Mynd i'r cynnwys

Pobl yn Arwain – ariannu’r syniadau sy’n cael eu datblygu gyda’r gymuned

Chwefror 28, 2020

Mae Ruth Bates, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu (Cymru) yn esbonio beth mae hyn yn ei olygu i grwpiau cymunedol sydd eisiau ymgeisio i Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol, sy’n ariannu dyfarniadau o £300 hyd at £10,000.

Mae rhoi pobl i arwain yn golygu bydd angen i’r bobl rydych yn gweithio â nhw fod wedi’u cynnwys yn ystyrlon yn natblygiad, dyluniad a darpariaeth eich prosiect. Bydd angen i chi ddangos hyn o fewn eich cais.

Yn syml, mae pobl yn arwain yn golygu siarad â phwy bynnag rydych yn ceisio gweithio â nhw. Rydym yn hyblyg o ran sut rydych yn gwneud hynny. Rydym hefyd yn realistig am sut mae’n edrych, gan ddibynnu ar faint eich mudiad. Ond rydym angen gweld bod y gymuned yn cymryd rhan yn natblygiad a darpariaeth y prosiect. Rydym eisiau ariannu prosiectau wedi’u datblygu â phobl, nid wedi’u gwneud iddyn nhw.

Mae nifer o ffyrdd i gael eich cymuned i fod yn rhan yn eich prosiect – nid yw un maint yn ffitio pawb. A pha ffordd well o ddarganfod mwy am sut mae grwpiau yn ymgorffori Pobl yn Arwain na gan y grwpiau eu hunain. Dyma rhai enghreifftiau rydym wedi’u casglu:

Grŵp Gweithredu Cymunedol Edeirnion yn defnyddio’r grant i gynnal gŵyl gymunedol i ddathlu Celfyddyd, Llenyddiaeth, Ffotograffiaeth tirlun, Cerddoriaeth, Dawns a hanes Cymru. O fewn eu cais, fe amlygon nhw’r ffyrdd roeddent yn cynnwys y gymuned yn syniad a darpariaeth yr ŵyl. Daeth y syniad o bost Facebook gan breswylydd oedd eisiau mwy i gael ei wneud i wella’r ardal, a arweiniodd at 600 ymateb. Cafodd cyfarfod cyhoeddus ei drefnu i drafod y syniadau, gyda dros 50 aelod o’r cyhoedd a phedwar mudiad yn mynychu. Dros gyfnod o dair mis, cafodd ymatebion eu trafod ymhellach a chafodd yr ŵyl ei adnabod fel y gweithgaredd ymarferol oedd gyda’r cyrhaeddiad ehangaf a fwyaf gafaelgar i ddod â phobl ynghyd ac i greu enw cadarnhaol, hir dymor yn y gymuned. Fe ffurfiodd grŵp gŵyl  leol i ddylunio, datblygu a darparu’r ŵyl.

Fe dderbyniodd Cyngor Cymunedol Ystalyfera grant i greu ardaloedd awyr agored i ymarfer corff, gyda’r nod o gefnogi integreiddiad pellach rhwng preswylwyr Ystalyfera a’r pentref drws nesaf, Godre’r Graig. Cynhaliodd y cyngor ymgynghoriad cymunedol a oedd yn cynnwys holiaduron ar-lein a phapur yn cael eu dosbarthu mewn amryw o leoliadau cymunedol i wahodd preswylwyr i adnabod gweithgareddau roedden nhw’n ei feddwl byddai’n dod â’r gymuned ynghyd orau. Campfa awyr agored oedd yr awgrym fwyaf poblogaidd, a bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i brynu’r offer. Mae adborth parhaus gan breswylwyr hefyd yn cynnwys ceisio barn y rhai sy’n defnyddio’r gampfa awyr agored i weld os oes unrhyw welliannau, ychwanegiadau neu newidiadau eraill gall gael eu gwneud.

Fe dderbyniodd Canolfan Clydau Yn Sir Benfro grant i ddatblygu a rhedeg sesiynau gweithgaredd a chymdeithasol gyda’r bobl hŷn yn eu cymuned. Ynghyd â’r cyngor lleol a Phwyllgor Lles Tegryn, mae’r grŵp (sydd wedi’i sefydlu o wirfoddolwyr sy’n rhedeg y neuadd gymunedol) yn aml yn cynnal ymgynghoriadau i ddarganfod anghenion eu cymuned. Fe siaradon nhw â 110 o bobl fel rhan o’r ymgynghoriad hwn a nododd yr hoffent gyfarfod yn amlach ac i redeg rhaglen o weithgareddau lles. Mae’r gweithgareddau wedi’u dylunio gan wirfoddolwyr, sydd hefyd wedi’u hyfforddi i ddarparu’r sesiwn.

Canolfan Addysg a Diwylliant Al-Ikhlas yng Nghaerdydd yn mynd ati i greu banc bwyd i helpu mynd i’r afael â lefelau uchel o dlodi bwyd yn y gymuned leol. Fe ddefnyddion nhw adborth gan beilot i siapio’r prosiect, a byddent yn defnyddio’r grant i hyfforddi gwirfoddolwyr i’w ddarparu. Fe wnaethant ymgynghori’n eang o fewn y gymuned, gan gynnwys â grwpiau o bobl ifanc, Arabs, Pacistaniaid a phobl Ddwyrain Ewrop, ceiswyr lloches, ffoaduriaid sy’n cael eu cartrefu gerllaw mewn llety swyddfa gartref.

Fe dderbyniodd Cerrigydrudion yng Nghonwy grant i sefydlu cynllun rhannu lifft cymunedol, a arweinir gan wirfoddolwyr, i alluogi unigolion i gael mynediad i wasanaethau. Mae’n rhaid i breswylwyr wneud trip 36 milltir i’r archfarchnad, deintydd a chyfleusterau eraill agosaf, felly fe greodd grŵp o wirfoddolwyr y prosiect i helpu taclo unigedd ac i leihau allyriadau carbon. Mae’r gwirfoddolwyr yn darparu’r cynllun ar bob lefel, gan gynnwys cymryd apwyntiadau, gyrru, trefnu tripiau grŵp ychwanegol ac maent yn adrodd eu bod yn teimlo’n hapusach ac yn llai unig o ganlyniad o’r cynllun.

Fe dderbyniodd Vale People First yn Barri grant i greu cyfres o ffilmiau byrion a chanllawiau cynghori i helpu gwella dealltwriaeth anableddau dysgu. Daeth y syniad cychwynnol o ymgynghoriad ag aelodau, lle nodwyd eu bod angen helpu pobl yn y gymdeithas ehangach i ddeall anableddau dysgu – ADHD, dyspracsia, dyslecsia, awtistiaeth ac epilepsi yn benodol. Bydd aelod o staff yn cynnal y prosiect ynghyd â grŵp o 8 gwirfoddolwr. Mae’r cyfweleion a gwirfoddolwyr yn bobl â phrofiad o  lygad y ffynnon, ac mae buddiolwyr yn cael eu cynnwys ym mhob agwedd o lywodraethu’r mudiad.

Mae’n amlwg o’r enghreifftiau hyn gall sut rydych yn ymgysylltu â’ch cymuned edrych yn wahanol iawn o le i le, a gall y dull amrywio gan ddibynnu ar y bobl rydych eisiau eu cyrraedd. Ond dyma rhai awgrymiadau defnyddiol:

Adnabod eich cynulleidfa: Roedd un o’r grwpiau a ariannom eisiau gwneud gwelliannau i’w tref. Fe sefydlon nhw stondin yng nghanol y dref a gofyn i bobl rannu eu syniadau trwy holiadur. Roedd grŵp oedd yn gweithio gyda phobl ifanc ag anableddau dysgu yn gwybod na fyddai defnyddio arolygon yn gweithio iddyn nhw. Cawsant sgyrsiau anffurfiol yn lle, a dal y prif bwyntiau. Roeddent hefyd wedi cynnwys rhieni a gofalwyr y bobl ifanc yn y sgwrs.

Dal eu syniadau: Mae rhai grwpiau yn anfon allan holiaduron, rhai yn cynnal grwpiau ffocws a chyfarfodydd. Y peth pwysig yw i gael pawb yn cymryd rhan mewn ffordd sy’n golygu eu bod wedi rhannu eu syniadau a’ch bod chi wedi dal eu syniadau a barnau, boed hynny ar bapur, ffilm neu gyfryngau cymdeithasol.

Parhau i’w cynnwys: Mae’n bwysig parhau i gynnwys y bobl rydych wedi gweithio â nhw wrth ddatblygu’r syniad yn y ddarpariaeth hefyd. Gall hynny fod drwy wirfoddoli, defnyddio eu sgiliau neu ar y pwyllgor rheoli.

Rydym yma i helpu: Cofiwch ein bod wastad yn barod i sgwrsio am eich cais a rhoi cyngor a chefnogaeth i chi – boed hynny yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Dewch o hyd i bwy sy’n gweithio ar eich ardal leol.

Mwy o ysbrydoliaeth?: Os hoffech gael eich ysbrydoli gan un o’n grantïon mawr sy’n gweithredu pobl yn arwain, yna gwrandewch ar ein podlediad newydd, Trydydd Sector Mewn Golwg, sy’n eich galluogi i glywed yn uniongyrchol gan grwpiau a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, megis Milford Youth Matters yn Sir Benfro; Grange Pavilion yng Nghaerdydd a Severn Wye ym Mhowys.

No comments yet

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: