Yr wythnos hon wrth baratoi ar gyfer y Nadolig rydym yn dathlu rhai o’r prosiectau anhygoel yr ydym wedi’u hariannu eleni sy’n gwneud gwahaniaeth gwych i gymunedau.
Yn gynharach eleni rhoddwyd syrpreis i Adnodd Pen-y-bont ar Ogwr a’r Cylch ar gyfer Plant ag Anableddau (Y Bont) gyda’r newyddion yr oeddent yn llwyddiannus yn eu cais am grant o £530,000 gan y Loteri Genedlaethol. Gallwch ddarllen mwy amdano yma.
Dros bum mlynedd bydd yn cefnogi plant anabl a’u teuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr i ostwng yr heriau y maent yn eu hwynebu, yn benodol unigedd a diffyg cyfleoedd cymdeithasol, gan annog nhw i ddatblygu cyd-gefnogaeth gan gymheiriaid, adeiladu perthnasoedd a mwynhau ffordd o fyw actif trwy weithgareddau sy’n cynnwys y teulu cyfan.
Aeth Alex Davies o’n Tîm Canolbarth a Gorllewin yn ôl i ymweld â nhw i weld y gwahaniaeth y mae’r prosiect yn ei wneud, a beth yw eu cynlluniau ar gyfer y Nadolig eleni.
“Medru rhoi syrpreis i Y Bont gyda’r newyddion y bu eu cais yn llwyddiannus oedd un o uchafbwyntiau fy mlwyddyn, a gallwn weld pa mor bwysig yr oedd i rieni a theuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr gael y gwasanaethau hynny sy’n dod â phobl ynghyd. Roedd mynd yn ôl i ymweld â nhw wedi cadarnhau hynny i gyd, a chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy’n gwneud hynny oll yn bosib.”
Dywedodd Paisley Thompson-Bailey, Swyddog Codi Arian a Marchnata wrthym, “Rydym mor ddiolchgar i dderbyn yr arian hwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i’n helpu gyda’n prosiect Parth Hwyl i Deuluoedd. Mae’n gyfle gwych i ni ailgysylltu â’n cymuned, estyn allan i rieni blaenorol ac i rieni newydd hefyd.
“Rydym yn gyffrous iawn y Nadolig hwn, mae gennym rai gweithgareddau gwych fel ein raffl mawr y Nadolig sy’n dod â’n holl rieni o’r 21 mlynedd ddiwethaf ynghyd, maent yn dwlu ar ei gefnogi a hefyd ein parti Nadolig i’r plant. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am gefnogi’r Loteri Genedlaethol.”