Oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio i Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am brosiect sy’n cynnwys pobl ifainc? Rydych yn llawer mwy tebygol o dderbyn grant os gallwch ddangos bod pobl ifainc wedi’u cynnwys wrth ddylunio a datblygu’ch prosiect.
Gall fod yn eithaf hawdd i gerdded i mewn i’r magl o gael syniad am brosiect rydych eisiau ei gyflwyno, dylunio’r gweithgareddau eich hun ac wedyn cysylltu ag ysgol neu glwb ieuenctid i ymgynghori â’ch pobl i weld ai dyna rhywbeth y maent ei eisiau. Rydym yn credu bod gan brosiectau a gweithgareddau gyfle cryfach o lwyddo os caiff prosiect ei ddylunio a’i ddatblygu gyda’r bobl a fydd yn elwa ohono.
Dyna pam rydym eisiau ariannu prosiectau sy’n galluogi pobl i arwain trwy gynnwys y gymuned trwy gydol dyluniad y prosiect. Un o’r dulliau gorau o gynnwys pobl ifainc yn eich prosiect yw trwy gyd-gynhyrchu neu gyd-ddylunio. Os ydych yn crafu’ch pen yn ceisio meddwl yn union beth yw’r rhain, dyma ddiffiniad gan Gyd-gynhyrchu Cymru:
‘Mae cyd-gynhyrchu’n galluogi dinasyddion a gweithwyr proffesiynol i rannu pŵer a gweithio ar y cyd mewn partneriaeth gyfartal, i greu cyfleoedd i bobl gael mynediad at gefnogaeth pan fydd ei hangen arnynt a chyfrannu at newid cymdeithasol’.
I bob pwrpas mae hyn yn golygu bod y bobl rydych yn cydweithio â nhw, pobl ifainc yn yr achos hyn, wrth wraidd y broses gynllunio i adnabod, cynllunio a chyflwyno prosiectau a gweithgareddau sydd o bwys iddynt. Er nad yw hyn o reidrwydd yn ddull newydd, mae’n mynd y tu hwnt i’r hyn y cyfeirir ato’n draddodiadol fel ymgynghori ac yn ymwneud yn fwy â grymuso cymunedau ac unigolion.
Felly, gyda hyn mewn cof, dyma chwe awgrymiad ar sut i gyd-ddylunio eich syniad prosiect gyda phobl ifainc:
- Gweld a thrin pobl ifainc fel partneriaid hanfodol wrth gynllunio a threfnu eich prosiect, a chynnwys nhw mewn unrhyw benderfyniadau mawr
- Pryd bynnag y bo’n bosib, annog pobl ifainc i arwain, gwella’u sgiliau a chynyddu eu hyder
- Sicrhau bod pobl ifainc yn rhan allweddol o’r nerth ysgogol sy’n siapio, datblygu ac yn cyflwyno’ch prosiect
- Cynnwys yr holl bobl ifainc, gan gynnwys pobl ifainc o grwpiau gwarchodedig, a gweithio i herio gwahaniaethu
- Cymryd i ystyriaeth pa faterion sy’n bwysig i bobl ifainc a meddwl am yr hyn y gallwch ei gynnig i ymdrin â nhw
- Sicrhau y bydd pobl ifainc yn parhau i ymwneud â’ch mudiad, gan greu etifeddiaeth a fydd yn parhau y tu hwnt i fywyd y grant.
Gobeithiwn y byd y canllawiau hyn yn eich helpu i gynnwys pobl ifainc wrth ddylunio a datblygu’ch prosiect, a’ch helpu i gryfhau eich prosiect a chynyddu eich cyfle o fod yn llwyddiannus wrth ymgeisio am grant gan y Loteri Genedlaethol.
I gael mwy o wybodaeth ewch i’n gwefan https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh, ffoniwch ni ar 0300 123 0735, e-bostiwch cymru@cronfagymunedolylg.org.uk, trydar ni @CronGymYLG neu siaradwch â ni ar Facebook facebook.com/tnlcommunityfundwales