddynt! Rydym yn eu dysgu sut i’w wneud yn ddiogel ac wedyn rydym yn helpu nhw i ddysgu ei gilydd.”

Yn ogystal â’r goedwig yr oeddem ynddi, mae’r prosiect yn cynnwys coetiroedd ar gyfer prysgoedio, rhandiroedd i dyfu bwyd cymunedol, prosiect trydan dŵr a gardd gymunedol. Roedd gan Ceri gymorth i glirio’r ddaear:

“Daeth dyn ifainc yr oeddem yn ei nabod trwy’r Ganolfan â chriw o’i gyfeillio ynghyd a’u gorfodi i ddod i helpu, ni fyddai’n gadael iddynt fynd hyd nes bod popeth wedi’i glirio.  “Rhaid rhoi rhywbeth yn ôl bechgyn ar ôl beth maen nhw wedi’i wneud drosom ni.”

Mae’r prosiect yn falch o’i rhinweddau dwyieithog, mae siarad Cymraeg yn cael ei annog a’i feithrin, ac mae’r oedolion sy’n dysgu’n mwynhau siarad â’r plant, mae Sgymraeg yn dderbyniol os byddwch yn anghofio’r geiriau. Ym mis Mehefin eleni mae’r prosiect wedi gweld dros 100 o blant yn ymweld â’r goedwig a’r cynllun Trydan Dŵr Cymunedol gan ysgolion cyfrwng Cymraeg, fel rhan o raglen ysgolion Cymru.

Cyfarfom â gwirfoddolwr hir dymor, a ddisgrifiodd sut roedd gweithio yn y goedwig wedi rhoi ei fywyd yn ôl iddo ar ôl blynyddoedd o ymladd yn erbyn cyffuriau ac iselder. “Rwy’n teimlo’n gyfforddus yma” meddai wrth wenu, gan estyn ei fraich i gwmpasu’r coed sy’n ymestyn i’r pellter. Siaradodd ef hefyd am y newidiadau anhygoel a ddaeth dros y plant a’r bobl ifainc wrth iddynt ddechrau ymwneud â’r goedwig.

Mae’r prosiect yn dibynnu ar gryfderau, brwdfrydedd ac egni’r gwirfoddolwyr ond mae ei ddyfodol yn dibynnu ar sicrhau’r cyllid er mwyn iddo barhau i adeiladu ar y newidiadau anhygoel y mae wedi’u peri yn y Cymoedd. Esboniodd Ian eu bod eisiau dod o hyd i ddulliau creu cyflogaeth a darparu sicrwydd – mae’n gweld hyn fel y ffordd ymlaen, ond nid ydynt wedi cyrraedd y nod eto.

“Mae’r daith yn parhau.” Ychwanegodd Ceri.

I gael gwybod mwy am y prosiect gallwch ddilyn nhw ar Facebook neu Twitter. Os hoffech wybod mwy am grantiau’r Loteri Genedlaethol ar gyfer prosiectau cymunedol yng Nghymru, ewch i wefan y Gronfa Loteri Fawr.

 

Advertisements
No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: