Llongyfarchiadau, roedd eich cais yn llwyddiannus!
Un dydd Gwener aethom allan i roi syrpreis i dri phrosiect ar draws Cymru. Pan fydd y pwyllgor ariannu’n cwrdd yma yn y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol mae’n cymryd diwrnod neu ddau i brosesu’r canlyniadau. Penderfynom ddefnyddio’r amser hwnnw’n ddoeth a hel esgusodion dros gwrdd â thri phrosiect sy’n aros am ganlyniadau eu ceisiadau am grantiau mawr. Gwnaethom ffilmio eu hymatebion anhygoel. Dywedom wrth ddau ohonynt i ni ddod i wneud cyfweliad ar gyfer ffilm fer, gyda’r un arall gwnaethom droi i fyny’n dawel fach.
Ymgeisiodd Milford Youth Matters yn Sir Benfro am £436,621 i wella ac ehangu’r gwasanaethau presennol ar gyfer pobl ifainc 16 i 25 oed nad ydynt mewn cyflogaeth nac addysg. Bydd yr elfennau newydd yn darparu lleoliadau gwaith a mentora. Wedi iddo ymadfer o’r sioc, dywedodd Dayle Gibby, Cydlynydd y Prosiect wrthym:
“Bydd hyn oll yn golygu cymaint i’r bobl ifainc rydym yn cydweithio â nhw, ni allant aros am gychwyn ar yr holl gynlluniau rydym wedi’u gwneud.”
Ymgeisiodd y Bartneriaeth Awyr Agored am £500,000 i ddatblygu prosiect sydd eisoes yn bodoli sy’n cyflwyno gweithgareddau antur cynhwysol a llwybrau i gyflogaeth yng ngogledd-orllewin Cymru. Mae’r prosiect yn defnyddio gweithgareddau awyr agored i ennyn diddordeb menywod a merched, pobl sydd ag anableddau lluosog a phobl ddi-waith sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Bydd y prosiect newydd yn ehangu’r gwasanaeth i Gymru gyfan.
Meddai Tracey Evans, Prif Swyddog Gweithredol y Bartneriaeth Awyr Agored:
“Dyma newyddion gwych! Bydd y grant gan y Loteri Genedlaethol yn galluogi ni i ehangu ein rhaglenni antur, gwirfoddoli a llwybrau i gyflogaeth cynhwysol i gymunedau eraill yng Nghymru. Dros y pum mlynedd nesaf, bydd y prosiect yn grymuso pobl a chymunedau i wella mynediad i weithgareddau awyr agored mewn ffordd gynaliadwy, gan wella iechyd a lles cymdeithasol ac economaidd cymunedau ledled Cymru. Ar ran yr elusen a’n holl fuddiolwyr, diolch yn fawr iawn i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.”
Ymgeisiodd Clwb Ieuenctid Twyn Action Group am £229,916, maent wedi gweithio gyda’u cymuned i benderfynu beth sydd fwyaf pwysig iddynt. Bydd y trigolion yn ffurfio panel cymunedol i ymchwilio a dylunio rhaglen o wasanaethau a gweithgareddau newydd. Bydd y rhaglen yn adeiladu ar waith presennol y prosiect gyda phobl ifainc a theuluoedd ym Merthyr Tudful ac yn estyn oriau agor y Ganolfan. Roedd Callum Palmer, rheolwr y prosiect, yr un mor hapus
“Mae hyn yn wych, roedd angen rhywun arnom i’n cefnogi, bydd yn golygu llawer iawn i’r gymuned sydd wedi cymryd rhan o ddifrif yn y prosiect.”