Meddwl am ymgeisio i Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am grant?
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw’r ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU. Ein nod yw i helpu pobl a chymunedau i addasu, adfer a ffynnu. Credwn mai’r ffordd orau o wneud hyn yw rhoi pobl ar y blaen. Rydym am helpu i adeiladu ar gryfderau unigolion, a chymunedau i wella bywydau. Rydym yn agored i bob cais sy’n bodloni ein meini prawf, gan gynnwys cymorth yn ystod COVID-19. Mae gwybodaeth ac arweiniad ar gael ar ein gwefan ar gyfer pob un o’n rhaglenni ariannu. Mae dolen i bob un isod.
- Mae Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn cynnig grantiau rhwng £300 a £10,000 i gefnogi’r hyn sy’n bwysig i bobl a chymunedau. tnlcommunityfund.org.uk/arianibawb
- Mae Pawb a’i Le: Grantiau maint canolig yn cynnig dyfarniadau rhwng £10,001 a £100,000 ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n para hyd at bum mlynedd. tnlcommunityfund.org.uk/pawbailecanolig
- Mae Pawb a’i Le: Grantiau mawr yn cynnig dyfarniadau rhwng £100,001 a £500,000 ar gyfer prosiectau cymunedol sy’n para hyd at bum mlynedd. tnlcommunityfund.org.uk/pawbailemawr
Eisiau siarad â rhywun am eich syniad prosiect neu ofyn cwestiwn?
Mae ein Tîm Cymorth yn falch o helpu, byddant ar gael dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9:00am a 5:00pm trwy ffonio 029 2168 0214 neu yrru e-bost i cymru@cronfagymunedolylg.org.uk.
Os byddai’n well gennych siarad ar-lein, byddwn yn gwneud ein gorau glas i drefnu hwn. Er hynny, oherwydd y nifer uchaf o geisiadau a dderbyniwn, ni allwn gwrdd â phob prosiect. Isod mae rhestr o leoedd y byddwn yn ymweld â nhw dros yr wythnosau nesaf.
Hydref
Ble: Ar-lein gyda AVOW (Wrecsam)
Pryd: 25 Hydref – 10:00 – 13:00
Mwy o wybodaeth: nigel.davies@avow.org
Dim byd yn eich ardal?
Rydym yn diweddaru’r rhestr hon yn rheolaidd, felly gwiriwch yn ôl yma’n fuan. Os ydych yn cynnal digwyddiad ariannu ac eisiau i ni ddod iddo, e-bostiwch cymru@cronfagymunedolylg.org.uk gyda gwybodaeth.