Meddwl am ymgeisio i Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am grant?
Mae gwybodaeth ac arweiniad ar gael ar ein gwefan ar gyfer pob un o’n rhaglenni ariannu. Mae dolen i bob un isod.
- Mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn cynnig grantiau rhwng £300 a £10,000 i gefnogi’r hyn sy’n bwysig i bobl a chymunedau. tnlcommunityfund.org.uk/arianibawb
- Mae Pawb a’i Le: Grantiau maint canolig yn cynnig dyfarniadau rhwng £10,001 a £100,000 ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n para hyd at bum mlynedd. tnlcommunityfund.org.uk/pawbailecanolig
- Mae Pawb a’i Le: Grantiau mawr yn cynnig dyfarniadau rhwng £100,001 a £500,000 ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n para hyd at bum mlynedd. tnlcommunityfund.org.uk/pawbailemawr
Eisiau siarad â rhywun am eich syniad prosiect neu ofyn cwestiwn?
Mae ein Tîm Cymorth yn falch o helpu, byddant ar gael dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9:00am a 5:00pm trwy ffonio 029 2168 0214 neu yrru e-bost i cymru@cronfagymunedolylg.org.uk.
Os byddai’n well gennych siarad ar-lein, byddwn yn gwneud ein gorau glas i drefnu hwn. Er hynny, oherwydd y nifer uchaf o geisiadau a dderbyniwn, ni allwn gwrdd â phob prosiect. Isod mae rhestr o leoedd y byddwn yn ymweld â nhw dros yr wythnosau nesaf.
.
Awst
Ble: Ar-lein gyda Cyngor Trydydd Sector Caerdydd
Pryd: 4 Awst 2020, 11:00 – 12:00
Mwy o wybodaeth: www.eventbrite.co.uk/e/talk-to-us-lottery-funding-surgery-tickets-114405114778
.
Ble: Ar-lein gyda Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg
Pryd: 5 Awst 2020, 10:00 – 17:00
Mwy o wybodaeth: E-bostiwch kristine.hill@tnlcommunityfund.org.uk
Ble: Ar-lein gyda Cefnogaeth Gymunedol a Gwirfoddol Conwy
Pryd: 13 Awst 2020, 9:00 – 16:00
Mwy o wybodaeth: Galw 01492 534 091 new e-bostiwch sabinadunkling@cvsc.org.uk
.
Ble: Ar-lein gyda Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam
Pryd: 27 Awst 2020, 10:00 – 13:00
Mwy o wybodaeth: E-bostiwch info@avow.org
.
Dim byd yn eich ardal?
Rydym yn diweddaru’r rhestr hon yn rheolaidd, felly gwiriwch yn ôl yma’n fuan. Os ydych yn cynnal digwyddiad ariannu ac eisiau i ni ddod iddo neu fe hoffech i ni gynnal digwyddiad yn eich ardal, e-bostiwch Rosie Dent gyda gwybodaeth: cymru@cronfagymunedolylg.org.uk.