Mae adeiladu munud cyfunol yn allweddol i Gronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol

Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol credwn pan fod pobl ifanc ar y blaen bydd cymunedau yn ffynnu. Efallai i chi weld i ni gyhoeddi Cronfa Gweithredu Hinsawdd gwerth £100miliwn yn ddiweddar i gefnogi cymunedau sy’n ffynnu ledled Prydain i daclo’r argyfwng hinsawdd mewn ffordd gyfunol, sy’n gwneud gwahaniaeth ac a fydd o fudd i bawb.
Os hoffech wybod mwy am sut y gallech gael effaith bositif ar yr amgylchedd gyda’ch arian gan y Loteri Genedlaethol, ewch i’n gwefan yma.
Pam fod gweithredu hinsawdd mor bwysig inni? Credwn fod annerch yr argyfwng hinsawdd yn bwysig i bawb.
Wrth inni ddathlu 25 mlwyddiant y Loteri Genedlaethol ym mis Tachwedd rydym yn falch o’n rôl yn ariannu gweithgareddau amgylcheddol ledled Prydain. Ers 2013 yn unig rydym wedi buddsoddi cyfanswm o oddeutu £345miliwn (drwy 4,800 o grantiau) mewn grantiau sydd ag elfen amgylcheddol ledled Prydain yn cynnwys:
‘Croeso i’n Coedwig’, partneriaeth gymunedol yn Rhondda Cynon Taf sy’n chwilio am ffyrdd Newydd o gysylltu pobl gyda’u hamgylchedd naturiol er budd iechyd a lles unigolion.
‘Down to Earth’ ym Mhenrhyn Gŵyr sy’n gweithio i adeiladau sgiliau a hyder ar gyfer amrywiaeth o bobl drwy adeiladau cynaliadwy a gweithgareddau datblygu personol ehangach.
‘Cyd Ynni’ a gaiff ei redeg gan Ddatblygiadau Egni Gwledig (DEG) sy’n fenter gymdeithasol sy’n cefnogi gweithredu a gaiff ei arwain gan y gymuned a phrosiectau ynni adnewyddadwy yng Ngwynedd.
Credwn ym mhŵer pobl i alluogi ein cymunedau i ffynnu ac i chwarae ein rhan wrth gefnogi cymunedau i gymryd camau i annerch newid yn yr hinsawdd, mae’r Gronfa yn gweithredu strategaeth deiran.
- Gan weithredu i isafu ein heffaith ein hunain drwy leihau defnydd o ynni yn ein hadeiladau, rheoli teithio a rhoi gofynion clir ar ein darparwyr gwasanaeth.
- Cefnogi deiliaid grant i adnabod a chymryd camau i reoli eu heffaith ar yr amgylchedd. Yng Nghymru rydym yn gweithio gyda’n partneriaid Adfywio Cymru ag Asiantaeth Ynni Hafren Gwy i roi cyngor arbenigol a chymorth ariannol i 30 o’n deiliaid grant i’w helpu i adnabod a gweithredu’r pethau ymarferol y gallont eu cyflawni. Cynllun pilot yw hwn a fyddwn yn ei ddefnyddio i hysbysu ein hymarfer i’r dyfodol gan edrych i gael y cydbwysedd cywir rhwng ysbrydoli cymunedau i gymryd camau a chymryd mesurau penodol i reoli eu heffaith ar yr amgylchedd. Gwyliwch ein fideo i ddysgu mwy am y dydd a sut rydym ni’n edrych i gefnogi prosiectau:
3. Yn olaf, y £100m o arian ar gyfer Cronfa Gweithredu Hinsawdd Brydeinig a fydd yn galluogi pobl a chymunedau i arwain ar daclo’r argyfwng amgylcheddol. Bydd y gronfa yn cefnogi cymunedau Prydain i weithredu yn lleol ar newid hinsawdd. Bydd y cymunedau hyn yn gweithio fel rhan o bartneriaethau ehangach a byddant yn ddarlun o obaith o’r hyn sy’n bosibl pan fod pobl yn arwain y blaen ar newid hinsawdd. Gyda’n cefnogaeth ni, byddant yn rhannu dysg ag yn gweithio ag eraill i adeiladau symudiad ehangach o newid ledled Prydain o fewn a thu hwnt i’w cymuned, i:
- Leihau eu hôl troed carbon yn gynaliadwy
- Cynyddu cyfranogaeth mewn gweithredu hinsawdd wedi ei arwain gan y gymuned.
Bydd y Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn agor yr Hydref yma yn www.tnlcommunityfund.org.uk/funding/programmes/climate-action-fund
Fel arianwyr mwyaf gweithgareddau cymunedol, edrychwn ymlaen at adeiladu symudiad cyfunol mwy i sicrhau ein bod yn diogelu’r amgylchedd fel y gall cenedlaethau’r dyfodol ei fwynhau.