Os ydych yn derbyn ariannu gan y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i redeg prosiect yng Nghymru, bydd angen i chi ddarparu gwasanaethau penodol yn ddwyieithog, er mwyn cydymffurfio â deddfwriaeth yn ymwneud â’r iaith Gymraeg. Mae cynnig gwasanaethau’ch prosiect yn Gymraeg a Saesneg yn gyfle gwych i sicrhau bod eich prosiect yn hygyrch i bawb yn eich cymuned.
Dyma deg awgrymiad gwych gan Dîm y Gymraeg y Gronfa, ar reoli’ch prosiect yn ddwyieithog.
- Os dydych chi ddim yn siŵr faint o siaradwyr Cymraeg sydd yn eich ardal leol, beth am gysylltu â’ch Menter Iaith leol a fydd yn gallu darparu gwybodaeth ac ystadegau ar y proffil iaith o fewn ei sir.
- Ar gyfer unrhyw hysbyseb am swydd newydd neu staff sesiynol sy’n cael ei hysbysebu yng Nghymru, mae angen i’r hysbyseb fod yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Porwch y rhestr o gyfieithwyr achrededig ar wefan Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru pan mae gennych ddogfen i’w chyfieithu. Gallwch chwilio yn ôl ardal a/neu faes gwaith.
- Argymhellwn bod grwpiau ddim yn talu mwy na £80 y 1,000 o eiriau am waith cyfieithu ysgrifenedig.
- Arfer gorau ar gyfryngau cymdeithasol yw cael un tudalen ddwyieithog ar Facebook a dau gyfrif ar Twitter, un yn Gymraeg ac un yn Saesneg.
- Mewn digwyddiadau, ystyriwch roi swigen oren Cymraeg ar fathodynnau enwau siaradwyr Cymraeg i’w galluogi i adnabod ei gilydd yn hawdd.
- Sicrhewch fod unrhyw eitemau hyrwyddo fel baneri naid, arwyddion a llieiniau bwrdd wedi’u brandio yn ddwyieithog
- Wrth gynllunio pob dogfen, ystyriwch y ddwy iaith o’r cychwyn oherwydd bydd hyn yn gwneud pethau’n haws ac o bosib yn rhatach yn y pen draw
- Mae Tîm Hybu a Hwyluso Comisiynydd y Gymraeg, Hybu, yn gallu cynnig cefnogaeth a chyfarwyddyd i sefydliadau anstatudol yn y trydydd sector a’r sector preifat i ddatblygu’u gwasanaethau Cymraeg.
- Peidiwch ag anghofio y gallwch gynnwys costau cyfieithu yn eich cais am grant
Os hoffech ragor o gyngor ar reoli’ch prosiect yn ddwyieithog, cysylltwch â ni ar 0300 123 0735 am sgwrs neu cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk